Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Hydref 2021.
Rwy'n croesawu sefydlu cyngor cyfraith Cymru. Rwy'n credu bod potensial mawr yno. Fel y sonioch chi'n gynharach, mae sector cyfreithiol cryf a chynaliadwy yng Nghymru yn bwysig iawn am sawl rheswm gwahanol. Yn ystod y pandemig COVID dangoswyd pa mor bwysig yw technoleg. Ac yn y sector cyfreithiol, nid ydym bob amser wedi bod yn dda iawn gyda thechnoleg, fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol. Pan ddechreuais weithio mewn practis cyfreithiol, roedd sawl un o'r cyfreithwyr heb gyffwrdd â chyfrifiadur erioed, a châi'r peiriant ffacs ei ddefnyddio tan yn ddiweddar iawn. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r cyngor cyfraith flaenoriaethu arloesedd digidol ac asesiad o anghenion technegol fel rhan o'i raglen waith? Diolch yn fawr.