Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Hydref 2021.
Mae dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos bod y toriad creulon i gredyd cynhwysol yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Ymhob etholaeth yng Nghymru, mae incwm dros chwarter y teuluoedd â phlant wedi gostwng. Mae mynd ag arian oddi ar ein teuluoedd tlotaf pan fo biliau'n codi yn gywilyddus.