Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae bwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaeth, byrddau partneriaeth rhanbarthol a threfniadau partneriaeth lleol ym mhob bwrdd iechyd i gyd yn helpu i sicrhau dull cydweithredol a thraws-sector o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.