Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny a chredaf ei fod yn llygad ei le; nid damwain yw hi, yn fy marn i. Pan edrychwch ar yr effaith gronnol a'r cyfuniad o ddeddfwriaeth mewn meysydd penodol, mae'n ymddangos i mi fod yna strategaeth gydunol ar waith. Credaf ei bod yn strategaeth sy'n deillio o'r ffaith bod gennym Lywodraeth sy'n casáu datganoli yn y bôn ac sy'n credu mai camgymeriad oedd datganoli. Pa neges sy'n—[Torri ar draws.] Pa neges—[Torri ar draws.] Pa neges—? Wel, i bwy bynnag sy'n dweud, 'Am rwtsh', ni fyddai ond yn rhaid inni ddyfynnu'n ôl iddo sylwadau Prif Weinidog y DU a wnaed ac a gyhoeddwyd yn eang, ac mae yntau'n ymwybodol iawn ohonynt. Rwy'n credu bod yr anhawster yn deillio nid yn unig o gredu bod datganoli yn gamgymeriad—