Credyd Cynhwysol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:32, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma wedi cael clywed gan rywun y mae'r toriadau i gredyd cynhwysol wedi effeithio arnynt. Hoffwn roi un enghraifft: Mrs D, a gysylltodd â mi yn ddiweddar. Dywedodd hyn, 'Fis Mawrth diwethaf, cefais ddiagnosis o fath prin o ganser y gwaed. Dros nos, euthum o fod yn fenyw annibynnol, hunangynhaliol, a oedd yn cyfrif y blynyddoedd tan y gallwn ymddeol, i fod yn rhywun di-waith trigain a rhywbeth oed sy'n gaeth i'r tŷ ac sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau a haelioni pobl eraill. Credyd cynhwysol oedd fy rhwyd ​​ddiogelwch, ac rwy'n ddiolchgar ei bod yno pan oeddwn ei hangen. Fodd bynnag, y mis hwn, mae'n teimlo fel pe bai Boris Johnson wedi torri twll yn ei gwaelod ac rwy'n ei chael hi'n anodd dal fy ngafael.'

Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy ar sawl achlysur i lenwi'r twll a wnaed gan doriadau llym y Torïaid, ac mae'r Prif Weinidog yn enwedig wedi cael cryn dipyn o ganmoliaeth drwy gydol y pandemig am wneud safiad gwahanol i Lywodraeth San Steffan. Mae angen i hyn ddigwydd eto, Weinidog. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn y gronfa cymorth dewisol, a ddaeth i ben ar 30 Medi, i helpu pobl fel Mrs D ac unigolion y mae'r toriad hwn wedi cael effaith ddinistriol arnynt? Diolch yn fawr.