Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:56, 2 Tachwedd 2021

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, COP26 yw cyfle olaf arweinwyr y byd i weithredu er mwyn amddiffyn dyfodol ein planed. Gan San Steffan y mae nifer o'r grymoedd i wneud gwahaniaeth, ond does dim yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gweithredu nawr a mynnu bod grymoedd llawn dros yr economi ac ynni yn dod adref i Gymru. Mae gan Liz Saville Roberts Fil gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd a fyddai'n arwain at ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Yn y Senedd yma mae Plaid Cymru hefyd wedi galw sawl gwaith am y grymoedd hynny, a rŷch chi hefyd ar y record yn ddiweddar yn cefnogi'r alwad honno. Felly, yn ystod eich cyfnod yn Glasgow, a fyddwch chi'n codi gyda Boris Johnson yr angen am becyn o bwerau newydd i ddod i Gymru ar fyrder? A allwch chi ddweud mwy am eich asesiad chi o hyd a lled y pecyn o bwerau ychwanegol sydd ei angen arnom?