2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 20 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a wnewch chi wneud datganiad am safbwynt eich Llywodraeth ar ddatganoli pellach i ranbarthau ac awdurdodau lleol Cymru?
Wel, ein safbwynt ar ddatganoli pellach i awdurdodau lleol yn y bôn yw bod gennym gomisiwn wedi'i sefydlu a fydd yn edrych ar lywodraethu yng Nghymru, lles y llywodraethu hwnnw, sut y gallai symud ymlaen, sut y gallem weithio i rymuso a chefnogi—grymuso cymunedau ac unigolion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen, maes o law, at weld argymhellion y comisiwn sydd wedi'i sefydlu, ac a gaiff ei gadeirio ar y cyd gan y rhai a gyhoeddais ddoe.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn eich datganiad ddoe, eich datganiad ysgrifenedig a'ch datganiad llafar, ni chafwyd unrhyw gyfeiriad at ddatganoli rhagor o bwerau o Fae Caerdydd i Fae Colwyn a lleoedd eraill ledled y wlad. Onid yw'n ffaith bod eich Llywodraeth chi, dros y blynyddoedd, wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi canoli pwerau i lawr yma ym Mae Caerdydd, yn hytrach na'u dosbarthu i'r cymunedau lleol a ddylai fod wedi gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Y gwir amdani yw bod pobl yn y rhan o'r wlad lle rwy'n byw yng ngogledd Cymru yn teimlo bod ganddynt Lywodraeth sy'n bell ac allan o gysylltiad â hwy. Gennym ni y mae'r amseroedd aros gwaethaf yn ein hysbytai, mae gennym setliadau gwaeth i awdurdodau lleol, mae gennym brosiectau ffyrdd wedi eu rhewi. Nid dyma'r difidendau datganoli a addawyd i bobl. Pryd y gallwn ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn datganoli pwerau go iawn i ranbarthau Cymru ac i awdurdodau lleol?
Credaf ein bod, o fewn y Senedd hon, bob amser wedi gweithio'n deg ym mhob rhan o Gymru a chyda golwg ar gwmpasu holl safbwyntiau pobl Cymru. Tybed a wnaethoch wrando ar yr araith a wneuthum ddoe, oherwydd yn yr araith honno a'r datganiadau cynharach, roeddwn yn sôn drwy'r amser sut y mae'r ethos sy'n sail i'r comisiwn yn ymwneud â grymuso pobl, mae'n ymwneud â grymuso cymunedau, ac mae'n ymddangos i mi eich bod wedi diystyru'r hyn a ddywedwyd yn llwyr er mwyn gwneud rhyw fath o ddatganiad tila sy'n amlwg wedi dod yn rhan o fantra'r Blaid Geidwadol yng Nghymru.
Gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedoch chi ddoe, ac ni chlywais y geiriau, 'datganoli i ranbarthau ac awdurdodau lleol' o gwbl. Rydych yn sôn am rymuso pobl a chymunedau, ond onid y gwir yw eich bod yn syml eisiau cipio pwerau gan awdurdodau lleol a chipio pwerau gan Lywodraeth y DU ac mai dyna yw hanfod y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?
A gaf fi ofyn ichi sicrhau, fel rhan bwysig o ffrwd waith y comisiwn annibynnol, oherwydd nid yw o fewn y cylch gwaith a gyhoeddwyd gennych ddoe—cylch gwaith eang iawn, os caf ddweud—? A wnewch chi ofyn yn benodol iddynt ystyried ble y dylai pwerau priodol fod, yn ogystal ag a ddylid datganoli ymhellach i awdurdodau lleol Cymru, sy'n llawer agosach at y bobl ar lawr gwlad na'r Llywodraeth Lafur anghysbell hon yng Nghymru, sydd wedi bod yn canoli pwerau ers 1999?
