5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol

– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:17, 19 Hydref 2021

Dyma ni'n cyrraedd y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y comisiwn cyfansoddiadol. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

Diolch, Llywydd. Llywydd, cyn toriad yr haf, fe wnes i ddatganiad i'r Aelodau a oedd yn sôn am y cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Heddiw, rwy'n gallu rhannu gyda chi'r gwaith yr ydym wedi'i wneud ers hynny, ac yn benodol y gwaith o wneud penodiadau i'r comisiwn annibynnol a chyhoeddi'r amcanion eang.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, cyn toriad yr haf, gwnes i ddatganiad i'r Aelodau yn nodi'n fanylach y cynlluniau ar gyfer comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. A heddiw, gallaf barhau i rannu gyda chi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud ers hynny, ac yn arbennig o ran penodiadau i'r comisiwn annibynnol a chyhoeddi'r amcanion cyffredinol.

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod ein hundeb o bedair gwlad dan bwysau fel erioed o'r blaen a bod angen diwygio ar frys erbyn hyn. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymdrechu'n gyson i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladol. O'n rhan ni, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi ceisio ysgogi trafodaeth dro ar ôl tro am ddyfodol hyfyw i'r Deyrnas Unedig.

Yn 2017, fe wnaethom gyhoeddi 'Brexit a Datganoli', a oedd yn nodi ein cynigion ar gyfer ymateb cadarnhaol a chreadigol i oblygiadau cyfansoddiadol ymadael â'r UE. Ac yn 2019, nododd 'Diwygio ein Hundeb' ein 20 cynnig ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol, a chyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru gennym yn gynharach eleni. Fodd bynnag, ymddengys mai eu hunig ymateb yw ceisio mynnu rhyw fath o unoliaeth gyhyrol, ceisio mwy o reolaeth o’r canol, tresmasu ar faterion cymhwysedd datganoledig a dangos ei pharch at ein Senedd drwy dorri confensiwn Sewel a thanseilio'r setliad datganoli a democratiaeth Gymreig.

Nid yw'r materion hyn yn ymwneud â rhyw ddadl gyfansoddiadol ddi-baid rhwng pleidiau gwleidyddol neu Lywodraethau, ond maen nhw’n mynd at wraidd ein democratiaeth, ac yn ein barn ni, mae'r achos dros ddiwygio cyfansoddiadol wedi'i wreiddio yn y broses o rymuso pobl Cymru, gan alluogi penderfyniadau sy'n effeithio ar les ein cymunedau a'n cenedl i gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Sefydlu'r comisiwn annibynnol yw'r cam nesaf yn y ddadl honno. Mae'r amser yn iawn ar gyfer sgwrs genedlaethol ddifrifol yng Nghymru am yr opsiynau ar gyfer ein dyfodol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:20, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, amcan cyffredinol cyntaf y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Rydym yn dymuno i'r comisiwn annibynnol gychwyn sgwrs â phobl Cymru ynghylch beth allai'r opsiynau hynny fod.

Mae ein hundeb dan fwy o fygythiad heddiw nag ar unrhyw adeg, ac ni ellir anwybyddu hyn: o Lywodraeth bresennol y DU a'i hymdrechion mynych i danseilio datganoli, i alwadau o'r newydd am ddatganoli yn Lloegr, i'r pwysau am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, a'r trafodaethau parhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon. Felly, ail amcan cyffredinol y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Nawr, nid ydym o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg sy'n wynebu'r comisiwn annibynnol. Mae hon yn sgwrs sy'n fwy na gwahaniaethau gwleidyddol pleidiol. Er mwyn bod yn ystyriaeth ystyrlon o farn Cymru gyfan, mae angen i'r comisiwn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth a gallu ystyried y sbectrwm barn a phrofiadau. Bydd y comisiwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn gallu cael gafael ar adnoddau Llywodraeth Cymru i wneud eu gwaith, ond bydd cadeiryddion ac aelodau'r comisiwn yn pennu eu cyfeiriad eu hunain.

Rwy'n falch iawn o ddweud wrth y Senedd yn ffurfiol am y cyhoeddiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, ein bod wedi sicrhau dau berson o'r safon uchaf i arwain y gwaith hwn fel cyd-gadeiryddion y comisiwn: Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister. Mae Laura McAllister yn academydd o Gymru, yn gyn bêl-droedwraig rhyngwladol ac yn uwch weinyddwr chwaraeon. Ar hyn o bryd mae'n athro polisi cyhoeddus a llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n adnabyddus fel dadansoddwr a sylwebydd gwleidyddol, ac mae hi wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar nifer o brosiectau i'w diwygio i'n sefydliadau.

Mae Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, yn academydd a diwinydd nodedig sydd ag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol. Mae eu cefndiroedd a'u profiadau yn creu cyfuniad pwerus, sy’n gallu dod â chonsensws gan hefyd herio pawb sy'n gysylltiedig i feddwl yn greadigol am ein dyfodol cyfansoddiadol. Rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd cynhyrchiol iawn gyda'r cyd-gadeiryddion am y comisiwn annibynnol, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr arweiniad y byddan nhw'n ei roi i'r gwaith hwn.

Hoffwn ddiolch i bob plaid yn yr ystafell hon am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u cefnogaeth adeiladol wrth sefydlu'r comisiwn annibynnol. Rwyf yn ddiolchgar am yr amynedd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan bawb sy'n gysylltiedig. Rwy'n fodlon bod yr amcanion cyffredinol yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng cyfarwyddo gwaith y comisiwn annibynnol, a rhoi'r rhyddid iddyn nhw ddatblygu argymhellion yn annibynnol ar y Llywodraeth, a'u gallu i ymgysylltu'n rhydd ac yn agored â phawb sydd â diddordeb.

Mae disgwyl i'r comisiwn ddechrau ar y gwaith fis nesaf. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran penodi aelodau i'r comisiwn annibynnol, ac rwy’n bwriadu cyhoeddi gweddill yr aelodau yn ddiweddarach y mis hwn neu'n gynnar yn y mis canlynol. Bydd y comisiwn annibynnol hefyd yn gallu comisiynu ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy banel o arbenigwyr a sefydlwyd at y diben hwn. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach i'r Senedd ar gynnydd y comisiwn annibynnol o ran ymgysylltu, ac ar sefydlu'r panel arbenigol.

Rydym yn rhagweld adroddiad interim gan y comisiwn annibynnol erbyn diwedd 2022. Dylai'r comisiwn annibynnol lunio'r adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023. Bydd yr amcanion cyffredinol ar gael ar wefan y comisiwn annibynnol.

