1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2021.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ57058
Diolch i'r Aelod, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â swyddogaethau amrywiol ar ran Gweinidogion Cymru, ond fel corff hyd braich, mae'n gweithredu yn annibynnol arnyn nhw. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr i fonitro ei effeithiolrwydd o ran cyflawni yn unol â'i fandad, gan gynnwys ein hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu.
Prif Weinidog, un o'r swyddogaethau allweddol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma yn ein gwlad ni yw cynorthwyo'r Llywodraeth o ran rheoli'r perygl o lifogydd, a rhoi cyngor a gwneud gwaith dilynol ar unrhyw lifogydd sy'n digwydd ledled y wlad. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, bu nifer o ddigwyddiadau llifogydd yn fy etholaeth i yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn Abergele, Pensarn, yn Rhuthun, yn Llanfair Talhaearn, ac mewn mannau eraill. Un o'r problemau cyffredin y mae'n ymddangos sy'n codi yn sgil llifogydd yw cyflymder Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwblhau ei waith dilynol ac yna'n gweithredu unrhyw newid ar lawr gwlad o ran buddsoddiad cyfalaf. Bu problemau yn Llanfair TH dros y blynyddoedd, ym Mhensarn, o ran y gwaith dilynol ar ymchwiliadau, a nawr yn Rhuthun, lle mae gwaith ond ar fin cychwyn er gwaethaf y ffaith y bu llifogydd sylweddol yno yn gynharach yn y flwyddyn ym mis Ionawr.
Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro pa mor gyflym y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau o'r fath i sicrhau bod gwaith dilynol digonol, sy'n brydlon ac yn gallu rhoi'r lefel orau posibl o ddiogelwch i drigolion?
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Llwyddais i ymweld â Llanfair TH fy hun, ac roeddwn i yng nghwmni Sam Rowlands ar yr ymweliad hwnnw fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y pryd. Roedd gennym ni gynrychiolwyr, wrth gwrs, o Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol. Roeddem ni'n gallu gweld y cynlluniau fel yr oedden nhw wedi eu gosod yn flaenorol, ac yna'r diwygiadau i'r cynlluniau hynny, a fydd yn cael eu hystyried o ganlyniad i'r gwahanol drywydd yr oedd y llifogydd wedi ei ddilyn yn y pentref hwnnw yn ystod y digwyddiad diwethaf.
Llywydd, rhoddodd Llywodraeth Cymru £9 miliwn o gyllid ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac roedd hynny ar y sail y bydd ymarfer adolygu sylfaenol o ddibenion Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gwblhau ar y naill law a'i flaenoriaethau ar y llaw arall. A bwriedir i'r adolygiad wneud yn siŵr bod yr arian a'r swyddogaethau yn cyd-fynd yn agos â ni i gyflawni'r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf i ar ddeall bod adroddiad drafft o'r adolygiad hwnnw wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'n bod ni'n disgwyl i'r adroddiad llawn gyrraedd yma ym mis Tachwedd. Fe wnaf i ofyn i fy swyddogion edrych ar yr adroddiad hwnnw ar ei ffurf bresennol, i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi sylw i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.