Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:53, 20 Hydref 2021

Diolch am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr LCMs y tymor yma. Fydd y cyfreithiau yma ddim yn ddwyieithog, fyddan nhw ddim yn hygyrch ac, yn waeth fyth, fyddan nhw ddim yn cael eu craffu yn llawn gan y Senedd yma. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'ch cyd-Weinidogion yma i sicrhau na fydd y cynnydd yma yn yr LCMs yn parhau?