Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 19 Hydref 2021.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei fod yn dechrau trafodaeth ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gydweithio i gael adferiad tîm Cymru. Er hynny, dylai hyn fod wedi bod yn brif amcan i'r Gweinidog ers ei benodi yn Weinidog yr Economi bron i chwe mis yn ôl erbyn hyn.
Nawr, wrth i ni symud i'r dyfodol, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i roi hwb gwirioneddol i hyn drwy gyflwyno'r newid y mae angen mawr amdano i gefnogi busnesau a chreu'r amodau ar gyfer twf ar ôl y pandemig. Mae hi'n gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gallu i wneud Cymru yn gyrchfan fwy deniadol i fusnesau, ac er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid iddi fynd ati i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi cynaliadwy, creu arferion caffael cyhoeddus rhwyddach, ac adolygu'r system gynllunio i'w gwneud yn fwy parod i ymateb i heriau'r dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadarnhau heddiw fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr i ddiwygio arferion caffael a'r system gynllunio, ac efallai y gwnaiff roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd bellach.
Nawr, rwyf i wedi pwyso ar y Gweinidog eisoes am yr angen i greu amgylchedd buddsoddi cryfach yng Nghymru, gan dynnu sylw at adroddiad mynegai ffyniant y DU yn 2021, sy'n dweud bod economi Cymru yn wan ac wedi ei thanseilio gan seilwaith annigonol ac amodau gwael ar gyfer menter. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gefnogi busnesau sydd ar gychwyn a newydd o bob math, ac rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu hynny. Er hynny, mae angen gwneud mwy i wella'r amgylchedd buddsoddi yng Nghymru yn wirioneddol, ac felly rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cyflenwad cyfalaf, a sut yn benodol y bydd yn gwella'r cyllid sydd ar gael ac yn darparu cymorth menter i helpu busnesau newydd.
Nawr, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda busnesau ledled Cymru a sefydliadau busnes, mae'r angen i wella seilwaith a buddsoddiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Dangosodd adroddiad cyn y pandemig gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fod materion seilwaith wedi effeithio ar 63 y cant o fusnesau bach yng Nghymru. Felly, mae hi'n destun siom nad oes unrhyw gyfeiriad nac ymrwymiad i wella seilwaith nac unrhyw fanylion yn ymwneud â buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn y datganiad heddiw. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi methu â darparu cynllun hirdymor hyd yn hyn o ran gwaith seilwaith arfaethedig, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yn union y mae'r comisiwn yn ei wneud a phryd y byddwn yn gweld cynlluniau ganddyn nhw o ran gwaith seilwaith dros y blynyddoedd nesaf, a fydd, yn ddiamau, yn cael effaith enfawr ar ein heconomi wrth symud ymlaen.
Nawr, agwedd allweddol arall ar symud economi Cymru ymlaen yw sicrhau y bydd mynd i'r afael â'r prinder sgiliau yng Nghymru yn digwydd mewn modd priodol. Mae angen i ni weld mwy o eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â bylchau sgiliau yng Nghymru, ac mae angen i ni wybod pa drafodaethau sy'n digwydd gyda busnesau a darparwyr addysg. Yn wir, fel mae datganiad heddiw yn ei gydnabod, mae Cymru yn parhau i hyrwyddo economi fwy gwyrdd ac yn sicrhau bod y trawsnewid i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau a yw archwiliad a chynllun sgiliau sero net yn yr arfaeth, a phryd y caiff hwnnw ei gyhoeddi. Yn wir, efallai y gall ddweud mwy wrthym ni hefyd am rai o'r camau tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yma yng Nghymru.
Nawr, ynghyd â mynd i'r afael â phrinder sgiliau, mae angen amlwg i greu gwell cysylltiadau rhwng busnesau a diwydiannau a darparwyr addysg a hyfforddiant, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio i ddod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod yr angen i annog arloesedd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru. Fe wnaeth adolygiad Reid, yn ddefnyddiol iawn, ddarparu'r ymrwymiadau gwariant pe byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol ar arian newydd oddi wrth yr UE, neu beidio, ac felly nid oes unrhyw esgus dros ddiffyg cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru o ran ei blaenoriaethau ymchwil ac arloesi. Yn wir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn y galwadau yn adolygiadau Diamond a Reid, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu pob un o'r argymhellion yn yr adolygiadau penodol hynny sy'n weddill.
Llywydd, mae'r Gweinidog eisoes wedi cadarnhau gwarant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o gyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel, gyda chyfrifon addysg bersonol wedi eu cynllunio i roi hwb i'w potensial i ennill cyflog. Er hynny, rwyf i wedi siarad â nifer di-rif o sefydliadau busnes, darparwyr addysg bellach ac, yn wir, sefydliadau'r trydydd sector ac mae pob un wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n gwybod fawr ddim am y cynllun, nad ydyn nhw wedi cyfrannu ato o gwbl ac nad oes ganddyn nhw syniad sut mae'r warant yn cael ei datblygu na'i mesur. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau heddiw sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau ynglŷn â'r agenda hon, a sut y bydd yn sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Mae symud economi Cymru ymlaen yn gofyn arweiniad ac ymrwymiad difrifol i greu'r amodau i fusnesau dyfu a datblygu drwy wneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol i gynnal busnes. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi, yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Ac efallai y cawn ni glywed ychydig mwy ganddo am y gwaith sy'n cael ei wneud yn benodol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Felly, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwneud yr hyn a allwn i ymgysylltu'n adeiladol ar yr agenda hon i gefnogi a datblygu ein heconomi gorau y gallwn ni i'r dyfodol? Diolch i chi.