Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Un enghraifft o le mae gan Gymru botensial enfawr yw cynhyrchu hydrogen gwyrdd drwy ddefnyddio ein hynni llanw enfawr—capasiti ynni llanw cudd i raddau helaeth, ond yn sylweddol iawn, iawn ar raddfa Ewrop ac yn wir ar raddfa fyd-eang—oddi ar ein harfordiroedd gogleddol a deheuol. Wrth fanteisio ar y cyfle hwnnw, ai polisi Llywodraeth Cymru yw gwrthod hydrogen glas neu lwyd, sy'n defnyddio tanwydd ffosil i gynhyrchu'r nwy, a chanolbwyntio ar hydrogen gwyrdd yn unig, gan ddefnyddio 100 y cant o ynni adnewyddadwy? Oni ddylem ni wrthod yr ymgais gan y diwydiant tanwydd ffosil i wyrddgalchu ei effaith yn yr un modd ag y gwnaethom ni gyda ffracio hefyd?