3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:42, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am sefyllfa COVID, yn ystod tymor yr hydref sydd wedi bod yn heriol iawn yn barod. Nawr, yn fy niweddariad diwethaf i, roeddwn i'n gallu adrodd am ostyngiad yn nifer yr achosion a'u bod nhw'n cyrraedd man gwastad, a oedd yn awgrymu ein bod ni, o bosibl, wedi mynd heibio i frig y don hon. Yn ystod y tair wythnos diwethaf, mae'r sefyllfa yng Nghymru wedi gwaethygu, ac fe nodwyd ein cyfraddau uchaf ni erioed o achosion yn ystod mis Hydref—dros 700 o achosion fesul 100,000. Fe wyddom ni fod camgymeriadau mewn labordy preifat yn Lloegr wedi arwain at roi canlyniadau negyddol i brofion i filoedd o bobl, a hynny ar gam, ac fe allai'r ffaith honno fod wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Rydym ni wedi nodi tua 2,000 o achosion o amrywiolyn newydd yng Nghymru hefyd, ac rydym ni'n monitro hynny'n ofalus.

Mae hi'n amlwg nad yw'r pandemig yn agos at fod wedi gorffen ac mae'n rhaid i ni barhau â'n hymdrechion ni i ddilyn y mesurau a wnaethom ni eu rhoi nhw ar waith i'n cadw ni ein hunain, a'n teuluoedd ni, a'n cymunedau ni'n ddiogel. Nid y cynnydd yn nifer yr achosion yn unig yw'r broblem; ond y pwysau y mae hynny'n ei roi ar ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal cymdeithasol ni. Rydym ni'n gweld pwysau oherwydd achosion brys sy'n gysylltiedig â materion nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID sy'n debyg iawn i'r hyn y byddwn ni'n ei weld fel arfer yn nyfnder y gaeaf, ac mae'r nifer cynyddol o achosion COVID-19 yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau mewn ysbytai ac unedau gofal dwys. Mae pob un o'n byrddau iechyd ni'n wynebu'r galw cynyddol hwn am wasanaethau.

Rydym ni wedi bod yn cynllunio, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid iechyd a gofal, i ddatblygu ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gaeaf 2021-22, a gyhoeddwyd ar 21 o fis Hydref. Wrth hanfod y cynllun hwn y mae canolbwyntio ar ddiogelwch a lles y cleifion. Drwy weithgareddau ataliol i geisio cadw pobl yn iach, rydym ni'n awyddus i leihau'r angen am ofal brys ac mewn argyfwng, ac fe fydd hynny yn ei dro yn ysgafnhau'r pwysau ar y GIG. Mae'r cynllun yn galw ar bob rhanbarth i ddatblygu cynllun iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer y gaeaf drwy fecanweithiau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae hyn yn cefnogi dull cydgysylltiedig o gynllunio ar gyfer yr gaeaf, sy'n cwmpasu'r hyn a ddarperir gan awdurdodau lleol a'r hyn a ddarperir gan fyrddau iechyd. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio nawr ar fynd i'r afael â'r saith blaenoriaeth yn y cynllun ar gyfer y gaeaf. Yr amcan yw diogelu'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn ogystal ag amddiffyn y gwasanaethau hanfodol, ein gweithlu ymroddedig ni, a'r cyhoedd. Rwy'n disgwyl gweld y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn datblygu'r cynlluniau hyn yn ddiweddarach yn ystod y mis hwn, ac fe fyddwn ni'n eu hadolygu nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw'n rhai cadarn.

Dyrannwyd cant a phedwar deg o filiynau o bunnoedd i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG drwy'r gronfa adfer i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau diogel dros weddill y flwyddyn, a fydd yn cynnwys cyfnod anodd iawn y gaeaf, ar gyfer ymdrin â'r gwaith sydd wedi pentyrru o ran triniaethau i gleifion dros y 18 mis diwethaf. Mae hyn ar ben y £100 miliwn a ddyrannwyd gennym ni ym mis Mai. Dyrannwyd £48 miliwn arall i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dosbarthwyd cyfanswm o £9.8 miliwn ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun ar gyfer y gaeaf.

Nawr, fe hoffwn i symud ymlaen at ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, a gyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r niwed a allai gael ei achosi gan y cyfyngiadau COVID y bu'n rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith cyn hyn, ac nid oes neb ohonom ni'n dymuno mynd yn ôl at y mesurau hynny. Eto i gyd, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni ynddi hi, roedd hi'n rhaid i ni ystyried yn ofalus iawn yr angen i fynd yn ôl at rai mesurau mwy llym.