Sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:24, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn hwnnw ar gyngor cyfraith Cymru. Ers dechrau 2020, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r sector cyfreithiol i sefydlu cyngor cyfraith Cymru, drwy drafodaethau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, cwmnïau cyfreithiol masnachol a chwmnïau cyfreithwyr y stryd fawr, y bar, ysgolion y gyfraith, y farnwriaeth a chynrychiolwyr blaenllaw eraill yn y sector yng Nghymru.