1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi ddweud bod angen gobaith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a bod angen hyder ac ymddiriedaeth ar bobl i wneud newidiadau yn eu bywydau eu hunain, ac eto mae'r ddadl hon yn gyffredinol yn ysgogi'r casgliad arferol o felinau trafod, enwogion, gwleidyddion a grwpiau pwyso. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, bydd llawer o'r hyn sydd ei angen yn dibynnu ar bobl a theuluoedd yn newid eu hymddygiad—sut maen nhw'n teithio, beth maen nhw'n ei fwyta a defnydd ac effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Ni allwn ni sicrhau'r newid diwylliant hwnnw trwy ddull o'r brig i lawr yn unig; mae angen i ni gael sgwrs genedlaethol sy'n cydnabod bod angen atebion lleol ac unigol ar y broblem hon. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud yw bod angen i ni fynd â phobl gyda ni ar y daith hon, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n bwriadu ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl ar y mater hwn? Pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu gydag unrhyw gostau y gallai teuluoedd eu hwynebu wrth fabwysiadu camau mwy ystyriol o'r hinsawdd?
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y pwynt yna. Mae'n bwynt yr wyf i'n cytuno arno. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud wrth ateb cwestiwn cynharach bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud wrthym ni na fydd tua 60 y cant o'r camau sydd eu hangen i gyrraedd sero net yng Nghymru erbyn 2050 yn dibynnu ar y pethau y mae Llywodraethau yn eu gwneud, na hyd yn oed ar yr hyn y mae corfforaethau mawr yn ei wneud, ond yn hytrach ar yr hyn y mae pob un ohonom ni'n ei wneud yn ein bywydau unigol. Bydd COP Cymru yn gyfle gwirioneddol i gael y math o sgwrs y mae'n cyfeirio ati, a bydd Wythnos newid hinsawdd yng Nghymru ddiwedd y mis hwn yn gyfle arall i ni ddod â'r lleisiau hynny o bob cwr o Gymru sy'n benderfynol iawn o wneud eu cyfraniad o amgylch y rhith-fwrdd hwnnw gyda'i gilydd.
Mae'n iawn; ni all hyn fod yn gyfres o gamau gweithredu o'r brig i lawr yn unig, nac, yn wir, yn sgwrs sy'n cael ei harwain o'r brig i lawr. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn sgyrsiau sy'n cael eu harwain ym mhob rhan o Gymru gan bob math o sefydliadau sy'n barod i chwarae rhan ynddo. Dyfynnais eiliad yn ôl, Llywydd, y newidiadau 'arferion bach gyda'n gilydd' y soniodd plant ym Mynydd-y-Garreg amdanyn nhw; yn yr un ddogfen, mae Sefydliad Merched Llansaint yn ymrwymo i fod yn rhyfelwyr ailgylchu yn eu cymuned eu hunain. Dylem ni ymgalonogi rhywfaint, Llywydd, yn fy marn i; mae'r rhain yn heriau enfawr ac mae'n hawdd i bobl deimlo bod y cyfan yn drech na nhw ac nad oes dim y gallan nhw eu hunain ei wneud, ond rwy'n credu bod ein targedau ailgylchu yng Nghymru a'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael gyda'n gilydd, drwy gamau grwpiau lleol ac awdurdodau lleol, yn dweud wrthym ni, pan fyddwn ni'n cymryd y camau hynny, bod y pethau bach y gallwn ni eu gwneud yn unigol yn ychwanegu at y pethau y gall ein ffrindiau neu ein cymdogion ac eraill yn ein cymunedau eu gwneud, a gyda'n gilydd, gallwn ni wir wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Yn wir, Prif Weinidog, ac wrth i genhedloedd ddod at ei gilydd yn COP26, mae gennym ni gyfle hollbwysig i wneud rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Wrth gwrs, mae'n gofyn i wledydd gydweithio, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a phob Llywodraeth ledled y DU yn gwneud yn union hynny—yn meithrin consensws ac yn ceisio gweithio gyda phartneriaid yn rhyngwladol i wneud y cynnydd sydd ei angen i ddechrau mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r neges yn glir: mae angen i ni sicrhau sero net byd-eang erbyn canol y ganrif ac mae angen i ni leihau allyriadau erbyn 2030 i gadw cynhesu o 1.5 gradd o fewn cyrraedd.
