5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:39, 19 Hydref 2021

Nid gwastraff amser oedd comisiynau'r gorffennol. Maent wedi arwain at gryfhau'r lle hwn a gwella bywydau pobl Cymru. Rwy'n siŵr bod Rowan Williams yn gyfarwydd iawn â phregethu gyda thri phen; gaf i'ch atgoffa chi heddiw am dri chomisiwn blaenorol?

I ddechrau, comisiwn yr Arglwydd Richard, 'Trefn Llywodraethu Gwell', a hyn yn arwain at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fe wnaeth hwn roi pŵer inni basio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd penodedig. Roedd y Ddeddf hefyd yn gwahanu'r Cynulliad o'r Llywodraeth—hyn yn arbennig i ni fel democratiaeth yng Nghymru ac yn dilyn arferiad democratiaeth ledled y byd.

Yna Confensiwn Cymru Gyfan, a hyn yn arwain at bwerau llawn ym meysydd datganoledig wedi refferendwm 2011, a fi, fel Darren Millar, yn ymgyrchu yn hwnnw—dim gyda'n gilydd, wrth reswm. Ond roedd yna deimlad cyffrous fanna, Darren, bryd hynny—y pleidiau'n cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r hyn oedd yn dda i bobl Cymru. Roedd yr holl bleidiau yn rhoi'r genedl yn gyntaf i gael gwared ar yr LCOs llafurus. Fisoedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, roeddech chi'n cael eich ethol i'r lle hwn mewn cyfnod mor gyffrous a hyderus i ni fel sefydliad.

Ac yna comisiwn Silk—ŷch chi'n cofio comisiwn Silk, draw fanna? Chi, Lywodraeth Dorïaidd wnaeth gomisiynu hynny, a hynny'n arwain at Ddeddf Cymru 2014, a'r model pwerau cadw nôl, y reserved-powers model, a hynny'n meddwl ein bod ni'n gallu pasio cyfreithiau mewn unrhyw faes oedd ddim wedi cael ei gadw'n ôl gan Senedd y Deyrnas Unedig. Ac yn ail ran comisiwn Silk, y rhan fwyaf o'r argymhellion hynny'n cael eu derbyn gan y Llywodraeth Dorïaidd, a hynny'n arwain at gytundeb Gŵyl Ddewi 2015.

Ie, nid gwastraff amser yw comisiynau o gwbl, ond ffordd i adeiladu'r genedl. Oherwydd fel mae Darren Millar wedi dweud, mae Cymru wedi bod ar daith, ac mae'r daith yn parhau, er gwaethaf ymdrechion rhai pobl. Mae Brexit, mae COVID-19, yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, yr hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon wedi arwain sawl person yng Nghymru i ailasesu'r sefyllfa, ailystyried dyfodol cyfansoddiadol ein gwlad ni. Ac yn wahanol i'r holl gomisiynau blaenorol, y tro yma bydd annibyniaeth yn cael ei thrafod yn swyddogol. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen ar ein taith ni. Hon fydd y sgwrs genedlaethol fwyaf yn hanes Cymru fel gwlad ddatganoledig. Dwi'n croesawu'n fawr iawn apwyntiad Laura McAllister a'r Parch Ddr Rowan Williams i'w rolau a dwi'n dymuno'n dda iddynt fel cyd-gadeiryddion.