Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac yr wyf i wir yn croesawu rhai o'r mesurau ymarferol yr ydych chi wedi'u nodi y byddwch chi'n eu cymryd i wella'r sector creadigol yma yng Nghymru.
Rydych chi'n iawn wrth ddweud bod y diwydiant creadigol yma yng Nghymru wedi dioddef yn ystod y 18 mis diwethaf, ac er yr effeithiwyd yn arbennig ar ddiwydiannau fel cerddoriaeth fyw a sioeau ledled y DU, mae'n bwysig nodi, yng Nghymru, eu bod yn aml wedi gorfod ymdopi â chyfyngiadau COVID sydd wedi effeithio ar y sector hwn am gyfnod llawer hirach nag mewn rhai rhannau eraill o'r DU. Ac i ychwanegu at y gymysgedd nawr, bydd yn rhaid i rai o'r diwydiannau hyn hefyd ymdopi â phasys COVID hefyd—i gyd wrth i'r Prif Weinidog gadw'r posibilrwydd o gyfyngiadau symud yn y dyfodol ar y bwrdd. Felly, nid yn unig yw'r diwydiannau hyn wedi ei chael hi'n anoddach yma yng Nghymru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid oes ganddyn nhw chwaith y sefydlogrwydd na'r sicrwydd i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, dechreuaf drwy ofyn yn union beth a wnewch chi o effaith y cyfyngiadau pandemig yng Nghymru yn benodol a sut y mae'n cymharu â chenhedloedd eraill y DU.
Nid yw'ch datganiad yn cyfeirio rhyw lawer chwaith at y diwydiant cerddoriaeth fyw. Er eich bod chi'n sôn am y problemau y mae'r diwydiant wedi'u hwynebu, ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod i helpu'r sector cerddoriaeth fyw yn benodol. Rydym ni'n ymwybodol y bu diffyg cefnogaeth dymor hir i'r sector cerddoriaeth ac yn arbennig diffyg ymdrin â'r gwahaniaethau enfawr yn y sector hwnnw rhwng ardaloedd gwledig a threfol, ac ychydig iawn y mae'r datganiad hwn yn ei wneud i ymdrin â hynny hefyd.
Ac er fy mod i'n croesawu rhywfaint o'r camau gweithredu yn y datganiad heddiw i ymdrin â'r prinder sgiliau yn y diwydiannau creadigol, yr wyf i, yn anffodus, yn gwrthod eich awgrym, Dirprwy Weinidog, fod y galw am weithlu medrus, ac rwy'n dyfynnu, yn 'ddigynsail'. Mae'r prinder sgiliau yn y diwydiant creadigol wedi bod yn broblem ers tro ac mae angen ymdrin ag ef. Soniodd Clwstwr, yn eu hadroddiad 'Gwaith Sgrin 2020', yn helaeth ynghylch y prinder sgiliau yn y sector hwn a rhybuddiodd Llywodraeth Cymru ei bod yn broblem, a galwodd arni i ymdrin â hi. Felly, roedd y Llywodraeth yn amlwg wedi'i rhybuddio ymlaen llaw ar y mater hwn, ac rwy'n credu y byddai'n anghywir dweud bod y sefyllfa bresennol yn ddigynsail. Dywedodd yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n dyfynnu:
'Rwy'n credu'n gyffredinol, mae llawer o gwmnïau allan yno, oni bai eu bod wedi ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru o dan yr argraff nad oes strategaeth nac unrhyw feddwl cydgysylltiedig o ran datblygu sgiliau'.
Dirprwy Weinidog, mae dyfyniad o'r fath yn gyhuddiad damniol, onid ydych chi'n credu, o ddull gweithredu'r Llywodraeth tan nawr, ac felly rwy'n gofyn: pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i wella ffydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn strategaeth eich Llywodraeth yn y maes hwn?
Mae mesurau Llywodraeth Cymru i gefnogi rhagor o ddysgu ymarferol o fewn y diwydiannau creadigol hefyd i'w croesawu, gan ein bod ni'n gwybod nad yw llawer o'r swyddi a'r sgiliau sydd eu hangen yn dod o ystafelloedd dosbarth a gwerslyfrau, ond yn hytrach o ddysgu ymarferol yn y gwaith. Felly, rwy'n falch o weld y mesurau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd heddiw yn y maes hwn. Ond mae'n werth nodi hefyd fod cyflwyno'r cyrsiau lefel T yn Lloegr mewn meysydd fel cynhyrchu digidol, dylunio a datblygu, crefft a dylunio a darlledu a chynhyrchu wedi golygu bod y cyrsiau lefelau T hyn yn cynhyrchu gweithlu medrus iawn ar gyfer y dyfodol gyda sgiliau arbenigol mewn meysydd creadigol perthnasol. Felly, pa wersi ydych chi wedi'u dysgu o'r cynllun hwn yn Lloegr, a pha drafodaethau, os o gwbl, sy'n parhau i sicrhau parch cydradd rhwng unrhyw gymwysterau Cymreig a'r lefelau T hynny yn Lloegr?
Mae angen i ni hefyd annog fwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y diwydiannau creadigol ymhlith pobl ifanc fel nod cyraeddadwy yng Nghymru. Felly, mae angen strategaeth i ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch gyrfaoedd mewn diwydiannau creadigol. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy rhagweithiol wrth siarad â rhanddeiliaid y diwydiant creadigol wrth sefydlu nodau mwy uchelgeisiol wedi'u targedu ar gyfer y strategaeth hon. Felly, a gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog: sut mae'r sectorau'n gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc i archwilio'r diwydiannau creadigol o ddifrif fel dewis gyrfa yn y dyfodol? A sut y gallwn ni wella cydweithio rhwng y sector hwn ac addysg uwch ac addysg bellach fel bod Cymru ar flaen y gad o ran sgiliau a datblygiadau newydd yn y sector hwnnw?
Gwnaethoch chi sôn hefyd, Dirprwy Weinidog, fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar drefniadau manwl ar gyfer y corff sgiliau creadigol hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano, ond, yn anffodus, ni wnaethoch chi roi amserlen nac ymrwymiad ar gyfer hyn. Felly, a gaf i ofyn i chi am arwydd pendant ynghylch pryd y caiff hynny ei sefydlu?
Yn olaf, rwy'n nodi i chi sôn am y datganiad a gafodd ei amlinellu gan Weinidog yr Economi ddoe a'i gyflwyno i'r Senedd heddiw. Darllenais i'r adroddiad hwnnw, a theimlais ei fod yn siomedig iawn o safbwynt y diwydiannau creadigol. Fel y gwyddoch chi, mae'r celfyddydau a chwaraeon wedi'u hychwanegu at friff yr economi, yn rhannol o leiaf i gydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw'n eu gwneud i'r economi yng Nghymru. Rydych chi wedi cael eich gwneud yn Ddirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am y meysydd hyn, ac eto nid oedd sôn unwaith am y diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn y datganiad hwnnw. Felly, a ydych chi'n cytuno bod hynny wir yn gyfle wedi'i golli i ddarparu sector bywiog yn y dyfodol, ac y dylai'r diwydiannau creadigol gymryd rhan amlycach ym mlaenoriaethau strategol y Llywodraeth hon?