Cymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 2:13, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddiolch i'n Prif Weinidog am ei waith parhaus yng nghyswllt pobl ifanc ac iechyd meddwl, ac yn arbennig ei ymrwymiad i atal a mynediad cynnar at wasanaethau. Ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu cyfanswm o 1,359 o dderbyniadau i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. A fyddai'r Prif Weinidog cystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymrwymiadau maniffesto mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn rhan o'n dull ymyrraeth gynnar gan Lywodraeth Cymru?