Mae hon yn fenter hanfodol bwysig. Mae'n ymwneud â dyfodol Cymru a llesiant a ffyniant pobl Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd am ei weld yn llwyddo, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfnod o waith ac ymgysylltiad trawsbleidiol adeiladol ledled Cymru i gyflwyno adroddiad cryf gydag argymhellion beiddgar. Byddaf yn diweddaru'r Senedd eto ar ôl i aelodau annibynnol y comisiwn gael eu penodi, ac ar ôl cyfarfod cyntaf y comisiwn annibynnol. Diolch, Llywydd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:25, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n siomedig ei fod wedi'i hyrwyddo yn y cyfryngau am gyfnod mor hir cyn iddo gael ei wneud i Aelodau'r Senedd, ond mae'n debyg mai dyna'n union yr ydym ni'n dod i arfer ag ef yma o dan Lywodraeth bresennol Cymru.

Rwy’n credu ein bod wedi cofnodi'r ffaith y byddwn ni'n cymryd rhan yn y comisiwn hwn. Rydym wedi gwneud hynny'n eithaf clir. Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig cael llais unoliaeth wrth y bwrdd, a llais y canol-dde wrth y bwrdd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu'n fawr o weld bod annibyniaeth yn un o'r pethau yr ydych chi wedi rhoi'r dasg i'r comisiwn hwn ei ystyried, oherwydd fe wyddom ni i gyd, ac mae wedi’i bwysleisio gan eich Prif Weinidog eich hun, fod annibyniaeth ar y papur pleidleisio yn etholiadau diweddar y Senedd, oherwydd yr oedd yn flaenllaw ac wrth wraidd ymgyrch Plaid Cymru, ac fe'i gwrthodwyd yn llethol. Yn wir, aeth cyfran Plaid Cymru o'r bleidlais i lawr. Felly, mae y tu hwnt i mi pam ar y ddaear y dylid rhoi'r dasg i'r comisiwn edrych ar annibyniaeth ac ystyried annibyniaeth, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru'n cwyno gyson am beidio â chael digon o adnoddau i allu gwneud y gwaith go iawn y mae pobl eisiau i chi fwrw ymlaen ag ef, sef datrys yr ôl-groniad yn ein GIG, mynd i'r afael â'r problemau yn ein heconomi, a darparu'r addysg dal i fyny mae ar bobl ifanc ledled Cymru ei hangen yn ddirfawr.

O ran penodi'r cyd-gadeiryddion, rwyf yn croesawu'n fawr benodiad Rowan Williams. Rwy'n credu bod hynny'n benodiad cadarn iawn. Ond bydd rhai pobl, wrth gwrs, yn cwestiynu penodiad Laura McAllister. Byddan nhw'n cwestiynu ei phenodiad oherwydd, wrth gwrs, mae'n gyn-ymgeisydd Plaid Cymru mewn dau etholiad seneddol. Byddan nhw'n cwestiynu a oes ganddi farn eisoes ar y materion hyn, ac a yw'n gwbl annibynnol yn y ffordd y gall drefnu busnes y comisiwn penodol hwn. Felly, gofynnaf i chi, Gweinidog: pam y gwnaethoch chi benderfynu mai Laura McAllister oedd y cyd-gadeirydd priodol i’w phenodi ochr yn ochr â Rowan Williams, o ystyried ei hanes fel ymgeisydd Plaid Cymru? Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn difrifol mae pobl yn dechrau ei ofyn.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn siomedig, mewn gwirionedd, na fu ymgysylltiad priodol â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu'r comisiwn hwn, oherwydd fe wyddom ni i gyd nad yw cael adroddiad unochrog a gynhyrchwyd gan y comisiwn penodol hwn, sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig, yn mynd i ddelio â mater ehangach diwygio cyfansoddiadol ledled y DU, oherwydd mai dim ond mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig y gellir cynnal hynny. Felly, pam ydych chi'n teimlo ei bod yn flaenoriaeth bwrw ymlaen â'r gwaith hwn? Beth am gael sgyrsiau pellach gyda Llywodraeth y DU i allu penderfynu ar ffordd ymlaen ar sail pedair gwlad?

Rwyf wedi nodi bod yr amserlen ar gyfer gwaith y comisiwn hwn yn ymddangos yn hir iawn. Pam mae'n ddwy flynedd? Pam, yn eich barn chi, mae angen dwy flynedd ar y comisiwn i ddod i'w gasgliadau terfynol? Beth yw goblygiadau hynny o ran y costau sy'n gysylltiedig â'r comisiwn hwn? A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r costau yr ydych chi wedi cyllidebu ar eu cyfer o fewn eich adnoddau cyfyngedig fel Llywodraeth Cymru? A fydd yr aelodau annibynnol yn cael eu talu? A fydd y cyd-gadeiryddion yn cael eu talu? Os felly, beth yw eu tâl? Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig y mae angen i ni eu gwybod a dylid rhannu hynny yn gyhoeddus.

Rydych chi, yn amlwg, wedi dweud ychydig wrthym ni am y cylch gorchwyl, ac rwy'n nodi bod datganiad a gyhoeddwyd y prynhawn yma tra'r oeddem ni yn y Siambr. Mae'n beth da fy mod i’n gwirio fy negeseuon e-bost, Llywydd, neu fel arall ni fyddwn wedi gallu ei weld. Gallaf weld mai dau amcan cyffredinol syml yw'r cylch gorchwyl. Yn wir, maen nhw mor eang fel na fyddai'n fy synnu pe bai'r comisiwn hwn yn cymryd 20 mlynedd i lunio ei argymhellion. Byddwn i'n gofyn a oes unrhyw fanylion pellach y gallwch chi eu rhoi i ni o ran y cylch gorchwyl neu ai dyna ni’n syml, y ddau amcan cyffredinol hynny:

'Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;' ac

'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar'.

Beth mae hynny’n ei olygu? Beth mae 'prif opsiwn blaengar' yn ei olygu 'i gryfhau democratiaeth Cymru'? Ydy hynny'n golygu, o gofio bod pob peth ar y bwrdd, y byddwch chi'n ystyried diddymu'r Senedd? Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni yn ei gefnogi, ond, yn amlwg, mae hynny'n opsiwn y gellid ei ystyried fel rhan o'r sylw am fod â phopeth ar y bwrdd, yr wyf wedi'i glywed gan un o'r cyd-gadeiryddion hyd yn hyn.

