1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa gymorth a gyhoeddwyd ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf? OQ57060
Bydd Cymru'n derbyn £25 miliwn o gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â'r gronfa gymorth i aelwydydd, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda chyd-Weinidogion i nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, a fydd yn rhoi cymorth ar unwaith i aelwydydd sy'n agored i niwed dros y gaeaf. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda phrisiau tanwydd domestig cynyddol. Byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yn ôl cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar y gronfa gymorth i aelwydydd, fel y nododd y Gweinidog, bydd fformiwla Barnett yn gymwys yn y ffordd arferol, sy'n golygu y bydd gweinyddiaethau datganoledig yn cael hyd at £79 miliwn o'r £500 miliwn hwnnw. Ac i Gymru, mae hynny'n golygu mai dim ond £25 miliwn a gawn, fel y dywedoch chi. Hyn, wrth gwrs, pan fo dadansoddiad Sefydliad Joseph Rowntree o ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos mai Cymru sydd â'r canrannau tlodi uchaf yn y DU yn gyson. A all y Gweinidog nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio blaenoriaethu'r cyllid hwnnw gan Lywodraeth y DU hyd eithaf ei gallu? Ac a all y Gweinidog roi diweddariad inni ynglŷn â pha bryd y mae'r Llywodraeth yn pwyso am ddatganoli lles? Mae gennym enghraifft arall yma i ddynodi pam na allwn adael y wladwriaeth les yn nwylo Llywodraeth y DU.
Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig hwnnw, Luke Fletcher. Rwyf wedi dweud hyn fwy nag unwaith yma, rwy'n credu, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf ers inni glywed mai £25 miliwn yn unig a gawsom. £25 miliwn. Wyddoch chi, toriad o £20 oddi ar y credyd cynhwysol, £6 biliwn wedi'i ddileu'n llwyr, a £500 miliwn pitw ar gyfer y DU gyfan—£25 miliwn i Gymru. Ac un o'r pwyntiau nad yw wedi cael ei bwysleisio ddigon: taliad untro ydyw. Ac mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw hi gyda chyllid untro—£25 miliwn—oherwydd fe wyddoch na allwch ei gynnal i sicrhau mynediad hirdymor at gyllid i'r bobl sy'n cael eu taro galetaf. Felly, dyna pam ein bod yn edrych yn ofalus iawn ar sut y gallwn dargedu'r arian hwn, gan edrych hefyd ar ffyrdd y gallwn barhau, fel y dywedais, â'r hyblygrwydd sydd gennym yn y gronfa cymorth dewisol a hefyd systemau tanwydd y gaeaf ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y grid.
Ond ar eich pwynt ynglŷn â chyfrifoldeb a phwerau mewn perthynas â datganoli lles, yn amlwg, rwyf wedi dweud, ac yn wir, wedi ymateb i gwestiynau yn ddiweddar—a chwestiynau oddi wrthych chi, rwy'n siŵr, Luke Fletcher—ein bod wedi ymrwymo i ystyried yr holl dystiolaeth a'r adroddiadau a luniwyd ar effaith datganoli gweinyddu lles, sydd, wrth gwrs, ochr yn ochr â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Ac rydym yn awr wedi ymrwymo i fwrw ymlaen ag archwilio'r opsiynau ar gyfer hynny, y cyfleoedd, ac yn wir, yn hollbwysig—. Ac mae hyn bob amser yn ymwneud â sut y gallwn fod yn sicr ein bod yn cael cyllid gyda chyfrifoldeb, oherwydd dyna un o'r materion allweddol gyda Llywodraeth y DU.