Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Ddoe, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i amlinellu fy uchelgeisiau o ran symud ein heconomi ymlaen wrth i ni ymdrechu i weld Cymru sy'n fwy cadarn, teg, a gwyrdd. Roeddwn i'n falch o gael ymuno â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, Cyngres Undebau Llafur Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddechrau sgwrs ynglŷn â sut y gallwn ni gydweithio i gael adferiad tîm Cymru y mae pob un ohonom ni'n helpu i'w ddatblygu. Mae'n rhaid i adferiad cadarn i Gymru sy'n addas ar gyfer y tymor hir fod wedi ei seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gyda buddsoddiad yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Ers fy mhenodiad ym mis Mai eleni, rwyf i wedi ymweld ag amrywiaeth o fusnesau ledled Cymru i gael ymdeimlad o'u gobeithion a'u pryderon wrth i ni wynebu'r hyn a fydd yn ddyddiau olaf y pandemig hwn, gobeithio.
O'r economi bob dydd a wnaeth ein cynnal drwy'r argyfwng i'r arloesi sy'n arwain y byd sy'n sbarduno ein gweithgynhyrchu uwch, rwyf i wedi gweld bod llawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Serch hynny, mae heriau realiti Brexit, adferiad cyfnewidiol, ac absenoldeb cynllun yn y DU i ddisodli cyllid yr UE yn cyflwyno heriau mawr i fusnesau a gweithwyr ledled Cymru. Wrth i ni symud ymlaen gyda'n rhaglen lywodraethu, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol ni wedi gofyn am sgyrsiau a chyfaddawdau anodd, sydd wedi eu hysgogi yn aml gan ddiffyg adnoddau a'r angen i symud yn gyflym gyda gwybodaeth rannol drwy'r pandemig ei hun. Eto i gyd, mae'r ddeialog hon wedi gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac mae'n siŵr ei bod hi wedi helpu i achub bywydau a bywoliaethau.
Wrth i ni symud ein heconomi ymlaen, fe fydd, wrth gwrs, ragor o benderfyniadau anodd na fyddan nhw'n plesio ein partneriaid i gyd, ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur y byddai dychwelyd at gyni ym mhopeth ond yr enw ar lefel y DU yn cyfyngu ar ein gallu i weithredu ac yn peri niwed economaidd a chymdeithasol gwirioneddol. Llywydd, mae'r rhain yn heriau sy'n gwneud deialog yn fwy angenrheidiol nag erioed. Byddwn ni i gyd yn elwa ar weithio fel partneriaid dibynadwy, gan rannu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen ag ymdeimlad o bartneriaeth. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yn ystod yr uwchgynhadledd ddoe, bartneriaid cymdeithasol yn ymrwymo i'r model tîm Cymru hwn i fod yn gyfraniad pwysig at ein hadferiad. Bydd ein cynlluniau yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r genhadaeth o gydnerthedd economaidd ac ailgodi a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, gyda chamau gweithredu yn canolbwyntio ar ein cymunedau yn y rhaglen lywodraethu newydd.
Yn ddiweddar, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen Twf Swyddi Cymru+, a fydd yn helpu i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i'r rhai nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac mae hon yn nodwedd bwysig o'n gwarant ni i bobl ifanc ac yn ychwanegu at gryfder y cynlluniau sy'n bodoli eisoes. Byddwn yn cynnig cyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel gyda chyfrifon dysgu personol sydd â'r bwriad o roi hwb i'w henillion posibl, a byddwn yn ychwanegu at ein henw da o ran prentisiaethau, drwy ddarparu 125,000 o leoedd ychwanegol yn y tymor Senedd hwn. Bydd ein strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau sydd i ddod yn cryfhau ein henw da o ran lleihau'r rhaniad sgiliau, gan ganolbwyntio ar gymorth i'r rhai sydd wedi ymbellhau fwyaf o'r farchnad lafur. Byddaf i'n cefnogi twf cynrychiolwyr materion gwyrdd undebau hefyd i helpu i sicrhau bod ein trawsnewidiad i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. A byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull rhywbeth-am-rywbeth ac yn cryfhau'r cyswllt economaidd. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â datblygu economi gryfach yng Nghymru, bydd yn rhaid i arian cyhoeddus Cymru gefnogi gwaith teg, gweithredu o ran newid hinsawdd a'r sgiliau a fydd yn datgloi dawn ledled Cymru.
