1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2021.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau Cymru sero-net? OQ57124
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Llywydd, mae ein camau gweithredu wedi eu nodi yn y cynllun Cymru Sero Net, a gyhoeddwyd gennym ni yr wythnos diwethaf. Mae'r cynllun yn dangos yr amrywiaeth o faterion y mae'r Senedd hon yn gyfrifol amdanyn nhw, gan nodi camau ym meysydd trafnidiaeth, tai, yr economi wledig ac ynni adnewyddadwy ymysg eraill.
Diolch, Prif Weinidog. Mae adeiladau yn gyfrifol am ychydig yn llai na chwarter o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn deillio o wresogi tanwydd ffosil. Felly, mae mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn dechrau yn y cartref yn wirioneddol. Mae eich Llywodraeth yn arwain y ffordd, gyda'r cyhoeddiad heddiw o gyllid ar gyfer cartrefi cymdeithasol gwyrddach, a'r safon newydd ar gyfer chwalu tanwydd ffosil y bydd 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu i'w rhentu dros y pum mlynedd nesaf. Mae hynny i gyd yn newyddion hollol wych. Ond a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am eich sefyllfa yng nghyswllt datblygwyr preifat o ran eu cael nhw i fabwysiadu'r un safonau yn union?
Wel, Llywydd, diolch i Joyce Watson am hynna, ac am y croeso a roddodd i'r buddsoddiad ychwanegol gwerth £150 miliwn, y mae fy nghyd-Weinidog Lee Waters wedi gallu ei gyhoeddi heddiw, i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol presennol yng Nghymru. Ond mae Joyce Watson yn iawn bod yn rhaid i ni, hefyd, argyhoeddi eiddo rhent preifat a pherchnogion cartrefi i gymryd y camau, y mae angen i bob un ohonom ni eu cymryd yn ein bywydau ein hunain, os ydym ni am gyrraedd y nod o Gymru sero-net erbyn 2050. Bydd rhai o'r penderfyniadau hynny yn benderfyniadau anodd a heriol, ond, yn ôl ym mis Medi, fe wnaethom nodi'r safonau newydd a fydd yn ofynnol gan unrhyw adeilad tŷ preifat sydd ag unrhyw elfen o grant Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag ef. Ar yr un pryd, fe wnaethom ni gymryd camau i wneud yn siŵr na ellir adeiladu tai preifat newydd, yn ogystal â thai cyhoeddus, yn y dyfodol yng Nghymru ar dir sy'n agored i lifogydd. Ac rwy'n gwybod bod y rhain yn bethau heriol yr ydym ni'n eu gofyn gan y sector, ond oni bai ein bod ni'n barod i wneud y penderfyniadau heriol hynny nawr, ni fyddwn ar y llwybr i'r dyfodol y mae angen i ni fod arno, a dyna y bwriedir i'r cynllun yr wythnos diwethaf ei wneud. Bwriedir iddo wneud yn siŵr ein bod ni, yma yng Nghymru, yn gallu cyrraedd y targedau hynny yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain, i wneud y cyfraniadau yn yr holl ystod o feysydd yn ein bywydau ein hunain. Mae tai yn sicr yn un ohonyn nhw. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i'r heriau y gwnaethom eu pennu ar gyfer perchentyaeth breifat fod yn rhan o'r un darlun.
Prif Weinidog, yn 'Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net: cynllun Cymru gyfan 2021-25' datgelwyd mai dim ond 118 o addewidion gan y sector cyhoeddus y mae eich ymgyrch addewidion wedi eu sicrhau yn ystod y 23 mis diwethaf. Felly, er i'ch Llywodraeth Cymru ddatgan yr argyfwng hinsawdd hwn yn 2019, dim ond 16 o awdurdodau lleol sydd wedi dilyn yr esiampl, a dim ond naw awdurdod lleol sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr o ymatebwyr i'r ymgyrch addewidion. Nawr, rydym ni i gyd yn gwybod bod ymgysylltu yn arwain at weithredu, ac mae'n sicr nad yw'r ymgyrch addewidion hon wedi llwyddo hyd yma. Nawr, cyn y toriad, roeddwn i'n falch iawn, ynghyd ag Aelodau eraill yma, o fynd i ddigwyddiad Hinsawdd Cymru ar risiau'r Senedd i glywed gan rai o'r 10,000 o leisiau amrywiol yng Nghymru sy'n dymuno gweld camau gan eich Llywodraeth Cymru chi a'n cyrff cyhoeddus ledled Cymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi gydnabod y lleisiau hyn drwy ymrwymo i ddwyn y dyddiad terfyn ar gyfer y cynllun ymgysylltu newydd ymlaen fel y gellir gweld bod methiant yr ymgyrch bresennol yn ysgogi rhywfaint o weithredu bellach, ac y gellir mynd i'r afael ag unrhyw fethiannau nawr, yn fuan yn hytrach na llawer yn hwyrach? Diolch.
Llywydd, mae arnaf i ofn fod cyfraniad yr Aelod nid yn unig yn grintachlyd, ond mae'n hurt i raddau helaeth hefyd. Rwyf i wedi cael cyfle—tybed a yw hi—i ddarllen y ddogfen y mae'n cyfeirio ati. Mae'n ddogfen galonogol dros ben, Llywydd, mewn gwirionedd. Mae'n nodi addewidion o bob rhan o Gymru, o unigolion i'n sefydliadau mwyaf yn y sector cyhoeddus ac ym maes busnes hefyd. Mae'n rhoi synnwyr gwirioneddol i chi o'r ymrwymiad sydd yma yng Nghymru i'r agenda heriol iawn ond cwbl angenrheidiol hon. Rwy'n cymeradwyo gweithredoedd ein hawdurdodau lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol o bob argyhoeddiad gwleidyddol yn cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu chwarae eu rhan. Ceir disgrifiad cymhellol iawn yn y cynllun gan sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn dathlu'r camau y maen nhw eisoes wedi eu cymryd ac yn dangos beth arall y byddan nhw'n ymrwymo i'w wneud yn ystod gweddill y degawd hwn. Mae cynllun Caerdydd Un Blaned yng nghyngor dinas Caerdydd yn ymgynghoriad ar sut y gall y cyngor fod yn garbon niwtral erbyn 2030 mewn dinas werdd a chynaliadwy. Yn hytrach nag achwyn o'r ymylon, byddai'n well o lawer i'r Aelod ddathlu'r camau y mae pobl ym mhob rhan o Gymru yn eu cymryd, gan gynnwys ein hawdurdodau lleol; maen nhw'n gwneud ymdrechion gwirioneddol i'n tywys ni i ble mae angen i ni ei fod. Y cwbl y mae hi'n ei wneud yw eistedd ar yr ymylon a beirniadu pobl eraill.