8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 20 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:34, 20 Hydref 2021

Diolch yn fawr. Y prif reswm ddaru i ni benderfynu cyflwyno'r gwelliant i'r cynnig heddiw oedd i dynnu sylw at y ffaith bod y mater o gadw athrawon—retention—yn fwy cymhleth ac amlochrog na materion yn ymwneud â staffio a phersonél yn unig; hynny yw, yn fwy eang na chwmpawd y cynnig yma. Wrth gwrs, mae materion personél a staffio yn bwysig, a ddylen ni ddim anghofio chwaith bod ymgyrch recriwtio yn hanfodol bwysig, ond mae angen i ni fuddsoddi mwy mewn ysgolion i gyflogi mwy o staff, os ydym ni wir am i'r Gymraeg ffynnu, os ydym ni wir am i'r cwricwlwm newydd lwyddo, os ydym ni am ddiwygio addysg dysgu ychwanegol yn llawn, yna mae realiti'r colledion addysg rydym ni wedi'u dioddef yn ystod y pandemig hefyd yn peri pryder mawr. Ac mae gwir angen i ni sicrhau bod cynllun ar waith i ateb yr her enfawr o adfer addysg.

Fodd bynnag, pan ddaw hi'n fater o roi hwb i'r gweithlu mewn gwirionedd, rhaid inni gofio bod yna resymau niferus pam fod pobl yn gadael y proffesiwn, ac ar hyn o bryd, mae un o bob tri athro yn rhoi'r gorau i'r ystafell ddosbarth o fewn y pum mlynedd gyntaf. Mae tystiolaeth o ymchwil helaeth, ac yn wir, synnwyr cyffredin yn awgrymu mai'r prif ffactorau sy'n pennu materion cadw yn y sector addysg ydy lles athrawon yn ogystal ag effeithiau llwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, prosesau arolygu, biwrocratiaeth, cyllid a rheolau cyllidebu a diffyg cyfleoedd datblygu proffesiynol—ystod o faterion. Ac er mwyn sicrhau'r gweithlu addysg gryf sydd ei angen arnom ni yng Nghymru, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb i'r holl ffactorau sy'n sbarduno'r mater o gadw athrawon yn y gweithlu, a dyna pam rydym ni'n coelio bod angen dull aml-elfen i fynd i'r afael â'r materion recriwtio a chadw, mewn gwirionedd, cynllun sy'n canolbwyntio ar werthfawrogi'r proffesiwn a chreu gwell amodau gwaith a chyfleoedd i addysgwyr.

Mae'n fy nharo fi hefyd nad ydy cynnig y Ceidwadwyr yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg. Mae yna brinder o dros 300 o athrawon cynradd Cymraeg a 500 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymyrraethau gwahanol i geisio denu mwy i hyfforddi fel athrawon Cymraeg, ond, mewn gwirionedd, mae angen newidiadau mwy strategol a phellgyrhaeddol os ydym ni am newid y patrymau.

Mae materion ariannu a chyllidebu yn pwyso'n drwm ar athrawon ac arweinwyr ysgol, gan effeithio'n fawr ar eu lles ac felly, eto, ar y lefelau cadw, ac un ateb fyddai darparu cyllidebau tymor hwy ar gyfer addysg fel y gall ysgolion a lleoliadau addysg bellach gynllunio a defnyddio eu hadnoddau'n well, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y rheng flaen mewn modd effeithiol ac amserol.

Mae arolygon yn awgrymu nad ydy'r rhan fwyaf o athrawon yn teimlo fel pe bai eu lleisiau'n cael eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond er mwyn creu'r proffesiwn rydym ni am ei weld yn datblygu, er mwyn creu proffesiwn deniadol ac i hybu recriwtio a chadw, mae'n rhaid i Lywodraeth wrando ar athrawon ac arweinwyr ysgol. Ac mae angen hefyd i'n gweithwyr ni weld bod Llywodraeth Cymru yn pwyso am newid gwirioneddol mewn meysydd polisi ac arfer sy'n effeithio ar eu llesiant, yn ogystal â materion sy'n ymwneud efo'r llwyth gwaith, atebolrwydd, arolygu—yr holl faterion yma sydd yn rhoi pwysau sylweddol ar ein gweithlu ni.

Yn y tymor hir, mae'n rhaid inni ddatrys y broblem hon, neu rydym ni'n amddifadu ein plant ni a chenedlaethau i'r dyfodol o addysg sydd wirioneddol yn parchu'r gweithlu, a byddwn ni'n colli mwy a mwy ac yn colli un o'n hadnoddau mwyaf gwerthfawr ni fel cenedl, sef y gweithlu dysgu.