6. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: Blaenoriaethau sgiliau Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiannau creadigol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 19 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:21, 19 Hydref 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiannau creadigol, a’i hymrwymiad o ran sicrhau cefnogaeth i fwy o bobl yng Nghymru weithio yn y sectorau cysylltiedig.

Dwi hefyd yn croesawu yn fawr y datganiad penodol o ran amrywiaeth, a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol weithio yn sector ffilm a theledu yn benodol. Os ydym eisiau sicrhau bod y cynnwys yn adlewyrchu Cymru yn ei holl gyfanrwydd, yna mae’n angenrheidiol bod y gweithlu hefyd. Hoffwn ofyn felly sut y bydd hyn hefyd yn cael ei gefnogi o ran y diwydiannau creadigol eraill tu hwnt i deledu a ffilm, ac ai bwriad y peilot yw helpu i siapio cynllun mwy hirdymor o ran hyn.

O ystyried y diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, hoffwn hefyd godi’r cwestiwn o ran rhywedd a sicrhau bod y gweithlu yn gynrychioladol o’n cymdeithas o ran hynny hefyd. Os edrychwn, er enghraifft, ar y diwydiant gemau, mae ymchwil o Brifysgol Sheffield yn awgrymu bod 70 y cant o weithwyr yn y diwydiant gemau yn y Deyrnas Unedig yn ddynion. O gyplysu hyn â'r ffaith mai dim ond 12 y cant o fyfyrwyr mewn prifysgolion Cymru oedd yn astudio peirianneg a thechnoleg oedd yn ferched yn 2016, nid yw hyn yn debygol o newid heb strategaeth benodol. Oes gan Lywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, gynllun i sicrhau bod gweithlu’r diwydiannau creadigol yn llwyr gynrychioladol, gyda chyfleoedd ac anogaeth cyfartal i ddynion a merched?

Rhaid cofio hefyd, wrth gwrs, fod canran uchel iawn o’r bobl sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac yn benodol ffilm a theledu, yn llawrydd. Fel y dengys ymchwil, roedd 94 y cant o bobl lawrydd wedi colli gwaith yn sgil COVID, a gyda diwedd ffyrlo a diwedd yr ail gronfa adferiad diwylliannol, os edrychwn ar y diwydiannau creadigol yn eu cyfanrwydd, mae hi’n sefyllfa fregus dros ben i nifer ohonynt.

Gwn nad yw Cymru Greadigol yn ymwneud â theatrau ond, o ran Llywodraeth Cymru, mae angen edrych ar y sector creadigol a diwylliannol yn ei gyfanrwydd o ran sgiliau a swyddi a chefnogaeth, a hoffwn gymryd y cyfle felly i ofyn i’r Dirprwy Weinidog os oes bwriad i ddatblygu trydedd gronfa adferiad diwylliannol i gefnogi’r canolfannau celfyddydol sydd yn wynebu dyfodol ansicr dros ben.

Un o’r sgiliau sydd ddim yn cael eu crybwyll yn natganiad heddiw yw’r iaith Gymraeg, sydd, wrth gwrs, yn perthyn i bawb yng Nghymru. Sut bydd Cymru Greadigol yn sicrhau cyfleoedd i bobl weithio yn y diwydiannau hyn drwy’r Gymraeg, ac mewn cymunedau ledled Cymru? Ble mae’r Gymraeg yn y cynlluniau hyn a’r gefnogaeth i’r di-Gymraeg a dysgwyr hefyd i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg er mwyn eu defnyddio yn y diwydiannau creadigol?

Rydych hefyd yn pwysleisio yn eich datganiad y cynnydd mewn cynhyrchu o fewn y sector sgrin, sydd yn dda i’w glywed, ac fel sydd eisoes wedi’i nodi, o ran ail adroddiad Clwstwr ar y diwydiannau creadigol, de Cymru yw’r clwstwr cyfryngau sydd wedi bod yn perfformio orau y tu allan i Lundain. Ond serch hynny, o ran rhanbarth prifddinas Caerdydd, mae hyn yn dal yn is o ran cynhyrchiant na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig. Pa gynlluniau, felly, sydd gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynhyrchiant yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf, gan gynyddu'r nifer o swyddi ar gael ynghyd â helpu i ddatblygu economi Cymru?

Fel y soniodd Tom Giffard, yn olaf, o ran adroddiad 'Cyfrifiad Sgrin 2020' Clwstwr, fe nodwyd mai nid diffyg talent sydd yn dal y diwydiant sgrin yn ôl ond yn hytrach y diffyg strategaeth sgiliau clir a fyddai'n sicrhau ffrwd o dalent o Gymru. Tra bod y camau a amlinellir yn y datganiad yn gam ymlaen o ran y sector ffilm a theledu, a cherddoriaeth, oes bwriad creu strategaeth sgiliau ar gyfer yr holl ddiwydiannau creadigol, ac os felly, beth yw'r amserlen?

Mae cefnogaeth gan y Llywodraeth i'r diwydiannau creadigol, fel a amlinellir heddiw, heb os i'w chefnogi, ond rhaid hefyd cael strategaeth ac uchelgais os ydym am fanteisio yn llawn ar botensial y diwydiant hwn o ran ein heconomi, a sicrhau bod pawb yng Nghymru, o bob cefndir, pob rhyw, a lle bynnag y maent yn byw, yn cael y cyfle i fanteisio yn llawn ar y cyfleoedd a gynigir.