Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 19 Hydref 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd y rheoliadau i'w hystyried gan Aelodau'r Senedd heddiw, os cânt eu cymeradwyo, yn caniatáu i gytundebau partneriaeth treftadaeth yng Nghymru ddod i rym yn llawn. Diwygiodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol i greu cytundebau partneriaeth treftadaeth. Mae cytundeb partneriaeth treftadaeth yn drefniant gwirfoddol ar gyfer gwarchod a rheoli un neu fwy o henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig yn y tymor hir. Caiff ei drafod rhwng perchennog yr asedau dynodedig, yr awdurdod cydsynio a phartïon eraill â diddordeb. Bydd yn darparu fframwaith ar gyfer gweithio mewn partneriaeth go iawn ar gyfer rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn gynaliadwy. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn meithrin hyder y partïon, yn annog arferion cadwraeth da ac yn lleihau'r risg o newidiadau niweidiol i asedau hanesyddol drwy waith anawdurdodedig.
Bydd angen buddsoddi amser ac adnoddau wrth ddatblygu cytundebau partneriaeth treftadaeth, ond byddant yn sicrhau llawer o fanteision. Mae'r cytundebau'n galluogi mwy o hyblygrwydd i berchnogion wrth reoli eu hasedau hanesyddol. Byddant yn rhoi caniatâd ar gyfer rhaglen o waith y cytunwyd arno, gan ddileu'r angen am geisiadau unigol ailadroddus a llafurus am waith tebyg. Yna bydd gan bartneriaid eglurder ynghylch pa waith sydd angen ac nid oes angen caniatâd arnynt. Bydd dull mwy cyson a chydlynol o warchod a rheoli'r henebion cofrestredig neu'r adeiladau rhestredig sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb.
Er mwyn bod yn effeithiol, bydd angen i gytundebau partneriaeth ddarparu ar gyfer nid yn unig amrywiaeth eang o safleoedd a gofynion cadwraeth, ond hefyd wahanol gyfluniadau o berchnogaeth, rheolaeth a chyfranogiad ehangach gan y gymuned. Er bod deddfwriaeth sylfaenol yn diffinio'n briodol elfennau sy'n hanfodol i unrhyw gytundeb, mae'r rheoliadau sy'n cael ein sylw heddiw yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion atodol. Cyn trafod y rheoliadau, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am dynnu fy sylw at groesgyfeiriad anghywir mewn drafft cynharach. Mae'r croesgyfeiriad hwnnw wedi'i gywiro ers hynny ac mae'r rheoliadau wedi'u hailosod gerbron y Senedd.
Er bod y rheoliadau henebion ac adeiladau rhestredig a gofrestrwyd yn wahanol o ran manylion oherwydd deddfwriaeth gwreiddiol sylfaenol, maen nhw'n cwmpasu'r un tir, gan gynnwys trefniadau ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd a dulliau ar gyfer terfynu'r cytundebau drwy Orchymyn. Mae strwythurau addas ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd yn bwysig, gan y bydd y cytundebau'n para am nifer o flynyddoedd. Yn y ddwy set o reoliadau, y nod oedd creu ymgynghori swyddogaethol a gofynion cyhoeddusrwydd a fyddai'n gymesur â'r gwaith y gellir ei gynnwys yn y cytundebau. Dylai gwaith partneriaeth adeiladol fod wrth wraidd pob cytundeb partneriaeth, ond rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer y ffaith y gallen nhw, am ba reswm bynnag, chwalu ar brydiau.
Mae'r rheoliadau'n darparu y caiff yr awdurdodau cydsynio derfynu cytundeb partneriaeth treftadaeth neu ddarpariaethau unigol drwy Orchymyn, a disgwylir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai terfynu drwy Orchymyn yn digwydd. Felly, dychmygwch, er enghraifft, sefyllfa lle mae darganfyddiad archeolegol sylweddol a ddatgelwyd yn ystod y cloddio yn golygu bod atal gwaith a ganiatawyd yn erbyn dymuniadau perchennog ac mae'n amhosibl ailnegodi'r cytundeb. Yn ogystal, mae'r rheoliadau'n gwneud darpariaeth resymol i dalu iawndal i unrhyw bartïon sy'n dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad uniongyrchol i gytundeb neu ddarpariaeth sy'n cael ei therfynu drwy Orchymyn.
Bydd cytundebau partneriaeth treftadaeth yn rhoi dulliau newydd i Gymru reoli ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr yn effeithiol yn y tymor hir. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y rheoliadau hyn heddiw, ac o gofio'r budd clir a ddaw yn sgil y rheoliadau, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn.