Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno eto â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am bwysigrwydd gwledydd yn cydweithio. Dechreuodd fy niwrnod i yn y gynhadledd hon drwy rannu llwyfan â Phrif Weinidog y DU, â Phrif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hwnnw yn benderfyniad bwriadol rhyngom ni i gyd i ymddangos gyda'n gilydd i bwysleisio nid yn unig y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng nghydrannau unigol y Deyrnas Unedig ond y ffordd y mae'r camau hynny yn ychwanegu at wneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y DU.
Yn y gynulleidfa yn y digwyddiad hwnnw roedd arweinwyr y byd o hyd at 40 o wledydd eraill ledled y byd, ac roedd yn gyfle i gyfarfod â nifer o'r arweinwyr hynny ond hefyd, drwy rannu llwyfan â'n gilydd, i ddangos iddyn nhw fod y camau lleol yr ydym ni'n eu cymryd yng Nghymru, sy'n cyfrannu at y camau y gall y Deyrnas Unedig eu cymryd, yn cysylltu ymlaen wedyn â'r camau sydd eu hangen ledled y byd.
Mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i'r Aelod aros tan fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod y mis nesaf i weld sut y byddwn yn bwriadu buddsoddi yn y seilwaith angenrheidiol i helpu'r camau sydd eu hangen ym maes trafnidiaeth, ym maes ynni adnewyddadwy, ym maes tai ac yn y blaen ledled Cymru. Byddwn yn cyflwyno'r olynydd i raglen buddsoddi mewn seilwaith Cymru, y rhaglen fuddsoddi 10 mlynedd yr ydym ni ar fin ei dirwyn i ben. Bydd gennym ni ddegawd arall o'n blaenau, a byddwn yn cyflwyno honno ochr yn ochr â'r gyllideb ym mis Rhagfyr.
Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies am bwysigrwydd buddsoddiad preifat yn hyn i gyd. Yn wir, bydd buddsoddiad preifat yn enfawr o'i gymharu â'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan awdurdodau cyhoeddus. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i lwytho'r buddsoddiad a fydd yn dod gan fuddsoddwyr preifat. Rydym ni'n sicr yn gwneud hynny yng Nghymru, er enghraifft ym maes ynni adnewyddadwy, lle mae'r camau yr ydym ni'n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru—o ran gwneud yn siŵr bod trefn gynllunio briodol, trefn gydsynio, ein bod ni'n chwarae ein rhan yn y seilwaith angenrheidiol—yn dod â'r buddsoddiad i Gymru sy'n dod wedyn gan gwmnïau preifat sy'n buddsoddi yng Nghymru i greu ynni adnewyddadwy y dyfodol. Ac mae'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael yn y maes hwnnw, yn fy marn i, yn dangos ein bod ni yma yng Nghymru yn defnyddio ein hadnoddau cyhoeddus i greu amodau yng Nghymru, yr amodau sy'n caniatáu'r buddsoddiad ychwanegol a llawer mwy helaeth hwnnw y bydd yn rhaid i gwmnïau preifat ei ddarparu os ydym ni am gyrraedd y nodau yr ydym ni wedi eu gosod i ni ein hunain.