Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:58, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

—nid yn unig fod datganoli'n gamgymeriad, ond mewn gwirionedd, lle mae gennych Lywodraeth sy'n methu cydnabod y cryfder gwirioneddol sy'n deillio o ddatganoli grym a grymuso pobl a chymunedau, a sut y mae datganoli'n dda i ddemocratiaeth, ac mae'n drueni fod gennym Brif Weinidog ar hyn o bryd sydd nid yn unig wedi gwneud y sylwadau hynny, ond sydd heb dynnu'r sylwadau hynny yn ôl yn iawn chwaith. Cymeraf fod hynny'n golygu ei fod yn arddel y sylwadau hynny, a dyna'r sylwadau sy'n arweiniad a aiff allan i weddill aelodau'r Cabinet.