Ymysg pethau eraill, yfory yn yr uwchgynhadledd, ceir pwyslais ar gyllid a sut i ysgogi llifau cyllid cyhoeddus a phreifat ar raddfa ar gyfer lliniaru ac addasu. Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi ei glustnodi ar hyn o bryd ar gyfer datblygu'r seilwaith sydd ei angen i drosglwyddo i economi wyrddach a all wrthsefyll yr hinsawdd yn well? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud hyd yma i ddod o hyd i gyllid preifat i helpu i ariannu technoleg ac arloesi yn hyn o beth?
Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno eto â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am bwysigrwydd gwledydd yn cydweithio. Dechreuodd fy niwrnod i yn y gynhadledd hon drwy rannu llwyfan â Phrif Weinidog y DU, â Phrif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hwnnw yn benderfyniad bwriadol rhyngom ni i gyd i ymddangos gyda'n gilydd i bwysleisio nid yn unig y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng nghydrannau unigol y Deyrnas Unedig ond y ffordd y mae'r camau hynny yn ychwanegu at wneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y DU.
Yn y gynulleidfa yn y digwyddiad hwnnw roedd arweinwyr y byd o hyd at 40 o wledydd eraill ledled y byd, ac roedd yn gyfle i gyfarfod â nifer o'r arweinwyr hynny ond hefyd, drwy rannu llwyfan â'n gilydd, i ddangos iddyn nhw fod y camau lleol yr ydym ni'n eu cymryd yng Nghymru, sy'n cyfrannu at y camau y gall y Deyrnas Unedig eu cymryd, yn cysylltu ymlaen wedyn â'r camau sydd eu hangen ledled y byd.
Mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod y mis nesaf i weld sut y byddwn yn bwriadu buddsoddi yn y seilwaith angenrheidiol i helpu'r camau sydd eu hangen ym maes trafnidiaeth, ym maes ynni adnewyddadwy, ym maes tai ac yn y blaen ledled Cymru. Byddwn yn cyflwyno'r olynydd i raglen buddsoddi mewn seilwaith Cymru, y rhaglen fuddsoddi 10 mlynedd yr ydym ni ar fin ei dirwyn i ben. Bydd gennym ni ddegawd arall o'n blaenau, a byddwn yn cyflwyno honno ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Rhagfyr.
Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies am bwysigrwydd buddsoddiad preifat yn hyn i gyd. Yn wir, bydd buddsoddiad preifat yn enfawr o'i gymharu â'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan awdurdodau cyhoeddus. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i lwytho'r buddsoddiad a fydd yn dod gan fuddsoddwyr preifat. Rydym ni'n sicr yn gwneud hynny yng Nghymru, er enghraifft ym maes ynni adnewyddadwy, lle mae'r camau yr ydym ni'n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru—o ran gwneud yn siŵr bod trefn gynllunio briodol, trefn gydsynio, ein bod ni'n chwarae ein rhan yn y seilwaith angenrheidiol—yn dod â'r buddsoddiad i Gymru sy'n dod wedyn gan gwmnïau preifat sy'n buddsoddi yng Nghymru i greu ynni adnewyddadwy y dyfodol. Ac mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael yn y maes hwnnw, yn fy marn i, yn dangos ein bod ni yma yng Nghymru yn defnyddio ein hadnoddau cyhoeddus i greu amodau yng Nghymru, yr amodau sy'n caniatáu'r buddsoddiad ychwanegol a llawer mwy helaeth hwnnw y bydd yn rhaid i gwmnïau preifat ei ddarparu os ydym ni am gyrraedd y nodau yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain.
Prif Weinidog, yn gynharach eleni, dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd nad oedd y cynlluniau presennol yng Nghymru yn ddigonol. Yn wir, o'r 61 o risgiau a nodwyd gan y pwyllgor yn ei asesiad risg o effaith y newid yn yr hinsawdd yn y DU, roedd yn destun pryder gweld bod 26 o'r risgiau wedi cynyddu o ran brys ers yr adroddiad diwethaf yn ôl yn 2016. Dim ond un yng Nghymru, dim ond un, sydd wedi gostwng o ran ei sgôr brys ers yr asesiad blaenorol. Yr wythnos hon, wrth i chi ymgynnull ag arweinwyr eraill y byd yn COP26 yn Glasgow, rwy'n gobeithio y gwnewch chi fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan wledydd eraill ac ymgorffori syniadau newydd ym mholisïau eich Llywodraeth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi esbonio i ni heddiw pa gamau sydd wedi eu cymryd ers yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ym mis Mehefin? O ystyried yr angen i gyflymu cynnydd a sicrhau bod pobl Cymru yn gallu fforddio newid i gamau mwy ystyriol o'r hinsawdd, pa wersi ydych chi eisoes wedi eu dysgu o COP26 o ran sut y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn yma yng Nghymru? Pa effaith fydd COP26 yn ei chael ar bolisïau eich Llywodraeth yn y dyfodol?
