Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Hydref 2021.
Nid oes lle i gasineb a throseddau o'r math hwn yn y Gymru y mae pawb ohonom eisiau ei gweld. Roedd datganiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn nodi'r ystod o waith ataliol, cymorth i ddioddefwyr, a gwaith codi ymwybyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid drwy ein bwrdd troseddau casineb a thensiynau chymunedol, y rhaglen gydlyniant cymunedol, a'r ganolfan genedlaethol adrodd am droseddau casineb a chymorth.