Rydych chi wedi cyfeirio at y panel o arbenigwyr ac rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n dweud mwy wrthym ni am bwy yw'r arbenigwyr hynny. A gaf i ofyn i chi pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'w safbwyntiau sydd eisoes wedi'u datgan ymlaen llaw pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gwneud penodiadau i'r panel hwnnw o arbenigwyr, ac yn wir yr aelodau annibynnol eraill yr ydych i'w penodi eto?

Gallaf weld bod fy amser ar ben. Mae gennyf gwpl o gwestiynau eraill os caf i, Llywydd; mae'n fater pwysig. Un o'r heriau sydd gennym ni yma yng Nghymru yw bod yn rhaid i ni fynd â'r cyhoedd gyda ni ar unrhyw daith wrth symud ymlaen. Mae'r cyhoedd wedi'u darbwyllo o'r awydd i gael Senedd sy'n gryf, sydd â phwerau deddfu yng Nghymru, ac ymgyrchodd llawer ohonom mewn refferenda ar gyfer hynny. Yn wir, yn y refferendwm diwethaf, ymgyrchais yn drwm dros Senedd rymus gyda phwerau deddfu. Ond os ydych chi'n sôn am fynd â phethau ymhellach o ran y llwybr annibyniaeth hwn, yna mae arnaf ofn y gallaf weld y gefnogaeth hon i'n Senedd yn ei heffeithio’n andwyol. Ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried hynny? Oherwydd rydw i’n ofni ei fod yn rhywbeth a allai danseilio'r Senedd hon a'r gefnogaeth iddi o ddifrif.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:31, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad? Rydych chi wedi codi materion sy'n bwysig o ran eich safbwynt gwleidyddol. A gaf i ddiolch hefyd i'ch plaid am yr ymgysylltiad rwyf wedi'i gael hyd yn hyn? Ac, wrth gwrs, bydd mwy o ymgysylltu, oherwydd ymhen sawl wythnos, byddwn ni'n gallu cyhoeddi, gobeithio, y comisiwn llawn, ac yna bydd gennych chi ddarlun llawn o'r comisiwn bryd hynny. Rwyf yn falch y bydd Ceidwadwyr Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon, ac rwy'n credu ei bod yn broses bwysig. P'un ai eich barn chi yw eich bod yn credu ei fod yn angenrheidiol ai peidio, serch hynny, mae gennym ymrwymiad maniffesto ar gyfer y comisiwn hwn, a bydd y comisiwn hwnnw'n mynd rhagddo.

O ran annibyniaeth, nid yw hwn yn gomisiwn sy'n ymwneud ag annibyniaeth, nid yw'n ymwneud ag unoliaeth, nid yw'n ymwneud â ffederaliaeth. Mae'n ymwneud ag archwilio'r opsiynau a fydd yn gwella llywodraethu Cymru, dyfodol Cymru, ei rôl o fewn y DU, a'r holl heriau y gwyddom sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Nid yw'n syndod i chi—rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon—pan oeddwn i'n aelod o'r fforwm rhyngseneddol, a oedd yn drawsbleidiol ar draws holl Seneddau'r DU, dau dŷ San Steffan, roedd cydnabyddiaeth gyffredin ar draws y pleidiau nad yw'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn addas i'r diben. Rwyf wedi dweud droeon fod rhan o'r hyn yr oedd y papur 'Diwygio ein Hundeb' yn ei olygu'n gynharach yn cynnig atebion i hynny, ac ymgysylltu. Felly, pan fydd yr Aelod yn gofyn i ba raddau yr ydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, wel, yn anffodus, rydym ni wedi cyflwyno ein cynigion droeon. Rydym ni wedi cyflwyno'r gwahanol argymhellion, ac mae'n cymryd dau i gydweithio. Yn anffodus, ein hochr ni yn unig sy'n cyfrannu. Dyna pam y mae'n rhaid i ni symud i'r cam hwn yn awr, a dyna pam y cawsom ni y mandad yn ystod yr etholiad i gael y comisiwn annibynnol hwn.

O ran Laura McAllister, mae hi'n rhywun sydd, yn fy marn i, ag enw da a hygrededd sy'n rhedeg ar draws pleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu ei bod yn gyd-gadeirydd delfrydol, yn gweithio ochr yn ochr â Dr Rowan Williams. Ac, wrth gwrs, ar y comisiwn hwn, nid ydym yn sôn am bobl sydd yno i gynrychioli safbwynt plaid wleidyddol; maen nhw yno am eu sgiliau a'u gallu. Tybed a fyddech chi’n dweud yr un peth am gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, a oedd yn gyn-ymgeisydd Ceidwadol. Mae'r pwyntiau hynny'n cael eu gwneud gennych chi, mae ganddyn nhw hawl i gael ateb, ond rwy'n credu bod y dystiolaeth yn yr hyn mae Laura McAllister yn ei wneud, yr hyn mae'r comisiwn yn ei wneud. Dydw i ddim yn credu y gall fod unrhyw un wedi gwrando ar Radio Wales y bore yma a chlywed ei disgrifiad o sut mae'n gweld y comisiwn yn mynd o gwmpas ei waith, ac archwilio'r holl faterion ac opsiynau i Gymru, nad yw wedi creu argraff arno. Yn wir, rwy'n siŵr ei bod hi wedi creu argraff ar bob un ohonoch chi. Rwy’n gwerthfawrogi eu bod nhw’n bwyntiau mae'n rhaid i chi eu gwneud.

Rydych chi’n gwneud pwynt am y ddwy flynedd; wel, gallai fod yn fyrrach. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw mai un o swyddogaethau'r comisiwn, yn amlwg, yw dylanwadu ar yr hyn a allai ddigwydd mewn etholiadau cyffredinol yn y dyfodol, i gyflwyno safbwynt o Gymru, ein bod ni ein hunain yn manteisio ar y fenter o ran sut y credwn y gallai'r diwygiadau i'r DU ddigwydd, a hefyd beth allai'r opsiynau fod i Gymru o ran pethau a allai ddigwydd sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, boed o fewn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

O ran y gost a'r tâl, bydd pecyn cydnabyddiaeth sy'n debyg i'r holl gomisiynau eraill sy’n cael eu sefydlu. Pan fyddwch chi’n gofyn i bobl gymryd cyfnodau hir o amser a gwaith sylweddol allan o'u bywydau gwaith, mae hynny'n arferol. Ysgrifennaf atoch ar wahân am y rheini. Bydd y rheini, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi. Nid oes gennyf yr union fanylion sydd yno. Wrth gwrs, mae aelodau o'r comisiwn sy'n dal i ymgysylltu gyda'r bwriad o ddod ar y comisiwn.