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i ymchwiliadau'r pwyllgor wedi eu nodi, wrth gwrs, yn ein cynllun sero net a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Am eiliad, mae'n bwysig, oherwydd, yn y ffordd y dywedodd Paul Davies, rwyf i eisiau dod o COP gan roi hyder a gobaith i bobl yng Nghymru nad yw'r broblem hon yn drech na ni os byddwn yn gweithredu gyda'n gilydd. A'r hyn y mae'r cynllun yn ei ddangos yw ein bod ni'n hyderus nawr y byddwn ni wedi cyrraedd ein targed yn y cylch cyllideb carbon cyntaf hyd at 2020, ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni neu i gyflawni'n well na'r targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2025, ond bod yn rhaid i'r pum mlynedd nesaf, blynyddoedd tymor y Senedd hon, fod yn flynyddoedd lle'r ydym ni'n cymryd y camau ychwanegol hynny a fydd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn ar gyfer y targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2030. Mae Paul Davies yn iawn, Llywydd; mae mwy i'w wneud a mwy o gamau brys y mae angen eu cymryd. Rydym ni wedi cymryd rhai o'r camau haws yn barod, a'r llathenni mwy heriol sydd o'n blaenau.
Wrth gwrs, mae bod yn COP yn gyfle i ddysgu gan bobl eraill, a dyna'n union yr wyf i'n ceisio ei wneud yma. Rwyf i wedi cael sgyrsiau heddiw, er enghraifft, ag arweinwyr o Fangladesh ac o Tanzania. I'r ddwy wlad hynny, nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y maen nhw'n poeni amdano ar gyfer y dyfodol; mae'n digwydd yno nawr. Mae cynnydd i lefelau'r môr yn golygu bod rhannau o'u cymunedau yn gweld heddiw effaith y newid yn yr hinsawdd ar eu bywydau bob dydd. Rhan o fy mhresenoldeb i yma, a rhan o'r hyn y byddwn ni'n ei gael drwy Weinidogion eraill Cymru, ond hefyd y trydydd sector a sefydliadau eraill yng Nghymru sydd wedi dod i Glasgow, fydd cyfres ehangach o syniadau, gan edrych ar bethau y rhoddwyd cynnig arnyn nhw mewn rhannau eraill o'r byd, gan ddysgu weithiau am bethau y mae angen eu gwneud yn wahanol ac weithiau'n dysgu am y llwyddiannau hynny. Mae bod yma yn gyfle enfawr nid yn unig i ni ddweud wrth bobl eraill am bethau yr ydym ni'n eu gwneud yng Nghymru, ond i ddysgu ganddyn nhw fel bod gennym ni'r gyfres ehangach honno o gamau y gallwn ni eu cymryd yng Nghymru i ganiatáu i ni gyflawni'r nodau yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain, nid yn unig yn ystod tymor y Senedd hon ond ar y llwybr sydd y tu hwnt iddo.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, COP26 yw cyfle olaf arweinwyr y byd i weithredu er mwyn amddiffyn dyfodol ein planed. Gan San Steffan y mae nifer o'r grymoedd i wneud gwahaniaeth, ond does dim yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gweithredu nawr a mynnu bod grymoedd llawn dros yr economi ac ynni yn dod adref i Gymru. Mae gan Liz Saville Roberts Fil gerbron Senedd San Steffan ar hyn o bryd a fyddai'n arwain at ddatganoli Ystad y Goron i Gymru. Yn y Senedd yma mae Plaid Cymru hefyd wedi galw sawl gwaith am y grymoedd hynny, a rŷch chi hefyd ar y record yn ddiweddar yn cefnogi'r alwad honno. Felly, yn ystod eich cyfnod yn Glasgow, a fyddwch chi'n codi gyda Boris Johnson yr angen am becyn o bwerau newydd i ddod i Gymru ar fyrder? A allwch chi ddweud mwy am eich asesiad chi o hyd a lled y pecyn o bwerau ychwanegol sydd ei angen arnom?
Diolch yn fawr i Adam Price, Llywydd, am y cwestiwn yna. Dwi yn gefnogol o bwrpas y Bil y mae Liz Saville Roberts wedi ei gyhoeddi i roi mwy o ddewisiadau yn ein dwylo ni i ddelio gyda'r pethau sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mi oedd y pwyllgor—y CCC—yn dweud bod oddeutu 40 y cant o bethau sy'n cyfri at ein hamcanion yn 2050 yn dal i fod yn ein dwylo ni fan hyn yng Nghymru a 60 y cant yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yng nghyd-destun y gynhadledd yma yn Glasgow, rŷn ni wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy'n dangos y pethau rŷn ni eisiau eu cael i'n helpu ni i wneud mwy i gyfrannu at yr ymdrech dros y Deyrnas Unedig i gyd. Bydd cyfle i adeiladu ar y gynhadledd ar ôl y gynhadledd am y pethau mwy rŷn ni eisiau eu gwneud, nid jest ar ein pennau ein hunain ond gyda phobl eraill. Dyna rywbeth dwi wedi dysgu'n barod mewn llai nag un diwrnod lan yn Glasgow: y posibiliadau sy'n dod pan ydych chi'n rhannu gwybodaeth ac yn rhannu syniadau gyda gwledydd eraill y tu fewn i'r Deyrnas Unedig ond tu fas hefyd.
Diolch i'n cyfoeth o adnoddau naturiol, mae gan Gymru gyfle i fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd ac i fod yn arweinydd byd-eang yn yr ymateb i ynni'r hinsawdd. Roedd yn galonogol gweld, rwy'n credu, y bu gostyngiad o 20 y cant i allyriadau yn y tair blynedd hyd at 2018, ond rhwng 2018 a 2019 roedd yn destun pryder gweld bod y gostyngiad hwnnw wedi arafu. Rhoddodd y pwyllgor newid hinsawdd, yn ei asesiad diweddaraf o gynnydd yng Nghymru, yr asesiad llwm bod y diffyg strategaeth gydlynol ar draws yr economi gyfan ar gyfer 2050, ar lefelau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd y targed o 80 y cant, heb sôn am sero net. Pa mor hyderus ydych chi, Prif Weinidog, y bydd y cynllun Cymru Sero Net newydd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, yn asesiad nesaf y pwyllgor, yn gyfystyr â'r strategaeth gydlynol na welwyd hyd yma?
Wel, Llywydd, a gaf i ddweud ein bod ni'n hyderus y byddwn ni'n cyrraedd targed 2020? Rydym ni'n mesur y pethau hyn dros bum mlynedd gan fod y targed yn agored iawn i ystumiadau un flwyddyn. Mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn y cafwyd cynnydd cyflym yn rhan gyntaf y rhaglen bum mlynedd gyntaf, llai felly yn yr ail hanner. Ond dyna, rwy'n credu, yw natur y ffordd y mae'r pwnc penodol hwn yn gweithredu. Rydym ni ar y trywydd iawn, yn ein barn ni, i fodloni a rhagori ar yr ail gyllideb garbon—y gyllideb a fydd yn cael ei datgan ar ôl diwedd tymor y Senedd hon. Ond fel y dywedais mewn ateb cynharach, mae yna fwy y mae'n rhaid i ni ei wneud yn y pum mlynedd hyn i wneud yn siŵr y gall y bobl sy'n eistedd yn y Senedd ar ôl y cyfnod hwn o bum mlynedd fod yr un mor hyderus o gyrraedd targed yr ydym ni wedi ei osod ar gyfer 2030. Oni bai ein bod ni'n barod i wneud mwy yn nhymor y Senedd hon, ni fyddwn ar y trywydd iawn i wneud hynny, a dyna pam mae ein cynllun yn ein hymrwymo i'r camau ymarferol hynny.
Ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, Llywydd, mae'r pethau hyn yn heriol, ac maen nhw'n heriol i bob Aelod o'r Senedd, oherwydd er y gallwn ni gytuno, mewn egwyddor ac mewn gobaith, bod yn rhaid i ni wneud mwy i berswadio pobl, er enghraifft, i beidio â defnyddio eu ceir, pan ddaw'n fater o enghreifftiau penodol mewn etholaethau penodol, bydd yr Aelodau o dan bwysau i gymryd gwahanol safbwynt ar hynny. Bydd yn rhaid i ni, bob un ohonom ni, fod yn barod i fynd i'r afael â'r penderfyniadau anodd hynny ym mhob agwedd ar ein bywydau, a gyda'n gilydd, i wneud y pethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Rydym ni'n credu bod ein cynllun yn ein rhoi ni ar y trywydd hwnnw. Ond heb y penderfyniad hwnnw, nid yn unig mewn Llywodraeth, ond ar draws y sbectrwm gwleidyddol a'r tu hwnt i hynny hefyd, yna bydd y daith honno yn anodd dros ben i'w chyflawni.
Un enghraifft o le mae gan Gymru botensial enfawr yw cynhyrchu hydrogen gwyrdd drwy ddefnyddio ein hynni llanw enfawr—capasiti ynni llanw cudd i raddau helaeth, ond yn sylweddol iawn, iawn ar raddfa Ewrop ac yn wir ar raddfa fyd-eang—oddi ar ein harfordiroedd gogleddol a deheuol. Wrth fanteisio ar y cyfle hwnnw, ai polisi Llywodraeth Cymru yw gwrthod hydrogen glas neu lwyd, sy'n defnyddio tanwydd ffosil i gynhyrchu'r nwy, a chanolbwyntio ar hydrogen gwyrdd yn unig, gan ddefnyddio 100 y cant o ynni adnewyddadwy? Oni ddylem ni wrthod yr ymgais gan y diwydiant tanwydd ffosil i wyrddgalchu ei effaith yn yr un modd ag y gwnaethom ni gyda ffracio hefyd?
Wel, diolch i Adam Price am y cwestiwn olaf yna, Llywydd. Mae'n iawn i ddisgrifio ynni'r llanw fel technoleg gychwynnol. Roedd yn siomedig iawn i mi yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant na chlywsom ni ddim gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y mae'n mynd i helpu i ddatrys yr un rhwystr mwyaf i ryddhau'r cyfraniad y gall ynni'r llanw ei wneud drwy greu llwybr at fanteisio masnachol. Yma yng Nghymru, rydym ni'n gwneud buddsoddiadau sylweddol yn ochr ddatblygiadol y technolegau newydd hynny. Ond, yn anochel, mae'r ynni y maen nhw'n ei gynhyrchu ar y camau cynnar yn ddrytach na thechnolegau mwy aeddfed. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i lwybr i'r farchnad ar gyfer ynni'r llanw, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny drwy gefnogi pris y trydan hwnnw yn ystod y cyfnod y mae'n datblygu'r llwybr hwnnw. Ni chlywsom ni ddim am hynny, ac nid yw hynny yn ein helpu o gwbl i wneud y diwydiant cychwynnol hwnnw yn ddiwydiant gwirioneddol yma yng Nghymru.
I ateb cwestiwn yr Aelod am hydrogen, ychydig iawn sydd i'w ddweud o blaid hydrogen llwyd. Mae gan Lywodraeth y DU ddull deuol o ymdrin â hydrogen glas a gwyrdd. Nid ydym ni yn cytuno â hynny. Mae ein cynllun ni yn eglur: mai'r hyn yr ydym ni ei eisiau yw dibynnu ar hydrogen gwyrdd yn unig, yn sicr erbyn 2050. Rwy'n credu bod dadl wahanol ynghylch a oes rhyw ran yn y tymor byr y gall hydrogen glas ei chwarae, cyn belled â'i bod yn amlwg ei fod ar lwybr i hydrogen gwyrdd yn unig, ac rwy'n credu ein bod ni o leiaf yn agored i'r ddadl honno. Ond mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn wahanol i safbwynt Llywodraeth y DU ar hyn. Nid yw'n ddull deuol; mae'n ddull sy'n arwain at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf a wnaeth Adam Price: ni allwn ganiatáu i'r diwydiant tanwydd ffosil wyrddgalchu ei weithredoedd. Bydd tanwydd ffosil yn dod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yn ystod oes llawer o Aelodau'r Senedd hon. Mae'r daith honno yn anochel ac mae angen i ni ymrwymo yn llwyr iddi.