Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 20 Hydref 2021.
Rwy'n teimlo bron fel pe na bai angen imi ymateb i hynny, oherwydd mae Mike Hedges wedi gwneud ei gyhoeddusrwydd ei hun iddo ef ei hun a Nick Ramsay, sef ein cynrychiolwyr uniongyrchol fel Aelodau etholedig yma ar y bwrdd pensiynau. Felly, diolch i Mike am sicrhau ei fod ar gael i drafod natur y buddsoddiadau yn anffurfiol gydag Aelodau, ond hefyd, fel y dywedais, yn ogystal â chodi'r materion hyn yn anffurfiol gyda'n cynrychiolwyr, gellir codi unrhyw fater yn ffurfiol yn uniongyrchol gyda'r bwrdd yn ysgrifenedig i'r cadeirydd a'r aelodau.