4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyflogeion y Senedd? OQ57045
Diolch am eich cwestiwn, Jack. Mae Comisiwn y Senedd o ddifrif ynglŷn â lles staff Comisiwn y Senedd. Mae wedi bod yn faes ffocws penodol drwy gydol y pandemig wrth inni fonitro lles meddyliol drwy arolygon mynych a chadw cysylltiad rheolaidd â staff. Ceir gweithiwr iechyd galwedigaethol proffesiynol ar y safle sy'n gallu darparu ffynhonnell gyfrinachol o gymorth ac atgyfeirio at wasanaethau eraill, ac mae gwasanaeth cymorth i gyflogeion yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi lles meddyliol, gan gynnwys cwnsela os yw'n briodol. Mae'r gwasanaeth hwnnw hefyd ar gael i'r Aelodau a'u staff. Mae'r Comisiwn wedi sefydlu rhwydwaith lles meddyliol sy'n cynnwys cynorthwywyr cymorth cyntaf iechyd meddwl hyfforddedig.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Ddydd Mercher diwethaf, bûm yn sôn, drwy nifer o gyfryngau, am fater cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n teimlo fel pe bai ymddygiad ymosodol a thrais yn rhan gynyddol o wleidyddiaeth. Nid yw hyn yn iawn. Yn sicr, nid dyma'r math mwy caredig o wleidyddiaeth yr hoffwn i ei weld ac y mae llawer o rai eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei weld. Ddydd Gwener diwethaf gwelsom yr ymosodiad erchyll—ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau a chydweithwyr Syr David Amess, wrth gwrs—ac yna ddoe, gwelsom Michael Gove yn cael ei gam-drin gan giwed ymosodol ar y stryd. Rwy'n anfon fy nymuniadau gorau ato. Ond nid gwleidyddion yn unig sy'n cael eu cam-drin yn y ffordd hon neu sy'n dioddef ymddygiad ymosodol. Ein staff yn aml yw'r rhai sy'n ei ddarllen a'i dderbyn, ac mae'n amlwg fod hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Gomisiynydd, pa gymorth pellach y gellid ei roi ar waith i helpu ein staff, i'w cadw'n ddiogel, ac i'w helpu i ymadfer wedyn?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydych chi'n llygad eich lle; o'r diwrnod cyntaf ichi fod yma rydych wedi galw am wleidyddiaeth fwy caredig, ac rydych chi'n iawn i wneud hynny.
O safbwynt y Comisiwn, mae gennym ffocws hirdymor iawn ar les meddyliol a lleihau'r stigma canfyddedig. Anogir gweithwyr i ddod â'u hunain i gyd i'r gwaith, a chredaf fod hynny'n hynod bwysig. Ar wahân i'r holl bethau eraill a wneir yma, ceir arolwg pwls rheolaidd i fonitro llesiant, yn hytrach na phresenoldeb yn unig, gan ganiatáu ymatebion amser real gan y bwrdd gweithredol. Oherwydd yn aml iawn, caiff salwch ei fonitro drwy fod pobl mewn ystafell neu ar fonitor neu beidio, ond ni fydd hynny'n dweud dim wrthych ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'r unigolyn.
Wrth symud ymlaen, credaf fod angen amlwg yn fy marn i—ac rwy'n siŵr fod eraill yn rhannu'r farn honno—i fonitro'r hyn sy'n cael ei ddweud ar-lein, ac os cysylltir yn uniongyrchol â phobl, neu os effeithir arnynt yn uniongyrchol, dylent wybod bod llwybr yma yn y Senedd iddynt allu siarad am hynny. At ei gilydd credaf fod yn rhaid inni fod yn gyfrifol ein hunain am y ffordd y cyfathrebwn—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny chwaith. Ond rydych chi'n iawn—ein staff fel arfer yw'r bobl gyntaf i weld y casineb a'r chwerwder, ac nid yw hynny'n rhan o'u swyddogaeth. Felly, wrth symud ymlaen, byddwn yn hapus iawn i weithio gyda chi, Jack, i fynd â hyn i ble y mae angen iddo fod, sef datrys neu o leiaf gyfyngu ar rywfaint o'r casineb hwn. Diolch.
Fel rydyn ni wedi clywed, ers i Jack osod y cwestiwn hwn, mae wedi dod yn ofnadwy o amserol gyda beth ddigwyddodd ddydd Gwener diwethaf i Syr David Amess. Mae cymaint o gymorth wedi cael ei gynnig i ni fel Aelodau ers wythnos diwethaf i drafod diogelwch, ond mae ein haelodau staff ni—aelodau staff y Comisiwn, ond hefyd ein haelodau staff ni fel Aelodau—hefyd yn gorfod wynebu straen ac ofn, ynghyd â gorfod delio, fel mae Jack wedi bod yn sôn amdano, â thrais ar-lein, trolio a bwlio. Ond hefyd, o ran ein swyddfeydd, pa gymorth ychwanegol allwch chi ei roi, plis, i'n haelodau staff i ymdopi? Rwyf wedi clywed beth oeddech chi'n ei ddweud, Gomisiynydd, wrth Jack ynglŷn â'r stwff ar-lein, ond o ran diogelwch yn ein swyddfeydd, os gwelwch yn dda.
Rydych chi'n llygad eich lle—mae cefnogaeth sylweddol ers dydd Gwener diwethaf; mae wedi'i gyflymu, ac mae ar gael i'r holl Aelodau a'u staff yma yn y Senedd. Maent wedi sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd yn y cnawd ac ar-lein. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl o ddifrif ynglŷn â phethau. Oherwydd yn rhy aml o lawer clywaf bobl yn dweud, 'Wel, cefais hyn neu'r llall, ond ni wnes ei gymryd o ddifrif'. Rhaid bod o ddifrif ynghylch bygythiadau, a gellir ymdrin â hwy'n unol â hynny. Felly, dyna'r neges gyntaf yr hoffwn ei hanfon at yr Aelodau a'r staff. Ond mae porth iechyd a llesiant pwrpasol ar gael ar-lein a cheir awgrymiadau ac addasiadau hunangymorth y gallwch eu gwneud. Ond rwy'n credu efallai mai'r hyn sydd ei angen arnom yn fawr yma yw hyfforddiant ar sut i osgoi'r peryglon a sut i gydnabod drosom ein hunain a'n staff, yr hyn y gallwn ei wneud—ar wahân i wasgu'r botwm 'dileu', hynny yw—i gadw ein hunain yn ddiogel. Diolch ichi am eich cwestiwn.
Diolch, Joyce, ac rwy'n ymddiheuro am roi'r cyfenw anghywir i chi yn gynharach. Roedd y cyfieithydd yn gywir.