Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Hydref 2021.
Yfory, bydd yn 55 mlynedd ers i'r domen lo uwchben Aberfan lithro a lladd llond ysgol o blant ac athrawon, ac yn y 55 mlynedd ers hynny, mae'r dasg o gael gwared ar domenni glo eraill oddi ar lethrau ein mynyddoedd yn dal heb ei gorffen. Sylwaf fod rhai wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ysgwyddo'r baich o wneud y tomenni glo hyn yn ddiogel, baich a ddylai fod wedi'i gyflawni gan San Steffan ddegawdau'n ôl. Gwnsler Cyffredinol, hoffwn ofyn i chi yn hytrach a fyddwch yn adnewyddu eich galwadau ar Lywodraeth y DU i dalu'r bil brad hwn, oherwydd, wedi'r cyfan, arferid galw glo yn aur du. Aethpwyd â chyfoeth na ellir dychmygu, bron, o Gymru, ac fe'n gadawyd gyda'r llwch, y budreddi a'r trychineb. Pam y dylai Cymru orfod talu i glirio'r llanast a'r arswyd a adawyd ar ôl?