Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:32, 20 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Roedd adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon ar brofiadau staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annifyr iawn i'w ddarllen. Mae'n annerbyniol fod meddygon ymgynghorol a meddygon dan hyfforddiant, a dyfynnaf, 'yn ofni dod i'r gwaith'. Aeth Andrew Goddard, llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon mor bell â dweud,

'Yn ystod ein hymweliad rhithwir dywedodd rhai gweithwyr dan hyfforddiant wrthym eu bod yn ofni dod i'r gwaith, rhag ofn iddynt golli eu rhif Cyngor Meddygol Cyffredinol. Yn fy wyth mlynedd yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon, rwyf wedi ymweld â channoedd o wahanol ysbytai—ac nid oeddwn erioed wedi clywed hynny o'r blaen.'

Y rheswm pam fod staff yn ofni y byddent yn colli eu rhif Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r pryderon difrifol ynghylch diogelwch cleifion o dan y model ysbytai newydd, lle mae'r gweithlu a chleifion yn symud rhwng sawl safle heb ddigon o adnoddau. Bydd llawer o fy etholwyr yn poeni am y newyddion, felly hoffwn glywed gennych heddiw pa gamau a gymerwyd gennych i wella diogelwch cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. A allwch roi'r sicrwydd sydd ei angen ar bobl yn fy rhanbarth? Yn ychwanegol at hynny, sut yr ewch i'r afael â phryderon dilys y staff gweithgar sy'n haeddu gwell ac na ddylent ofni dod i'r gwaith?