Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch iawn o glywed hynny gan fy mod i, fel chi, yn hynod bryderus ynglŷn â chynigion y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i ddefnyddio mesurau adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl. Er nad wyf am ailadrodd y dadleuon o blaid ac yn erbyn heddiw, rwy'n parhau i wrthwynebu'r mesurau gwahaniaethol hyn yn llwyr. Yr hyn rwy'n poeni amdano, serch hynny, yw y gallai'r mesurau hyn, yng nghyd-destun Cymru, greu dryswch ynghylch yr angen i fynd â cherdyn adnabod i'r gorsafoedd pleidleisio ar gyfer pob etholiad yn y Deyrnas Unedig, er bod etholiadau datganoledig a lleol yng Nghymru yn cadw'r system lawer tecach. Felly, a gaf fi ofyn pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i liniaru'r dryswch cyhoeddus posibl ynghylch y mater hwn? Diolch yn fawr iawn.