Wel, mae'n debyg ei bod yn wir eich bod wedi gwrando ar fy natganiad ddoe, ond yn sicr ni chlywsoch yr hyn a ddywedais. Ac rwy'n meddwl tybed beth yw eich dealltwriaeth o'r cysyniad o rymuso pobl a chymunedau. A tybed beth yw eich dealltwriaeth o'r amcanion eang a bennwyd, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â dyfodol Cymru a gwella democratiaeth Cymru ac ystyried y materion a fyddai'n arwain at wella pobl Cymru ac o fudd iddynt.
Nawr, os credwch ei bod yn briodol mewn comisiwn i ddechrau dweud wrth y comisiwn beth ddylai ei gasgliadau fod o'r diwrnod cyntaf—wel, nid dyna fy nghysyniad i o beth yw comisiwn. Credaf ei bod yn allweddol bwysig fod gan y comisiwn hyblygrwydd a disgresiwn i fynd i'r afael â'r amcanion eang hynny. Ac os ydych yn dweud wrth gomisiwn am fynd allan ac ymgysylltu â phobl Cymru, wel, rhaid ichi wrando ar bobl Cymru a'r hyn y maent yn ei ddweud mewn gwirionedd, yn hytrach na dweud wrthynt mai dyma rydych eisoes wedi'i benderfynu sy'n bwysig iddynt. Nawr, efallai mai dyna'r ffordd Geidwadol o wneud hyn, ond nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y mae llawer o bobl eraill yn y Senedd hon yn ei gredu sy'n briodol i gomisiwn.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, mae nifer ohonom ni yn fan hyn yn bryderus iawn am y cynnydd sylweddol yn nifer y Biliau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio eu pasio mewn meysydd datganoledig. Bydd nifer ar y meinciau yna yn gyfarwydd â’r adnod,
‘Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed’.
Wel, gwrandawed ar hyn, y rheini ar feinciau’r Torïaid: yn y pedwerydd Senedd, wyth LCM; yn y chweched Senedd yn barod, 14 LCM. Mae rhai o’r Biliau, fel y Bil Cymwysterau Proffesiynol, yn rhoi pwerau i Weinidogion i newid Deddfau cynradd y lle hwn ac i newid Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dwi’n siŵr gwnewch chi gytuno gyda fi, Cwnsler Cyffredinol, ddylai setliad datganoledig ein gwlad ni ddim bod yn fympwy i Weinidog y Torïaid yn San Steffan. Beth ŷch chi, wedyn, felly, yn ei wneud i amddiffyn y Senedd rhag Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy’n ceisio tanseilio ein datganoli ni? Diolch.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud ei bwyntiau'n dda iawn, ac maent yn rhai yr wyf fi, yn sicr, yn canolbwyntio'n fawr arnynt. Ac efallai, i ychwanegu at rai o'r enghreifftiau a roddodd, byddwn hefyd yn mynegi pryder fod peth o'r ddeddfwriaeth y bydd angen inni ei hystyried, oherwydd ei goblygiadau i ddatganoli, yn mynd at wraidd ein democratiaeth a democratiaeth y Deyrnas Unedig—yr argymhellion mewn perthynas ag adolygiad barnwrol, y cafodd y gwaethaf ohonynt eu dileu gan yr Arglwydd Ganghellor blaenorol. Ac mae gennyf ofn mawr, o'r math o bethau a ddywedir gan yr Arglwydd Ganghellor newydd, fod bwriad i ailgyflwyno hynny; mater Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, a fyddai'n gyfyngiad sylweddol ar yr hawl i brotest gyhoeddus. A gwelwn yn awr y bwriad hyd yn oed i gyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu'n sylweddol ar fater hawliau dynol o fewn ein system gyfreithiol. Mae'r rhain i gyd yn bethau y credaf ein bod yn eu hystyried yn arwyddocaol a phwysig tu hwnt, boed yn ddemocratiaeth o fewn Cymru, neu'n ddemocratiaeth o fewn y Deyrnas Unedig.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod, mewn perthynas â system y cydsyniad deddfwriaethol, yw bod yna feysydd wrth gwrs—darnau o ddeddfwriaeth—lle bydd gorgyffwrdd posibl ac yn y blaen, ac felly mae'r broses yn un sy'n bwysig, wrth ystyried ble y gallai fod manteision i'r ddwy ochr ai peidio, neu ble y gallai fod ymyrraeth i gyfrifoldebau datganoledig. Ond y gwir amdani yw bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn fy marn i yn ymosodiad ar gyfrifoldebau datganoledig, mae'n ymgais i danseilio cyfrifoldebau datganoledig, ac rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn tanseilio'r mandad democrataidd sydd gennym.
