Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch yn fawr. Ac yn olaf, rydych wedi cyffwrdd â fy nghwestiwn olaf eisoes—y sylwadau gan Dominic Raab i newid Deddf Hawliau Dynol 1998 i ganiatáu rhyw fath o fecanwaith fel y gall Gweinidogion gywiro dyfarniadau llys. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid bod Dominic Raab wedi anghofio un o'i ddarlithoedd cyfansoddiadol cyntaf yn y brifysgol, oherwydd mae hyn yn mynd at wraidd ein democratiaeth seneddol? Mae gan y Senedd a Senedd San Steffan bwerau eisoes i ddiwygio'r gyfraith. Nid mater i Weinidogion yw diystyru dyfarniad llys am nad ydynt yn ei hoffi, neu am ei fod yn anghyfleus iddynt. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno nad eu rôl hwy yw gwneud hynny, nad rôl unrhyw Weinidog yw cywiro dyfarniad llys, ac os bydd hyn yn mynd rhagddo, mae'n amlwg yn tramgwyddo egwyddor gwahaniad pwerau a rheolaeth y gyfraith? Pa sgwrs a gawsoch gyda swyddogion y gyfraith i fynd i'r afael â hyn? Diolch yn fawr.