O ran y cylch gorchwyl neu'r amcanion cyffredinol, mae'n ymddangos i mi fod y ddau amcan cyffredinol yn glir. Y perygl yw, mae ceisio ei ddatrys gyda chyfres gyfan o faterion yn ymwneud â hyn a’r llall, beth allai hyn fod a beth allai'r gwerth hwn fod ac yn y blaen, yn mynd yn eithaf anodd. Felly, rwyf mewn gwirionedd yn eithaf cadarnhaol ynghylch symlrwydd y ddau amcan cyffredinol, ond hefyd, pan fydd y comisiwn llawn ar waith, rwy'n credu y byddaf mewn sefyllfa i ddatblygu beth fydd ei gynllun strategol o ran ymgysylltu, a sut y bydd yn ymgysylltu â phobl Cymru a sut mae'n ymwneud ag ehangder safbwyntiau gwahanol sy'n bodoli.

O ran y panel o arbenigwyr, bydd yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yn dibynnu'n rhannol ar y rhaglen strategol, ond hefyd bydd yn banel na fydd yno ar gyfer safbwyntiau gwleidyddol, ond am y sgiliau a'r arbenigedd sydd ganddyn nhw. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd angen arbenigedd mewn perthynas â busnes, mewn perthynas â chyllid, mewn perthynas â llywodraethu, mewn perthynas ag enghreifftiau rhyngwladol ac yn y blaen. A byddaf yn adrodd ar hynny mewn datganiad pellach hefyd.

A gaf i ddweud, o ran yr heriau sydd o'n blaenau, fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â chroesawu'r newid sydd yno? Mae newid yn dod, mae newid yn mynd i ddigwydd, does dim byd yn aros am byth. Fe wyddom ni am y camweithredu sy'n bodoli ar hyn o bryd. Roedd yna wleidydd a ddywedodd:

'Rwy'n...credu ei bod yn dda i wlad a'i phobl gael ei thynged yn ei dwylo ei hun ac i'w penderfyniadau eu hunain fod o bwys. Pan fyddaf yn edrych o amgylch Ewrop, ar y cyfan, y gwledydd llai, sy'n...ymddangos bod ganddyn nhw benderfyniadau o ansawdd uwch.... Mae bod yn gyfrifol am eich polisïau eich hun yn arwain at ganlyniadau gwell.'

Roedd hwnnw'n ddyfyniad gan yr Arglwydd Frost, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl berthnasol i'r comisiwn rydym ni’n ei sefydlu.

Rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai’r hyn yr ydym ni ei eisiau yw rhyw fath o godi'r gwastad. Rwy'n credu mai dyna'r hyn yr ydym ni'n chwilio amdano a'r hyn yr ydym ni'n anelu ato. Rydym ni'n edrych ar sut y gallem ni gymryd rheolaeth yn ôl. Mae'r holl sloganau a datganiadau hynny a wnaed beth amser yn ôl yn rhywbeth sy'n uniongyrchol berthnasol, ac, wrth gwrs, dyna'n union yr oedd yr Arglwydd Frost yn ei ddweud. Rwy'n credu mai'r allwedd yw mai diben y comisiwn yw cofleidio pawb ledled Cymru a meithrin consensws.

Efallai y dylwn i orffen gyda'r sylwadau cadarnhaol a wnaethoch chi yn gynnar. Rwy'n edrych ymlaen ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn ymgysylltu'n gadarnhaol. Rwy'n gwybod bod gennym ni wahaniaethau, ond wrth i ni symud ymlaen gyda'n gilydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio meithrin consensws ynghylch ble y bydd newid yn gweithio, yn y pen draw, er budd pobl a chymunedau Cymru.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:38, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Dywedodd uwch ddarlithydd gwleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd—nid yr Athro Laura McAllister, prysuraf i ychwanegu—wrthyf ar adeg sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod sefydlu comisiynau yn prysur ddod yn gamp genedlaethol yng Nghymru. Clywais yn gynharach y prynhawn yma ebychiadau o 'gwastraff amser' o feinciau'r gwrthbleidiau—y meinciau gyferbyn â mi. Wel, gadewch i ni gael taith o amgylch hanes datganoli. Heddiw, fe wnaeth y Prif Weinidog ddyfynnu Iain Duncan Smith, mae'r Cwnsler Cyffredinol newydd ddyfynnu Dominic Cummings; wel, fe wnaf i un yn well na chi, a dyfynnu Syr Winston Churchill i chi: 'Mae'r rhai sy'n methu â dysgu o hanes wedi'u tynghedu i'w ailadrodd.' Felly, gadewch i ni fynd ar daith o amgylch hanes datganoli yng Nghymru.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:39, 19 Hydref 2021

Nid gwastraff amser oedd comisiynau'r gorffennol. Maent wedi arwain at gryfhau'r lle hwn a gwella bywydau pobl Cymru. Rwy'n siŵr bod Rowan Williams yn gyfarwydd iawn â phregethu gyda thri phen; gaf i'ch atgoffa chi heddiw am dri chomisiwn blaenorol?

I ddechrau, comisiwn yr Arglwydd Richard, 'Trefn Llywodraethu Gwell', a hyn yn arwain at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fe wnaeth hwn roi pŵer inni basio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd penodedig. Roedd y Ddeddf hefyd yn gwahanu'r Cynulliad o'r Llywodraeth—hyn yn arbennig i ni fel democratiaeth yng Nghymru ac yn dilyn arferiad democratiaeth ledled y byd.

Yna Confensiwn Cymru Gyfan, a hyn yn arwain at bwerau llawn ym meysydd datganoledig wedi refferendwm 2011, a fi, fel Darren Millar, yn ymgyrchu yn hwnnw—dim gyda'n gilydd, wrth reswm. Ond roedd yna deimlad cyffrous fanna, Darren, bryd hynny—y pleidiau'n cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r hyn oedd yn dda i bobl Cymru. Roedd yr holl bleidiau yn rhoi'r genedl yn gyntaf i gael gwared ar yr LCOs llafurus. Fisoedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, Gwnsler Cyffredinol, roeddech chi'n cael eich ethol i'r lle hwn mewn cyfnod mor gyffrous a hyderus i ni fel sefydliad.

