Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Prif Weinidog. Mae adeiladau yn gyfrifol am ychydig yn llai na chwarter o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn deillio o wresogi tanwydd ffosil. Felly, mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn dechrau yn y cartref yn wirioneddol. Mae eich Llywodraeth yn arwain y ffordd, gyda'r cyhoeddiad heddiw o gyllid ar gyfer cartrefi cymdeithasol gwyrddach, a'r safon newydd ar gyfer chwalu tanwydd ffosil y bydd 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf. Mae hynny i gyd yn newyddion hollol wych. Ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am eich sefyllfa yng nghyswllt datblygwyr preifat o ran eu cael nhw i fabwysiadu'r un safonau yn union?