Felly, i ystyried yr holl femoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac i gael dealltwriaeth o'u heffaith gyffredinol gyda'i gilydd, yn ogystal â'r prosesau eraill, megis memoranda dealltwriaeth, y math o gytundebau blwch dogfennau, golyga werthuso'r effaith a gânt ym mhob ystyr o ran y setliad datganoli, gyda'r farn mai yng Nghymru ei hun y dylid mynd ar drywydd deddfwriaeth ar faterion Cymreig. Lle ceir meysydd o ddiddordeb cyffredin, mae ar yr amod, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, nad yw'n tanseilio datganoli nac yn arwain at drosglwyddo pwerau o'r lle hwn. Mae'n amgylchedd anodd tu hwnt. Rwy'n obeithiol y gallai'r adolygiad rhynglywodraethol a'i ganlyniad wella'r sefyllfa. Ond fel y dywedais ddoe wrth drafod y materion hyn, nid ydynt yn darparu'r sylfaen gyfansoddiadol hanfodol sydd ei hangen arnom mewn gwirionedd yn fy marn i, ac un y bydd y comisiwn yr oeddem yn cyfeirio ato ychydig yn gynharach yn sicr o'i ystyried.
Diolch yn fawr. Rwyf am aros gyda'r cynigion cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf am ddyfynnu rhai geiriau doeth i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fe'u hysgrifennwyd ym mis Mawrth 2021, gan gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd, mewn llythyr at Weinidog yr amgylchedd. Dyma'r geiriau:
'Mae'r dadleuon a gyflwynwyd gennych i gefnogi deddfu gan senedd y DU a Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig wedi canolbwyntio'n aml ar faterion yn ymwneud ag eglurder a hygyrchedd y gyfraith neu sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi yn Lloegr. Mae'r rhain yn ddadleuon o blaid peidio â dal pwerau yn y maes hwn o gwbl ac yn ein barn ni, nid oes unrhyw rinwedd yn perthyn iddynt.
'Rydym yn pryderu am effaith gronnol sylweddol a niweidiol olyniaeth o benderfyniadau a wnaed sydd wedi arwain at Senedd y DU a Llywodraeth y DU yn deddfu'n drwm ar faterion datganoledig o fewn eich portffolio.'
Wel, rwy'n cytuno â'r geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, a'ch geiriau chi ydynt wrth gwrs. Nawr, a ydych chi'n dal i arddel y geiriau hynny, Gwnsler Cyffredinol, ac os felly, pam y bu ichi gefnogi rhoi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd fis diwethaf, a beth yw eich meini prawf ar gyfer rhoi cydsyniad i orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn y dyfodol? Diolch yn fawr.
Wel, yn gyntaf, rwy'n arddel y geiriau hynny—maent yn aros. Rwyf bob amser wedi rhybuddio, wrth gwrs, wrth fynychu sesiynau tystiolaeth ac yn y blaen, fod yna feysydd, o bryd i'w gilydd, lle gallai fod manteision i Gymru o fynd ar drywydd camau gweithredu penodol, lle mae cyfrifoldebau'n gorgyffwrdd—. Mae'r amgylchedd, wrth gwrs, yn un o'r meysydd lle gwneir penderfyniadau mawr ar lefel y DU sy'n effeithio'n uniongyrchol ar Gymru. Ac ym mhob un o'r dulliau hynny o weithredu, rwy'n credu ein bod ni'n mabwysiadu'r safbwynt sydd er budd gorau Cymru, beth yw'r ffordd orau o weithio i ddiogelu'r amgylchedd, i ddatblygu cyfrifoldebau yng Nghymru, lle bo hynny'n bosibl, sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â'r amgylchedd.