Ac yna comisiwn Silk—ŷch chi'n cofio comisiwn Silk, draw fanna? Chi, Lywodraeth Dorïaidd wnaeth gomisiynu hynny, a hynny'n arwain at Ddeddf Cymru 2014, a'r model pwerau cadw nôl, y reserved-powers model, a hynny'n meddwl ein bod ni'n gallu pasio cyfreithiau mewn unrhyw faes oedd ddim wedi cael ei gadw'n ôl gan Senedd y Deyrnas Unedig. Ac yn ail ran comisiwn Silk, y rhan fwyaf o'r argymhellion hynny'n cael eu derbyn gan y Llywodraeth Dorïaidd, a hynny'n arwain at gytundeb Gŵyl Ddewi 2015.

Ie, nid gwastraff amser yw comisiynau o gwbl, ond ffordd i adeiladu'r genedl. Oherwydd fel mae Darren Millar wedi dweud, mae Cymru wedi bod ar daith, ac mae'r daith yn parhau, er gwaethaf ymdrechion rhai pobl. Mae Brexit, mae COVID-19, yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, yr hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon wedi arwain sawl person yng Nghymru i ailasesu'r sefyllfa, ailystyried dyfodol cyfansoddiadol ein gwlad ni. Ac yn wahanol i'r holl gomisiynau blaenorol, y tro yma bydd annibyniaeth yn cael ei thrafod yn swyddogol. Mae hwn yn gam enfawr ymlaen ar ein taith ni. Hon fydd y sgwrs genedlaethol fwyaf yn hanes Cymru fel gwlad ddatganoledig. Dwi'n croesawu'n fawr iawn apwyntiad Laura McAllister a'r Parch Ddr Rowan Williams i'w rolau a dwi'n dymuno'n dda iddynt fel cyd-gadeiryddion.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:42, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Byddwch yn cofio'r hen ymadrodd, 'Yr eglwys Anglicanaidd yw'r Blaid Geidwadol wrth weddi.' Wel, efallai y bydd penodi cyn Archesgob Caergaint yn sicrhau y byddwch chi draw yn y fan honno'n gwrando o'r diwedd.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weithio yn adeiladol gyda'r comisiwn. Dywedodd y Prif Weinidog heddiw y bydd e'n defnyddio pob cyfle posib i wthio ffederaliaeth radical. Wel, dwi'n dweud nawr y byddwn ni fan hyn yn defnyddio pob cyfle posib i wthio annibyniaeth, oherwydd yng ngeiriau'r hen ddywediad, 'There never lived a nation that ruled another well.' Mae'n wir ledled y byd ac mae'n wir fan hyn yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol eich bod chi, Gwnsler Cyffredinol, wedi bod yn ymgyrchu dros ddatganoli ers y 1970au, cyn i rai ohonom ni gael ein geni hyd yn oed. Rydych chi wedi profi siom 1979, rydych chi wedi profi siom Llywodraeth hir Margaret Thatcher, ond rydych chi hefyd wedi gweld sut mae pethau'n gallu newid—dyw'r status quo ddim yn bodoli am byth. Rydych chi wedi gweld gorfoledd Cymru yn pleidleisio am y lle hwn ym 1997.

Dwi'n dod at fy nghwestiynau—sori, Llywydd. Siom i fi felly oedd clywed sylwadau Syr Keir Starmer mai dim ond o bosib y bydd Cymru'n cael pwerau ychwanegol o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan. Dywedodd e nad oedd datganoli yn flaenoriaeth iddo fe, nid oedd yn flaenoriaeth bwysig. Yn amlwg, ni wnaeth Syr Keir Starmer ddarllen eich maniffesto chi oedd yn sôn am ffederaliaeth radical. Mae hefyd wedi comisiynu, onid yw e, comisiwn i edrych ar yr undeb o dan gadeiryddiaeth Gordon Brown. Sut fydd y ddau gomisiwn yna yn cydweithio â'i gilydd, yn enwedig wrth ystyried bod annibyniaeth yn cael ei hystyried dan gomisiwn McAllister-Williams? A fydd Llywodraeth Lafur, os ddaw yn San Steffan, yn gwrando ar argymhellion y comisiwn yma? Gan nad yw sylwadau Starmer yn fy llenwi â hyder, a gan nad yw Llywodraeth Boris Johnson yn fy llenwi i â hyder, beth yw'r plan B os bydd y comisiwn yma hefyd yn cael ei anwybyddu, fel comisiwn Thomas, comisiwn oedd yn llawn rheswm, oedd yn llawn doethineb, oedd yn llawn dadleuon cryf yn cael ei anwybyddu'n llwyr gan San Steffan? Beth yw'r plan B, Gwnsler Cyffredinol? Diolch yn fawr. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:45, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Os caf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a'r crynodeb, rwy’n credu, o hanes datganoli—yn sicr fy atgof i o ddechrau'r 1970au, pan fo'n rhaid i mi ddweud roedd rhai ohonom nad oeddem yn siŵr y byddai byth yn digwydd, ond y wers yr ydych yn ei dysgu yw bod pethau'n newid a bod yn rhaid i chi baratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu mai Benjamin Franklin a ddywedodd eich bod, drwy fethu â pharatoi, yn paratoi i fethu. Ac fe ddywedodd hefyd, pan fyddwch chi wedi gorffen newid, eich bod wedi gorffen. Ac rydym mewn proses o newid, a dyna pam rwy'n credu bod yn rhaid i ni groesawu'r newid hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar am eich cyfeiriad at y dyfyniad a briodolwyd i mi gan Dominic Cummings; yr Arglwydd Frost oedd e mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl bod yr Arglwydd Frost yn fwy perthnasol ar y sail ei fod ar hyn o bryd yn arwain y trafodaethau ar yr ymadawiad â'r UE, felly efallai fod ei sylwadau'n werth eu hystyried yn ofalus iawn.

A gaf i ddweud eto fy mod yn credu ei bod efallai'n gamgymeriad canolbwyntio ar opsiynau unigol penodol, boed yn annibyniaeth, boed yn ffederaliaeth, ffederaliaeth radical, unoliaeth ac yn y blaen? Rwy'n credu mai'r man cychwyn o ran y neges mae'n rhaid iddi ddod drosodd yw ein bod eisiau gweld newid a fydd o fudd i bobl Cymru, a fydd yn dod â phenderfyniadau'n nes at bobl, i roi mwy o reolaeth i bobl dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Felly, mae sybsidiaredd i mi yn un sylfaenol.

