2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
5. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau annibyniaeth cyngor cyfraith Cymru wrth y Llywodraeth? OQ57036
Diolch am y cwestiwn ar gyngor cyfraith Cymru. Rydym wedi bod yn glir o'r cychwyn ei bod yn hanfodol i'r cyngor cyfraith fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Er ein bod wedi hwyluso'r broses o'i sefydlu, ni fydd Llywodraeth Cymru yn aelod o'r cyngor, a mater i'r cyngor fydd penderfynu ar ei gyfansoddiad a'i drefniadau gweithio.
Rwy'n croesawu sefydlu cyngor cyfraith Cymru. Rwy'n credu bod potensial mawr yno. Fel y sonioch chi'n gynharach, mae sector cyfreithiol cryf a chynaliadwy yng Nghymru yn bwysig iawn am sawl rheswm gwahanol. Yn ystod y pandemig COVID dangoswyd pa mor bwysig yw technoleg. Ac yn y sector cyfreithiol, nid ydym bob amser wedi bod yn dda iawn gyda thechnoleg, fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol. Pan ddechreuais weithio mewn practis cyfreithiol, roedd sawl un o'r cyfreithwyr heb gyffwrdd â chyfrifiadur erioed, a châi'r peiriant ffacs ei ddefnyddio tan yn ddiweddar iawn. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r cyngor cyfraith flaenoriaethu arloesedd digidol ac asesiad o anghenion technegol fel rhan o'i raglen waith? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu, yn ôl fy nealltwriaeth i, fod cryn dipyn o gyfreithwyr o gwmpas o hyd nad ydynt erioed wedi cyffwrdd â chyfrifiadur, ond rwy'n siŵr fod hynny'n newid gydag amser.
Credaf eich bod yn llygad eich lle—rydym eisoes yn dechrau cael profiad o'r datblygiadau digidol mewn perthynas â rhoi tystiolaeth, o ran trosglwyddo tystiolaeth, defnydd digidol yn y ffordd y mae dogfennau ar gael yn hygyrch yn y llysoedd ac yn y blaen. Fy mhryder mawr—ac mae'n fater a drafodais pan ymwelais â Chanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd yn ddiweddar, a mater a drafodais ag eraill ac y byddaf yn cael trafodaethau eraill yn ei gylch maes o law gydag aelodau o'r farnwriaeth—yw hygyrchedd a'r cydraddoldeb sy'n deillio ohono, oherwydd un peth yw i'r cyfreithwyr gael eu systemau wedi'u digideiddio'n dda, ond mae'n gwestiwn hefyd o sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r llysoedd, a bod ganddynt hawl hefyd, rwy'n meddwl, i wrandawiadau llys wyneb yn wyneb, yn hytrach na rhai digidol, ac yn y blaen.
Efallai y bydd yna amgylchiadau sy'n pennu sut y caiff hynny ei reoli mewn gwirionedd. Ond yr hyn sy'n glir iawn ar hyn o bryd, gyda nifer o'r llysoedd wedi cau, yn erbyn dymuniadau'r Senedd hon, a heb unrhyw brosesau ymgynghori priodol a digonol yn fy marn i, yw bod gennym bellach rannau mawr o nifer o gymunedau yn ne Cymru â mynediad cyfyngedig iawn. A dywedir wrthynt, wrth gwrs, mai'r ffordd ymlaen yw mynediad digidol. Wel, yn sicr yn fy etholaeth i, a gwn ei fod yr un fath mewn etholaethau tebyg eraill yn ne Cymru a llawer o ardaloedd eraill rwy'n siŵr, pan fydd gennych rhwng 20 a 30 y cant o'r boblogaeth heb gyfrifiadur at eu defnydd, neu at eu defnydd rheolaidd, rhaid gofyn cwestiynau difrifol ynglŷn â chydraddoldeb.
Fodd bynnag, nid oes amheuaeth fod cyfleoedd yn hynny. Yn union fel y gwelwn fod cyfleoedd yn codi o fewn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd, mae'r un peth yn wir gyda gwasanaethau cyfreithiol. Cofiaf yr arswyd llwyr pan ddywedwyd wrthym y gallem gael gwrandawiadau dros y ffôn gyda barnwyr rhanbarth, a'r sioc a achosodd y datganiad hwnnw. Ac wrth gwrs, o fewn ychydig wythnosau, roedd wedi dod yn rhywbeth cwbl normal. Wel, rydym yn mynd yn llawer pellach na hynny wrth gwrs, ond mae'n galw am fuddsoddi. Nawr, mae yna gynigion ac mae arian wedi'i neilltuo ar gyfer y buddsoddiad hwnnw, ond credaf fod yn rhaid inni sicrhau ei fod ynghlwm wrth y broses o foderneiddio'r llysoedd ac ar agenda cydraddoldeb glir iawn. Ac mae honno'n agenda rwy'n bwriadu ei chodi bob cyfle a gaf.