6. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: Blaenoriaethau sgiliau Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiannau creadigol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:05, 19 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Pan wnaethom ni lansio Cymru Greadigol, cafodd cymorth sgiliau a thalent ei nodi'n flaenoriaeth allweddol, ac mae ein camau gweithredu hyd yma wedi cefnogi newid cadarnhaol. O fewn 18 mis o'i lansio, mae Cymru Greadigol wedi gweithio gyda'n holl bartneriaid yng Nghymru, ac ar lefel y DU, i gefnogi 12 prosiect sgiliau ledled y sectorau creadigol, pob un yn ymdrin ag un neu fwy o'n meysydd blaenoriaeth. Er bod camau gweithredu wedi'u cymryd ar draws pob sector, oherwydd y cynnydd yn y galw o ran cynhyrchu a'r angen dilynol am griwiau, mae'n anochel bod gweithgarwch wedi canolbwyntio'n drwm ar sgiliau sy'n gysylltiedig â'r sgrin.

Nawr, mae amrywiaeth a chynhwysiant, wrth gwrs, yn ganolbwynt allweddol i'n holl ymyriadau, ac rydym ni wedi ymrwymo i ymdrin â'r diffyg amrywiaeth mewn criwiau a'r gadwyn gyflenwi, a chefais i'r pleser yn ddiweddar o lansio Cyswllt Diwylliant Cymru, cynllun treialu 12 mis sy'n ceisio cynyddu cyfleoedd i gymunedau amrywiol ym maes ffilm a theledu yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn datblygu rhwydwaith a chronfa ddata bwrpasol ar gyfer cymunedau ethnig amrywiol sy'n gweithio mewn ffilm, teledu ac ar draws sawl platfform. Bydd y cynllun treialu yn helpu pobl sydd eisiau newid gyrfa, a bydd yn cynorthwyo pobl ifanc a phobl nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r cyfleoedd yn y sector. Daeth Cymru Greadigol â'r pedwar darlledwr daearol at ei gilydd i gefnogi'r prosiect hwn, a fydd gyda'i gilydd yn arwain at newid mewn arferion recriwtio o fewn y sector sgrin yng Nghymru.

Er mwyn deall anghenion sgiliau'r sector sgrin yn gyfredol ac yn y dyfodol yn well yma, mae Cymru Greadigol wedi ffurfio partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i gynnal arolwg sgrin Cymru 2021, sef mapio'r sector sgrin, ei weithlu a'i ddarpariaeth hyfforddi ar draws Cymru gyfan. Bydd canlyniadau ac argymhellion yr arolwg yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf a byddan nhw'n darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithgarwch sgiliau sgrin yn y dyfodol. Byddwn ni'n sicrhau bod llais y diwydiant—a'r gweithlu, gyda chyfraniad undebau llafur—yn parhau i fod yn rhan greiddiol o unrhyw drafodaethau sgiliau yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i fapio'r sector cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi'r sail i ni ddatblygu cynllun sgiliau ar gyfer y sector hwn yn y dyfodol hefyd.

Dysgu ymarferol o brofiad yw'r math mwyaf effeithlon o hyfforddiant o fewn y sector sgrin, felly mae cynnal lefel y cynyrchiadau sy'n ffilmio yng Nghymru yn hanfodol i gynyddu cyfleoedd hyfforddi o flwyddyn i flwyddyn. Ac mae Cymru Greadigol yn parhau i weithio gyda chynyrchiadau wedi'u hariannu i warantu ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl. Caiff y lleoliadau hyn eu monitro i helpu i sicrhau llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol, ac, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi elwa ar leoliadau gwaith am dâl ar gynyrchiadau wedi'u cefnogi gan Cymru Greadigol. Mae'r rhain yn cynnwys y ddrama Netflix Havoc, gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, cyfres tri His Dark Materials ar gyfer BBC One, a'r cynhyrchiad Lucasfilm newydd, Willow, a fydd yn darlledu ar Disney+.

Gan edrych ymlaen, bydd sefydlu corff sgiliau creadigol, fel un o brif ymrwymiadau rhaglen llywodraethu Llywodraeth Cymru, yn dwysáu ein pwyslais ar ddatblygu sgiliau a thalent ledled ein holl is-sectorau creadigol. Wedi'i gyflwyno'n fewnol drwy Cymru Greadigol, gyda swyddogaeth sgiliau a thalent well, bydd y dull hwn yn sicrhau bod yr holl adnoddau yn y dyfodol yn cael eu cydgysylltu a'u bod yn gallu cefnogi mentrau talent a sgiliau creadigol yng Nghymru yn uniongyrchol. 

Bydd y corff sgiliau yn parhau â'r dull partneriaeth a sefydlwyd eisoes drwy grŵp rhanddeiliaid sgiliau ffilm a theledu Cymru Greadigol. Mae'r grŵp, sydd nawr ag aelodaeth o dros 50, yn gweithredu fel seinfwrdd, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i hwyluso gwaith rhwydweithio a chydweithio. Felly, bydd gwaith y corff sgiliau yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sgiliau craidd, a fydd yn adrodd yn ôl i fwrdd anweithredol Cymru Greadigol. Dirprwy Lywydd, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y trefniadau manwl ar gyfer y corff sgiliau creadigol, a byddaf i'n darparu'r newyddion diweddaraf eto maes o law.

Yn olaf, byddwn ni'n sicrhau bod gweithgarwch sgiliau creadigol yn y dyfodol yn cefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gyflawni'r warant i bobl ifanc a 125,000 o brentisiaethau o bob oed. Mae Cymru Greadigol eisoes yn gweithio gyda chydweithwyr mewn sgiliau, addysg uwch a dysgu gydol oes ar gyflwyno CRIW, model prentisiaeth gynhyrchu newydd sydd newydd ei lansio yn y gogledd, yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus iawn yn y de, ac rydym ni'n ystyried sut y mae modd efelychu'r model prentisiaeth hwn mewn sectorau creadigol eraill.

Mae ein hymyriadau hefyd wedi'u cydgysylltu a'u cynllunio ar gyfer y tymor hir. Mae cynnwys ffilm a chyfryngau digidol o fewn y cwricwlwm newydd o 2025 yn enghraifft allweddol o hyn. Mae'n gam mawr ymlaen o ran gwneud anghenion sector sy'n tyfu yn gydnaws â'r hyn sy'n cael ei addysgu yn ein hysgolion. Mae'r pwyslais hwn ar y tymor hir hefyd yn hanfodol i'n huchelgais i helpu pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd cyffrous yng Nghymru, fel y nododd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn uwchgynhadledd yr economi ddoe.

Rwy'n angerddol ynghylch sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis gyrfa hygyrch a gwerthfawr, gan roi cyfleoedd gwaith gwych i'n pobl ifanc yng Nghymru mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, gan wasanaethu pob cynulleidfa, ac sy'n allweddol o ran cefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.