Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:29, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedoch chi ddoe, ac ni chlywais y geiriau, 'datganoli i ranbarthau ac awdurdodau lleol' o gwbl. Rydych yn sôn am rymuso pobl a chymunedau, ond onid y gwir yw eich bod yn syml eisiau cipio pwerau gan awdurdodau lleol a chipio pwerau gan Lywodraeth y DU ac mai dyna yw hanfod y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?

A gaf fi ofyn ichi sicrhau, fel rhan bwysig o ffrwd waith y comisiwn annibynnol, oherwydd nid yw o fewn y cylch gwaith a gyhoeddwyd gennych ddoe—cylch gwaith eang iawn, os caf ddweud—? A wnewch chi ofyn yn benodol iddynt ystyried ble y dylai pwerau priodol fod, yn ogystal ag a ddylid datganoli ymhellach i awdurdodau lleol Cymru, sy'n llawer agosach at y bobl ar lawr gwlad na'r Llywodraeth Lafur anghysbell hon yng Nghymru, sydd wedi bod yn canoli pwerau ers 1999?