1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2021.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws sectorau i ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc? OQ57035
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaeth, byrddau partneriaeth rhanbarthol a threfniadau partneriaeth lleol ym mhob bwrdd iechyd i gyd yn helpu i sicrhau dull cydweithredol a thraws-sector o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Mae elusen yn sir y Fflint sy'n darparu cymorth ac adferiad iechyd meddwl proffesiynol o ansawdd uchel yn y gymuned, gan gynnwys prosiect sy'n grymuso pobl ifanc i feithrin cadernid, magu hyder a rheoli emosiynau anodd, wedi dweud wrthyf fod arweinwyr ysgolion y maen nhw wedi siarad â nhw yn sir y Fflint yn wynebu cynnydd sylweddol i nifer y bobl ifanc yn eu gofal sy'n cyflwyno problemau a phryderon iechyd meddwl. Maen nhw'n dweud bod llawer o blant a phobl ifanc wedi eu heffeithio, eu trawmateiddio hyd yn oed, gan eu profiadau unigryw eu hunain o'r pandemig. Cafodd problemau yn cynnwys profedigaeth, ynysigrwydd, ofn salwch, marwolaeth, chwalu teuluoedd, tlodi, diweithdra, camddefnyddio sylweddau a thrais domestig i gyd eu gwaethygu oherwydd natur anochel cyfyngiadau symud olynol a'r mynediad llawer llai at rwydweithiau cymorth arferol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Maen nhw'n ychwanegu nad yw plant a phobl ifanc sy'n teimlo yn anniogel yn emosiynol neu mewn poen yn dysgu yn dda. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i alwad yr elusen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Estyn a chyrff rheoleiddio eraill yn addas at ddibenion ôl-bandemig, gyda phwyslais ar lesiant a lles disgyblion y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw, ac yn wir staff hefyd?
Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pellach hynny. Mae'r profiadau a adroddwyd ganddo, rwy'n credu, yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi cael sgyrsiau gyda phobl ifanc am eu profiad yn ystod y pandemig, a'r pryderon ynghylch eu dyfodol y mae wedi achosi iddyn nhw eu dioddef. Llywydd, roeddech chi'n ddigon caredig i drefnu nifer o gyfleoedd i mi a Gweinidogion eraill gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Senedd Ieuenctid yn ddiweddar, ac roedd iechyd a llesiant meddwl pobl ifanc bob amser yn un o'r materion pennaf yr oedden nhw eisiau ei drafod yn y fforymau hynny. Rwy'n credu bod Estyn wedi addasu ei ffordd o weithio yn fawr iawn i ystyried yr effaith ymarferol y mae'r pandemig wedi ei chael ar y ffordd y mae'n rhaid i athrawon fynd ati i wneud eu gwaith, ond hefyd i ystyried yr effaith y mae'r profiadau hyn wedi ei chael ar bobl ifanc, eu gallu i ddysgu a'r ffordd y maen nhw'n dod â'r agweddau eraill hynny ar eu bywydau gyda nhw i'r ysgol ac i mewn i'r ystafell ddosbarth. Ac, yn yr wybodaeth yr wyf i wedi ei chael am y newidiadau y mae Estyn wedi eu gwneud i'w ffyrdd ei hun o weithio, a phwyslais yr arolygiadau a gwaith arall y mae'n ei wneud yn yr ysgolion, rwy'n credu y gall hyn roi cryn hyder i ni fod y pwyntiau priodol iawn y mae'r sefydliad yn sir y Fflint wedi eu codi yn cael eu hystyried o ddifrif yn y gwaith y mae'n ei wneud.
Brif Weinidog, cysylltodd gŵr ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth â mi yn ddiweddar a chanmolodd waith canolfan ddydd Ty Canna yn eich etholaeth chi yng Ngorllewin Caerdydd. I'r rhai yn y Siambr nad ydyn nhw'n gwybod, mae Ty Canna yn darparu gwasanaethau pontio i bobl sy'n trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Ac mae'r gwaith hwn yn hollbwysig; fel y gwyddom, mae llawer gormod o bobl yn syrthio drwy'r rhwyd ar hyn o bryd. Y pryder sydd gan y gŵr ifanc hwn yw y bydd y gwaith da sy'n digwydd yng ngwasanaethau dydd Ty Canna yn cael ei golli os caiff y gwasanaethau eu symud oddi yno. Mae mewn lleoliad canolog cyfleus iawn ar hyn o bryd, ac mae adnoddau gwych yno. Mae'n cynnig preifatrwydd i'r rhai sydd ei angen. A wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda phartneriaid allweddol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ac i wneud yn siŵr nad oes rhagor o bobl ifanc yn cael eu colli o'r system? Diolch yn fawr, Brif Weinidog.
