Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 20 Hydref 2021.
Fel rydyn ni wedi clywed, ers i Jack osod y cwestiwn hwn, mae wedi dod yn ofnadwy o amserol gyda beth ddigwyddodd ddydd Gwener diwethaf i Syr David Amess. Mae cymaint o gymorth wedi cael ei gynnig i ni fel Aelodau ers wythnos diwethaf i drafod diogelwch, ond mae ein haelodau staff ni—aelodau staff y Comisiwn, ond hefyd ein haelodau staff ni fel Aelodau—hefyd yn gorfod wynebu straen ac ofn, ynghyd â gorfod delio, fel mae Jack wedi bod yn sôn amdano, â thrais ar-lein, trolio a bwlio. Ond hefyd, o ran ein swyddfeydd, pa gymorth ychwanegol allwch chi ei roi, plis, i'n haelodau staff i ymdopi? Rwyf wedi clywed beth oeddech chi'n ei ddweud, Gomisiynydd, wrth Jack ynglŷn â'r stwff ar-lein, ond o ran diogelwch yn ein swyddfeydd, os gwelwch yn dda.