Fe wnaethoch chi sôn, wrth gwrs, am y cyfweliad gyda Keir Starmer ac wrth gwrs comisiwn Llafur y DU sydd yno. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r sylwadau hynny a'r comisiwn hwnnw'n ei ddangos, wrth gwrs, yw nad yw'n ymwneud â'r sefyllfa yng Nghymru yn unig, neu'r Alban, neu Ogledd Iwerddon, mae galwadau clir am ddatganoli pŵer, er mwyn grymuso pobl a chymunedau'n well mewn perthynas â'r datganoli hwnnw sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr. Efallai fod y ddadl yno 10 mlynedd ar ei hôl hi, ond mae'n sicr yn cyflymu ac mae'n sicr yn berthnasol, yn fy marn i, i'r ddadl sy'n dod ar gyfer y dyfodol. Fy marn i yw, mewn perthynas â chomisiwn Plaid Lafur y DU ac unrhyw gomisiynau eraill sydd yno, y byddwn i'n gobeithio y byddai'r comisiwn hwn, sy'n gomisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ar sail ymrwymiad maniffesto ond sy'n annibynnol ar y Llywodraeth ac sydd â mandad i ystyried pob opsiwn, am ymgysylltu ag unrhyw broses sy'n digwydd sy'n berthnasol i bobl Cymru ac sy'n berthnasol i'r dasg sydd ganddyn nhw.

Ac o ran a fydd Llywodraeth y DU yn gwrando, mae Llywodraethau’n mynd, mae Llywodraethau'n dod, mae newidiadau i wleidyddiaeth. Rwy’n credu, os gall y comisiwn gael y math o ymgysylltu yr ydym ni eisiau ei weld yn ei gael, os yw'n gallu creu'r math hwnnw o gonsensws ymhlith pobl Cymru a, gobeithio, yn drawsbleidiol hefyd ar yr angen am newid, yna byddwn ni'n llwyddo. Felly, rydym ni naill ai'n dadlau ein hachos, rydym ni naill ai'n ymgyrchu dros y mathau o newidiadau y credwn y dylid eu gwneud a'r mathau o werthoedd sydd gennym, fel arall beth yw diben y lle hwn? Mae newid yn rhywbeth sy'n digwydd bob amser. Mae'n digwydd bob amser, ac mae'n cael ei ddyfynnu'n fawr fod datganoli'n broses nid yn ddigwyddiad, wel, mae hanes yn newid yn barhaus. Mae'r byd rydym ni’n byw ynddo yn newid, a rhaid i mi ddweud bod y byd yr oeddwn i'n byw ynddo pan ddechreuais i edrych ar ddatganoli ar ôl Kilbrandon ym 1974 wedi newid yn aruthrol. Dydych chi ddim yn gweld Tipp-Ex a phapur carbon yn swyddfeydd pobl fel roeddech chi’n ei weld unwaith. Mae'r chwyldro technolegol wedi newid cymaint, fel mae'r byd wedi'i wneud yn fyd-eang.

Felly, rwy’n gweld y comisiwn ac rwy’n gweld, gobeithio, yn gryno i'r pwyntiau a godwyd gennych: rydym ni'n byw mewn byd byd-eang, rhaid i Gymru wneud ei llais ei hun a'i ffordd ei hun a'i hunaniaeth ei hun yno. Mae'n rhaid iddi weithio gyda'r cymdogion o'i chwmpas, mae'n rhaid iddi ddatblygu'r rhyngddibyniaethau, ac mae hynny'n mynd yn sylfaenol i'n democratiaeth. Ond, y tu hwnt i bopeth, nid yw hyn yn ymwneud â ni fel gwleidyddion, pa blaid bynnag yr ydym, yn dweud ein bod yn gwybod beth sydd orau i bobl Cymru, mae'n golygu dweud mewn gwirionedd fod heriau o'n blaenau, a'r ffordd orau ymlaen o benderfynu beth y dylen nhw fod yw drwy ymgysylltu â phobl Cymru, y bobl sy'n ein hethol. Ac rwy'n credu mai dyna pam mae'r comisiwn mor hanfodol bwysig. Diolch, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:49, 19 Hydref 2021

Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Gweinidog. Mae materion cyfansoddiadol yn ganolog i gylch gwaith y pwyllgor. Ar ôl holi’r Cwnsler Cyffredinol am ychydig ynghylch ei gynlluniau i sefydlu comisiwn cyfansoddiadol ym mis Medi, mae’r cyhoeddiad heddiw o gryn ddiddordeb i ni. Yn benodol, bydd yn ddiddorol ystyried y cysylltiad rhwng ei gynlluniau a’r ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni.  

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:50, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Tynnodd adroddiad etifeddiaeth ein pwyllgor blaenorol sylw at lawer o faterion a fydd yn berthnasol i waith y comisiwn. Tynnodd sylw at weithrediad ac effeithiolrwydd confensiwn Sewel ac yn wir y tensiynau sydd wedi bodoli rhwng Llywodraethau a'r angen i bob Llywodraeth a Senedd ddod o hyd i ddealltwriaeth gyffredin o gymhwyso'r confensiwn hwnnw. Awgrymodd ein pwyllgor blaenorol hefyd ein bod yn monitro'r defnydd o gytundebau rhynglywodraethol, yn ogystal ag effeithiolrwydd y ffordd mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio. Ac ar y pwynt olaf hwnnw, edrychwn ymlaen at ganlyniad yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol hirddisgwyliedig. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrth ein pwyllgor fod Llywodraeth Cymru bellach yn fwy optimistaidd nag y bu yn y gorffennol, a bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud.

Cyhoeddodd ein pwyllgor blaenorol rybudd hefyd fod y defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn dod yn fwyfwy afreolaidd yn gyfansoddiadol os yw newidiadau a wneir i lyfr statud Cymru yn sylweddol ac yn arwyddocaol, ac rydym eisoes yn pryderu. Llai na chwe mis i mewn i Senedd newydd, ac eisoes, mae memoranda cydsyniad ar gyfer 14 o Filiau'r DU wedi'u gosod, gyda'r addewid o fwy i ddod. Felly, rydym yn cymryd diddordeb mawr yn y rheswm pam mae Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn fodlon caniatáu, neu yn wir, cefnogi Llywodraeth y DU i ddeddfu mor helaeth o fewn meysydd datganoledig.