Byddwn yn lansio'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol hefyd er mwyn cefnogi economïau lleol sy'n fwy deinamig. Bydd gen i fwy i'w ddweud eto fis nesaf ynghylch sut y bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer yr economi sylfaenol yn helpu i greu cadwyni cyflenwi byrrach, lleihau allyriadau, a throi ein cynlluniau o ran tai, iechyd, trafnidiaeth ac ynni yn swyddi gwell yn nes at adref. Byddaf i'n gwneud mwy hefyd i gefnogi'r economi gydweithredol, sydd â chynaliadwyedd wrth ei hanfod yn ôl ei thraddodiad. Mae hynny'n cynnwys cefnogi rhagor o gynlluniau lle mae gweithwyr yn prynu cwmnïau er mwyn diogelu swyddi a chadw busnesau hyfyw yng Nghymru.
Llywydd, mae Cymru yn gartref balch i sectorau gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf yn y byd, megis modurol, dur, ac awyrofod. Byddwn yn llunio partneriaeth â nhw i'w helpu i symud tuag at ddyfodol carbon isel sy'n cynnal swyddi. Mae'r dasg honno bellach yn fater o frys yn ein sector dur. Nid yw'r gallu i gyd gennym ni o fewn gafael y Llywodraeth hon, a dyma'r amser nawr i Lywodraeth y DU weithredu. Rwy'n awyddus i weld cynllun sy'n adeiladol lle bydd ein cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ategu'r camau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ond dim ond pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn San Steffan y bydd hynny'n bosibl. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn eglur: cyflwynwch eich bargen a gadewch i ni weithio ar gynllun ar y cyd i weld sector dur ffyniannus mewn economi ddiogel, carbon isel.
Bydd ein cynlluniau yn golygu ffyrdd newydd o weithio ar draws y Llywodraeth hefyd. Rwyf i'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i ystyried sut y gall Cymru ennill y swyddi gwyrdd ychwanegol a ddaw yn sgil diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Wrth i dechnolegau newydd wneud lleoliadau gwaith yn llai perthnasol a gyda buddsoddiad newydd mewn datgarboneiddio, mae Cymru mewn sefyllfa ragorol i ddatblygu arloesedd ag effaith fyd-eang. Yn y cyd-destun hwn, mae'r adolygiad o wariant sydd ar ddod yn gyfle pwysig i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad a'i huchelgais i Gymru. Byddai'n argoeli yn dda pe gellid cael y cyllid llawn a addawyd i Gymru dro ar ôl tro yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE, cefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy mawr a chynllun ar gyfer diwydiannau ynni dwys, cyllid i ymdrin â'n tomenni glo, caniatáu i Gymru fuddsoddi yn y dechnoleg, y swyddi a'r sgiliau y byddai hyn yn eu cynnig, a chyfran deg i Gymru o'r buddsoddiad ymchwil a datblygu a wneir ledled y DU. Fodd bynnag, yr argoel yw gallai'r adolygiad o wariant olygu penderfyniadau anoddach byth i ni wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Byddai hynny'n golygu ystyried y blaenoriaethau yn fanwl os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod rhoi caniatâd i Gymru wneud penderfyniadau ynghylch gwario'r arian o'n cronfeydd newydd yn lle rhai'r UE.
Fy ngobaith i yw, drwy gymryd camau beiddgar, y byddwn yn creu dyfodol lle bydd mwy o bobl ifanc yn teimlo nad oes angen iddyn nhw adael eu bro i lwyddo. Bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn benodol. Ar yr un pryd, os bydd mwy o bobl yn gwneud y dewis cadarnhaol i ddod i weithio a byw yng Nghymru, gallwn ni fynd i'r afael â'r risgiau sy'n deillio o'r dirywiad yn ein poblogaeth sydd o oedran gwaith. Byddwn yn datblygu cynnig cydlynol a chymhellol ac yn archwilio cyfleoedd pellach i gadw graddedigion a chymorth i fusnesau newydd i annog twf mwy o gwmnïau sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.
Rwyf wedi cyffroi ynglŷn â'r cyfle sydd gennym i saernïo'r economi Gymreig hon sy'n gryfach, tecach, a gwyrddach. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau a dealltwriaeth yr Aelodau o'r ffordd y gallwn ni wireddu hyn. Diolch, Llywydd.