Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Hydref 2021.
Wel, ein safbwynt ar ddatganoli pellach i awdurdodau lleol yn y bôn yw bod gennym gomisiwn wedi'i sefydlu a fydd yn edrych ar lywodraethu yng Nghymru, lles y llywodraethu hwnnw, sut y gallai symud ymlaen, sut y gallem weithio i rymuso a chefnogi—grymuso cymunedau ac unigolion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen, maes o law, at weld argymhellion y comisiwn sydd wedi'i sefydlu, ac a gaiff ei gadeirio ar y cyd gan y rhai a gyhoeddais ddoe.