Dywed ein nodiadau pwyllgor wrth basio adferiad safbwynt Llywodraeth Cymru mai Cymru gref o fewn undeb sefydlog yw'r dewis gorau i ddinasyddion Cymru yn eich barn chi. Nodwn hefyd gyda diddordeb yn y datganiad mai amcan cyntaf y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu opsiynau cadarn ar gyfer datganoli yng Nghymru yng nghyd-destun Teyrnas Unedig barhaus o bedair gwlad, a nodwn hefyd gyda diddordeb cynyddol efallai mai ail amcan allweddol y comisiwn annibynnol fydd ystyried a datblygu atebion cadarn, opsiynau ar gyfer Cymru, os bydd y Deyrnas Unedig yn dechrau diddymu o'r model pedair gwlad. Mewn geiriau eraill, rydych chi’n dweud yn eich datganiad beth allai lle cyfansoddiadol Cymru fod mewn Teyrnas Unedig y mae un o'i rhannau cyfansoddol wedi dewis ei gadael.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:52, 19 Hydref 2021

Felly, gan hynny, rydym yn edrych ymlaen, er mwyn datblygu consensws, i ymgysylltu’n adeiladol â’r comisiwn a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein trefniadau cyfansoddiadol yn addas i’r diben. Diolch yn fawr, Llywydd.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:53, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i sylwadau meddylgar. Os gallaf ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yr wyf i'n cydnabod yw rôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ac mewn gwirionedd, rwy’n credu fy mod yn mynd ag un o'ch papurau adref, sy'n feirniadaeth o un o'n memoranda cydsyniad deddfwriaethol, felly rwyf am feddwl am hynny'n ofalus iawn, iawn, ond mae'n swyddogaeth bwysig iawn sydd gan y pwyllgor mewn Senedd heb ail Siambr.

Yn gyntaf, o ran 'Diwygio ein Hundeb', mae'n ymwneud yn ôl ychydig, onid ydy, â chwestiwn a godwyd yn gynharach o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, a hynny yw, cafodd rhifyn cyntaf 'Diwygio ein Hundeb' i Lywodraeth y DU, yn ei hanfod, ei ysgubo ymaith, a chafodd yr ail fersiwn, yn fwy diweddar, ei ysgubo ymaith. Ac roedd hynny'n siomedig iawn, iawn, oherwydd holl bwynt y papurau hynny oedd ysgogi dadl, oedd ymgysylltu, ac mae'n anodd iawn pan fydd un blaid, fel estrys, yn cuddio ei phen yn y tywod ac yn dweud na fydd yn ymgysylltu.

Nawr, fe wnaf i ddweud o ran yr ochr fwy cadarnhaol, ac mae hwn yn fater yr ydym ni wedi'i drafod o'r blaen, gyda'r cytundeb rhynglywodraethol—mae rhywfaint o gynnydd ar hynny. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn fecanwaith ar gyfer gwella'r mecanwaith ymgysylltu rhwng Llywodraethau'r pedair gwlad, er nad yw'n ddatrysiad i'r hyn sydd, yn fy marn i, yn faterion cyfansoddiadol tymor hirach, sydd hefyd yn gydnabyddiaeth, yn fy marn i, o sofraniaeth, a'r ffaith y dylai sofraniaeth y pedair gwlad ddod yn natur gyfansoddiadol ddiymwad erbyn hyn; hynny yw ei fod bellach yn cael ei rannu ac na ddylid gallu ei newid.

Rydych chi’n iawn hefyd o ran effaith deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, a pha effaith a allai hynny ei gael o ran datganoli cyfrifoldebau, dim ond sôn am y Bil cymhorthdal, Deddf y farchnad fewnol, wrth gwrs, a'r ffordd mae hynny'n cael ei ddefnyddio o ran trin cyllid. Rydym wedi cael y ddadl hon droeon o'r blaen, ac wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, mae gennym her gyfreithiol i Ddeddf y farchnad fewnol bellach, sy'n cael ei chlywed ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

A gaf i efallai grynhoi wrth ddweud fy mod yn credu bod yr holl bwyntiau rydych chi’n eu gwneud yn ddilys? Rwy’n credu wrth fwrw ymlaen ac ystyried y materion, gan edrych ar y materion y bydd yn rhaid i'r comisiwn eu hystyried, y byddai'n anghyfrifol i ni beidio â bod â'r comisiwn hwn, a pheidio â bod yn rhan o'r broses hon yng ngoleuni'r holl heriau y gwyddom ni sydd o'n blaenau. Nid yw'n briodol, yn fy marn i, i ragdybio beth fydd y canlyniad, oherwydd rwy'n credu bod pawb sy'n mynd i fod ar y comisiwn, gan gynnwys y cyd-gadeiryddion—mae'r sefyllfa wedi bod yn glir iawn o'r dechrau, nid ydynt yn gynrychiolwyr unrhyw safbwynt wleidyddol benodol ond maen nhw yno ar gyfer eu sgiliau, i gyflawni swyddogaethau'r comisiwn i ymgysylltu â phobl Cymru.

Photo of James Evans James Evans Conservative 4:56, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, pan wnes i ddeffro y bore yma a chanfod bod y comisiwn hwn yn mynd i edrych ar annibyniaeth, roeddwn i wedi fy syfrdanu'n llwyr, ond nid oeddwn yn synnu. Wyddoch chi, gwnaeth i mi feddwl bod y comisiwn hwn yn debygol o fod yn llawn o gydymdeimladwyr annibyniaeth? Mae un o'r cyd-gadeiryddion sy'n arwain y comisiwn yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru, ac nid wyf yn hollol siŵr bod hynny'n anfon y neges gywir, na fydd y comisiwn hwn yn rhagfarnllyd tuag at ganlyniad penodol. Unwaith eto, mae'r lleiafrif rhagfarnllyd, llafar yn YesCymru yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth hon a Plaid, ac maen nhw'n ceisio cael Cymru annibynnol drwy'r drws cefn. Mae'n profi, onid yw, os ydych chi'n pleidleisio Llafur, rydych chi'n cael annibyniaeth.

Felly, Gweinidog, a allwch chi fy sicrhau i a phobl Cymru y bydd y comisiwn hwn yn edrych o ddifrif ar y Llywodraeth hon a'r ffordd y mae'n rheoli meysydd datganoledig megis iechyd, addysg a'r economi, sy'n dirywio o dan eich gwyliadwriaeth, a gwneud argymhellion o ddifrif ar sut y gallwn ni wella'r Senedd er gwell gyda'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, a pheidio â dal i achosi anhrefn cyfansoddiadol a chwarae gemau gyda bywydau pobl Cymru gyda'r agenda annibyniaeth hon, sy'n cael ei gyrru gan Blaid Cymru sydd am ffurfio cytundeb clymblaid gyda chi eich hun? Diolch, Llywydd.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:57, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i longyfarch yr Aelod yn gyntaf ar ddeffro y bore yma? A'r peth cyntaf a wnaeth oedd ymarfer rhywfaint o feddwl. Gobeithio nad yw hyn yn ddigwyddiad untro.

