Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Roeddwn yn bryderus o weld bod ffigurau diweddar yn dangos bod troseddau casineb homoffobig wedi treblu ar draws y DU yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Yn wir, hyd at 31 Awst eleni, cafodd dros 150 o droseddau casineb LHDTC+ eu hadrodd i Heddlu Gwent. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod gan y rhai sy'n dioddef troseddau casineb hyder i adrodd am eu profiadau? A beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymgysylltu â phartneriaid, megis Heddlu Gwent, i ddileu malltod troseddau casineb?