Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Credaf ei bod yn hanfodol fod addysg gyfreithiol yng Nghymru mewn sefyllfa gadarn yng nghyd-destun Cymru ac yn canolbwyntio ar adeiladu ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Cyn cyfarfod nesaf aelodau arfaethedig y pwyllgor gwaith, a allwch chi amlinellu eich blaenoriaethau ar gyfer cylch gwaith y cyngor cyfraith?