A gaf i ddiolch iddo hefyd am y sylwadau oherwydd rwy'n credu, o fewn y safbwyntiau mae ef wedi'u mynegi—rwy'n deall pam mae'n eu gwneud—yn amlwg mae'n bwysig dangos ewyllys da i'r penarglwyddi yn Rhif 10 Downing Street, ac rwyf yn siŵr bod hynny'n ymddangos yn rhai o'r sylwadau a wnaed?

Rwyf yn gweld bod y materion a godir mewn perthynas ag anhrefn cyfansoddiadol yn anffodus iawn yn dod o blaid sydd wedi bod yn ein harwain am y tair neu bedair blynedd diwethaf mewn anhrefn gyfansoddiadol absoliwt, fel y gwelsom ni o'r ffactorau economaidd, o'r materion o ran y sefyllfa gyda'n porthladdoedd, yr economi, y petrol, y llinellau cyflenwi ac yn y blaen. Felly, nid wyf yn credu eich bod mewn sefyllfa i ddadlau ar hynny.

Yr hyn a wnaf fi ei ddweud yw: pan fyddwn ni'n mynd y tu hwnt i'r rhethreg wleidyddol ynghylch y math hwn o beth, rwyf yn siŵr bod gennych chi'r uchelgais, fel sydd gennym ni, i gydnabod, yn gyntaf, fod mandad i'r comisiwn hwn, yn ail, fod gan y comisiwn gylch gorchwyl eang, y byddwch yn gallu cyfrannu ato—byddwch yn gallu rhoi eich barn ar hynny—a'n bod yn ymgysylltu'n gadarnhaol ac yn gwrtais yn y ddadl benodol honno. Felly, ar ôl mynd i lawr y llwybr o ymateb i rai o'r sylwadau gwleidyddol efallai, rwyf i'n cydnabod y bydd cyfle i bob un ohonom ymgysylltu, oherwydd rwyf yn siŵr bod gan bob un ohonom ni un amcan clir, sef cynrychioli pobl Cymru a buddiannau pobl Cymru orau, beth bynnag fo'n gwahaniaethau penodol.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:59, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Cwnsler Cyffredinol. Ond fy nghwestiwn mwyaf a mwyaf perthnasol i chi yw: pam nawr? Mae ein cenedl yn wynebu argyfyngau lluosog, heriau enfawr, ac eto dyma ni unwaith eto'n neilltuo amser i'r cyfansoddiad. Y bore yma, cyhoeddodd WalesOnline ganlyniadau'r 10 mater mwyaf sy'n wynebu Cymru, fel y pleidleisiodd pobl Cymru, eich meistri cyflog. Nid oedd y cyfansoddiad yn un ohonyn nhw. Sut ydych chi'n ateb y rhai sy'n dweud, 'Mae hyn yn dangos bod eich Llywodraeth wedi colli cysylltiad'? Cyn y datganiad hwn, gallem ni fod wedi cael ein camgymryd am feddwl eich bod yn cyfeirio at gomisiwn cyfansoddiadol Keir Starmer. Pa berthynas fydd gan eich comisiwn â'r un a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU i geisio lleihau ei difodiant etholiadol yn yr Alban?

Yn olaf, Cwnsler Cyffredinol, a fydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser i drwsio ein system gofal doredig ag y mae'n boddio ymylon Plaid sydd yn hiraethu am Gymru annibynnol—annibyniaeth sydd wedi'i gwrthod yn gadarn gan bobl Cymru? Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:00, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae e'n dweud, 'Pam nawr?' Wel, os nad nawr, pryd? Oherwydd pan fyddwch chi'n wynebu newid, pan fyddwch chi'n wynebu camweithredu, pan fyddwch chi'n wynebu'r diffyg eglurder yn y broses o wneud penderfyniadau, y diffyg eglurder yn y trefniadau ariannol, a bod y sefyllfa honno'n effeithio ar fywydau pobl Cymru, pan fydd hefyd yn effeithio ar y mandad democrataidd sydd gan y Llywodraeth ac yn amharu ar hynny, yna mae angen ymdrin â rhywbeth sydd wedi bod yn broses o gamweithredu ers tro, sydd, ac yn drawsbleidiol—mae hyd yn oed pobl fel Syr Bernard Jenkin yn cydnabod yr angen am newid cyfansoddiadol. 

O ran yr holl faterion eraill, wel, byddwn i wedi meddwl y gallai'r Aelod dreulio ei amser yn well pe bai'n cyfeirio at y £500 miliwn a gafodd ei wastraffu gan Lywodraeth y DU ar breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn aflwyddiannus, neu efallai y £3 biliwn a gafodd ei wastraffu ar ad-drefnu'r GIG, neu'r £240 miliwn a gafodd ei wastraffu ar leoedd ysgol am ddim yn Lloegr, lleoedd nad oedd eu hangen, neu efallai'r £2 biliwn i gwmnïau sydd â chysylltiadau â'r blaid Geidwadol, neu Lywodraeth y DU sy'n gwario £400,000 ar yrwyr i yrru bocsys coch o amgylch Llundain ar gyfer Gweinidogion, efallai'r £156 miliwn ar gontract ar gyfer cyfarpar diogelu personol aneffeithiol, neu efallai, fel y gwnaeth dadansoddiad y New York Times ei ddarganfod, bod £11 biliwn allan o gontractau £22 biliwn Llywodraeth y DU, wedi mynd i gwmnïau y mae'n dweud iddyn nhw gael eu cynnal gan ffrindiau a chymdeithion gwleidyddion yn y blaid Geidwadol, heb unrhyw brofiad blaenorol. Nawr, os ydych chi wir eisiau siarad am faterion yr economi a defnyddio arian cyhoeddus, dyna'r materion rwy'n credu y dylech chi wir fod yn ymdrin â nhw.

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw amddiffyn a datblygu democratiaeth Cymru, ond democratiaeth gydag amcan clir iawn sy'n eich galluogi i gymryd rhan, fel y mae pob un blaid yn y Senedd hon, ac, yn wir, unrhyw grŵp a sefydliad dinesig ledled Cymru. Byddwn i'n gobeithio y byddech chi wir yn croesawu'r hyn sy'n cael ei wneud, ei fod yn rhywbeth cadarnhaol ac mae'n rhywbeth sy'n ystyried dyfodol Cymru, rhywbeth y mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb uniongyrchol ynddo, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd, yn fy marn i, yn bwyntiau nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn berthnasol i'r materion ac ysbryd y ddadl yr ydym ni wedi'i chael hyd yn hyn.