Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 19 Hydref 2021.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau yna? Rwy'n credu bod sawl peth i ymdrin â nhw yna. Rwy'n credu, os dechreuwn ni gyda chyfyngiadau COVID a mater pasys COVID a'r cymorth y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei roi i'r sector diwylliannol, rwy'n credu bod angen i ni gydnabod y cafodd £93 miliwn ei ryddhau i'r sector diwylliannol drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, a bod hynny wedi helpu nifer di-rif o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys gweithwyr llawrydd—cymorth nad oedd ar gael yn Lloegr. Felly, rwy'n credu y dylem ni gydnabod hynny hefyd.
Oedd, roedd cyfyngiadau COVID yn wahanol yma yng Nghymru, ond dyna natur datganoli. Rydym wedi sôn droeon am hynny, o ran y gwahanol ddulliau sy'n cael eu defnyddio i ymdrin â COVID, a sut y byddem ni'n amddiffyn ein dinasyddion rhag COVID ym mhob un o'r pedair gwlad. Felly, nid wyf i'n credu bod angen i ni dreulio gormod o amser yn trafod hynny.
Lle y byddwn i'n anghytuno â chi yw nad ydym ni wedi cefnogi'r diwydiant cerddoriaeth yn ddigonol. Byddem ni bob amser wedi dymuno gwneud mwy; wrth gwrs, byddem ni bob amser wedi dymuno gwneud mwy. Ond, roedd cyfyngiadau COVID yn effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth yn fwy i raddau, nag ar rai o'r diwydiannau eraill oherwydd natur chwarae offerynnau cerdd a chanu ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, mae hynny'n gyfyngiad o fewn y diwydiant hwnnw sydd wedi'i grybwyll dro ar ôl tro. Rydym ni wedi ymgysylltu'n agos iawn â'r diwydiant cerddoriaeth drwy gydol y broses honno, gan weithio'n agos gyda'r diwydiant cerddoriaeth a lleoliadau fel eu bod yn deall y broses.
Ond, rwy'n credu ei bod yn werth tynnu sylw at y ffaith bod nifer o fentrau o ran sgiliau wedi bod ar gyfer diwydiant cerddoriaeth. Gwnaethom ni sefydlu £60,000 o gyllid ar gyfer y prosiect cerddoriaeth Bannau. Cawsom y Sesiynau Mêl, a oedd yn gyfres o sesiynau cefnogi'r diwydiant ar gyfer crewyr ifanc sy'n gweithio ym maes cerddoriaeth o dras du ledled Cymru. Cawsom ni Crwth, cylchgrawn newydd y diwydiant cerddoriaeth wedi'i gynllunio gan grewyr y diwydiant cerddoriaeth ifanc o bob cwr o Gymru. Cawsom ni'r hysbysfwrdd, sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd ledled Cymru ar gyfer personél ifanc y diwydiant cerddoriaeth. Mae gennym ni'r Future Disrupter, sy'n rhoi sylw i bersonél y diwydiant sy'n datblygu yng Nghymru. Mae Bannau hefyd wedi cytuno ar bartneriaethau newydd gyda Choleg Gŵyr, Coleg y Cymoedd a Phrifysgol De Cymru, ac wedi recriwtio dau leoliad Kickstart newydd, a fydd yn ymuno â'r Bannau am chwe mis i ddysgu am y diwydiant a helpu i ddarparu adnoddau ychwanegol. Felly, mae'n amlwg ein bod ni wedi gwneud gwaith ym mhob un o'r sectorau.
Ond, gwnaethoch chi hefyd ofyn am y galw am sgiliau. Ydy, mae'r galw am sgiliau wedi bod yn hysbys ers tro, ond mae wedi cyflymu yn ystod y 18 mis diwethaf. Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yw bod gennym ni ddiwydiant sgiliau creadigol yng Nghymru—canolfan sgiliau creadigol, canolfan gynhyrchu—sef y drydedd fwyaf yn y DU y tu allan i Fanceinion a Llundain. Felly, mae'n amlwg iawn i mi fod hynny, ynddo'i hun, yn dangos bod y diwydiant sgiliau creadigol a'r diwydiant cynhyrchu, yn arbennig, yn hyderus iawn yng Nghymru—y ffaith ei fod wedi gwneud Cymru, fel y dywedais i, y ganolfan greadigol fwyaf ond dwy.
Felly, mae'n rhaid i ni ddatblygu ein sgiliau ein hunain, a dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud gyda'r bwrdd sgiliau creadigol. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiannau creadigol i sefydlu a nodi'r lefelau priodol o sgiliau sydd eu hangen i allu cefnogi'r cynyrchiadau a ddaw i Gymru. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny.
O ran strategaethau i ymgysylltu ag ysgolion, wel, wrth gwrs, gwnes i amlinellu eisoes yn fy natganiad ein bod ni wedi cyflwyno hyn yn y cwricwlwm cenedlaethol. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn eto gyda'n holl ysgolion a cholegau i gysylltu â sefydliadau creadigol sy'n gwneud llawer o waith mewn ysgolion ac sy'n treulio llawer o amser yn siarad â disgyblion mewn ysgolion, ac un o'r pethau yr ydym ni eisiau eu datblygu yw siarad â nhw am sut y gallan nhw ystyried sgiliau creadigol fel dewis gyrfa posibl iddyn nhw. Soniais i eisoes yn fy natganiad yn ogystal, am yr arolwg sgiliau yr ydym ni'n ei gynnal, yn y diwydiant cerddoriaeth ac yn y diwydiannau creadigol i nodi'r sgiliau datblygu sydd eu hangen arnom ni hefyd.
Felly, rwy'n credu, o ran yr economi, eich bod chi'n hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith, o ran y tymor llywodraethu hwn, fod y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn rhan o adran yr economi, yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Mae'n dangos yn glir iawn lle mae Llywodraeth Cymru yn gweld y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant yn rhan o friff yr economi. Rydym ni'n ei weld yn rhan greiddiol o'r hyn y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu ein hadferiad economaidd. A beth bynnag y gwnaeth Gweinidog yr Economi ei grybwyll ddoe, fe'i gwnaeth yn glir iawn bod sgiliau a phrentisiaethau yn rhan greiddiol o hynny, ac mae'r cynnig sgiliau yr wyf i wedi sôn amdano heddiw, a sut y mae hynny'n cysylltu â'r cynnig prentisiaeth, yn rhan fawr o'r ymrwymiad maniffesto hwnnw. Roedd yn y rhaglen lywodraethu y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi ati ddoe.