Deallaf y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, oherwydd weithiau mae'r rhain yn benderfyniadau astrus ac anodd iawn, ac o bryd i'w gilydd, ceir amgylchiadau lle mae'n angenrheidiol, neu lle rydym yn rhoi cydsyniad ac efallai nad dyna'r amgylchiadau mwyaf dymunol lle rydym yn rhoi cydsyniad, ond wrth bwyso a mesur yr holl amgylchiadau, dilyn y llwybr penodol hwnnw sydd orau i Gymru. Maent yn codi o bryd i'w gilydd. Ond nid yw'n fy nhroi oddi wrth y safbwyntiau sylfaenol yn y llythyr hwnnw—rhai rwy'n dal i'w harddel o hyd—mai un o'n prif amcanion yw diogelu uniondeb datganoli, a datblygu uniondeb datganoli hefyd.
Diolch yn fawr. Ac yn olaf, rydych wedi cyffwrdd â fy nghwestiwn olaf eisoes—y sylwadau gan Dominic Raab i newid Deddf Hawliau Dynol 1998 i ganiatáu rhyw fath o fecanwaith fel y gall Gweinidogion gywiro dyfarniadau llys. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid bod Dominic Raab wedi anghofio un o'i ddarlithoedd cyfansoddiadol cyntaf yn y brifysgol, oherwydd mae hyn yn mynd at wraidd ein democratiaeth seneddol? Mae gan y Senedd a Senedd San Steffan bwerau eisoes i ddiwygio'r gyfraith. Nid mater i Weinidogion yw diystyru dyfarniad llys am nad ydynt yn ei hoffi, neu am ei fod yn anghyfleus iddynt. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno nad eu rôl hwy yw gwneud hynny, nad rôl unrhyw Weinidog yw cywiro dyfarniad llys, ac os bydd hyn yn mynd rhagddo, mae'n amlwg yn tramgwyddo egwyddor gwahaniad pwerau a rheolaeth y gyfraith? Pa sgwrs a gawsoch gyda swyddogion y gyfraith i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny? Maent yn bwyntiau hollol ddilys ac fe'u gwnaed gan nifer o sefydliadau o fewn y proffesiwn cyfreithiol, a gallwn ei roi fel hyn: heb fframwaith rheolaeth y gyfraith, i bob pwrpas mae'r Senedd yn unbennaeth a etholir bob pum mlynedd. Rheolaeth y gyfraith yw'r hyn sy'n gosod y fframwaith ar gyfer arfer pwerau. Nawr, dyna fu fy nealltwriaeth erioed o'r ffordd y mae'r Senedd yn gweithio a phwysigrwydd rheolaeth y gyfraith. Yr hyn a gynigiwyd mewn perthynas ag adolygiad barnwrol yn y bôn yw adeiladu ar yr hyn a gynigiwyd mewn deddfwriaeth flwyddyn neu ddwy yn ôl, sef caniatáu i Lywodraethau weithredu'n anghyfreithlon, caniatáu i Lywodraethau dorri eu rhwymedigaethau rhyngwladol mewn gwirionedd.
Felly, mae'n fater yr oeddwn wedi bwriadu ei drafod gyda Robert Buckland pan oedd yn Arglwydd Ganghellor. Yn anffodus, cynhaliwyd fy nghyfarfod y diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo—nid bod unrhyw gysylltiad rhwng y ddau beth. [Chwerthin.] Ond mae'n destun pryder mawr yn awr fod yr Arglwydd Ganghellor newydd yn gwneud sylwadau sy'n dynodi bod y penderfyniad a wnaed gan Robert Buckland wedi newid ar ôl ymgynghori. Maes o law, byddaf yn cyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor, a byddaf yn gwneud y pwyntiau hyn, ond rhaid imi ddatgan bod y cynigion hyn, gyda'r holl ddarnau eraill o ddeddfwriaeth gyda'i gilydd yn tanseilio hawliau sifil a democratiaeth yn sylweddol yn fy marn i.