Wel, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Dwi'n gyfarwydd â Ty Canna, wrth gwrs.
Yn fy nghof i, mae'n wasanaeth sy'n cael ei ariannu yn gyfan gwbl gan Gyngor Caerdydd ar y naill law a'r bwrdd iechyd lleol ar y llaw arall. Nid wyf i'n cofio unrhyw fuddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn y gwasanaeth, ond mae yn gwneud yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud: mae'n helpu gyda'r rhan anoddaf honno o'n gwasanaethau cyhoeddus pan fydd cyfrifoldeb am berson ifanc yn cael ei drosglwyddo i bobl sy'n rhedeg gwasanaethau i oedolion. Mae'n siŵr y bu gennym ni i gyd rwystredigaethau ar wahanol adegau ynglŷn â'r ffordd y mae'n ymddangos bod gwasanaethau yn cael eu synnu gan y ffaith bod person ifanc wedi troi'n 18 oed. Ac mae gan Dy Canna enw da iawn yn hynny o beth. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r pwynt a godwyd gyda'r Aelod am leoliad y gwasanaeth. Wrth gwrs, byddaf i'n gwneud yn siŵr bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn unrhyw sgwrs yn gyffredinol.
Rwy'n credu, Llywydd, mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai ansawdd y gwasanaeth yn hytrach na'r lleoliad y'i darperir ohono yw'r peth pwysicaf yn y pen draw, a byddai angen i ni weld pa gynigion, os oes rhai o gwbl, sydd ar gael i gryfhau'r gwasanaeth ymhellach.
Hoffwn i ddiolch i'n Prif Weinidog am ei waith parhaus yng nghyswllt pobl ifanc ac iechyd meddwl, ac yn arbennig ei ymrwymiad i atal a mynediad cynnar at wasanaethau. Ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu cyfanswm o 1,359 o dderbyniadau i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. A fyddai'r Prif Weinidog cystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiadau maniffesto mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn rhan o'n dull ymyrraeth gynnar gan Lywodraeth Cymru?
Wel, diolch i Sarah Murphy am hynny, Llywydd. Mae'n rhoi cyfle i mi ailddatgan eto yr egwyddor o ddad-ddwysáu fel un o ysgogiadau sylfaenol y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau i bobl ifanc. Dylem ni fod yn ceisio ymyrryd ar y pwynt isaf posibl er mwyn mynd i'r afael â'u hanghenion yn hytrach na chaniatáu i'r anghenion hynny gynyddu i bwynt lle mai dim ond derbyniad i gyfleuster iechyd meddwl sy'n ddigonol i ymateb iddyn nhw.
Roedd treial y gwasanaeth mewngymorth CAMHS yn gadarnhaol iawn; rwy'n gwybod bod gan y pwyllgor yn y Senedd ddiwethaf a edrychodd ar y gwerthusiad farn gadarnhaol ohono. Ac ar sail hynny y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar £5 miliwn o gyllid i ganiatáu i fyrddau iechyd lleol gyflwyno'r treialon gan yr awdurdodau lleol hynny lle cafodd ei ddefnyddio gyntaf, er mwyn iddo fod ar gael ym mhobman. Mae £4 miliwn o'r £5 miliwn hwnnw bellach wedi ei gytuno gyda'r byrddau iechyd lleol dros yr haf, ac maen nhw bellach wrthi'n recriwtio pobl i wneud hynny. Bydd prosiect mewngymorth CAMHS yn llwyddo os yw'n gwneud yr hyn a ddywedodd Sarah Murphy: os yw'n caniatáu i fwy o bobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynharach yn yr anghenion hynny, i leihau nifer y bobl, fel y nododd, y mae angen iddyn nhw gael eu derbyn i gyfleuster iechyd meddwl yn yr ardal bwrdd iechyd lleol y mae'n ei chynrychioli.