3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:46, 2 Tachwedd 2021

Rŷn ni wedi cytuno mai’r opsiwn gorau nawr yw cryfhau rhai o’r mesurau presennol sydd eisoes ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys brechu, ac yn benodol bwrw ati’n gyflymach i gyflwyno brechlynnau atgyfnerthu, a brechlynnau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed. Rŷn ni eisoes wedi cynnig brechlynnau atgyfnerthu i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal sy’n gymwys. Fel bob amser, hoffwn i ddiolch i bawb sy’n rhan o’n rhaglen frechu anhygoel am yr holl waith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Brechu a brechlynnau atgyfnerthu yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws o hyd. Heb y rhaglen hon, byddai’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth o lawer. Mae brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol, ac maen nhw’n parhau i wneud hynny.

Rŷn ni’n gwybod mai cyfraddau uchel o’r haint ymhlith pobl ifanc sy’n gyfrifol am ran o’r cynnydd yn y niferoedd. Yr wythnos hon, rŷn ni’n cyhoeddi pecyn cymorth i helpu penaethiaid i ymdrin â nifer uchel yr achosion yn eu hysgolion ac i gyflwyno mesurau amddiffyn eraill yn gyflym. Rŷn ni hefyd yn cynyddu ein hymdrechion i annog staff a myfyrwyr ysgolion uwchradd i fachu ar y cyfle i gael prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos. Bydd profi’n rheolaidd, ynghyd â’r mesurau amddiffyn, yn helpu i gadw’r coronafeirws allan o’n hysgolion ni.

Yn fy niweddariad diwethaf, fe wnes i egluro’r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno pàs COVID. Mae'r pàs wedi bod ar waith ers tair wythnos nawr, a byddwn ni yn awr yn mynd ati i geisio estyn ei ddefnydd i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd. Mae’r rhain yn lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull o dan do am gyfnodau hir ac yn aml heb orchuddion wyneb.

Yn olaf, rŷn ni’n ailgyflwyno’r gofyniad i bobl hunanynysu os bydd rhywun ar eu haelwyd yn dangos symptomau neu’n cael prawf positif ar gyfer COVID-19, waeth beth fo’u statws brechu. Mae hyn oherwydd bod heintiau rhwng cysylltiadau agos hefyd wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mawr mewn achosion. Bellach, bydd angen i gysylltiadau aelwydydd hunanynysu tan y byddant yn cael prawf PCR negatif. Mae’r system hon ar waith yn yr Alban, lle’r oedd cyfraddau achosion ar eu hanterth ym mis Medi ac maen nhw bellach yn llawer is nag yng Nghymru.

Llywydd, mae pob un ohonon ni am ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor, ond os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn dirywio, yn yr adolygiad nesaf byddwn yn ystyried codi’r lefel rhybudd yn uwch ac yn ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau. Mae’r tair wythnos nesaf, felly, yn allweddol. Dwi'n galw ar bawb i ddilyn y mesurau sydd ar waith, yn ogystal â chofio’r egwyddorion sylfaenol hynny a all eich amddiffyn chi ac eraill—golchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a dilyn y drefn brofi. Yn bwysicach na dim, ac allaf i ddim pwysleisio hyn ddigon, ewch i gael eich brechlyn a’ch brechlyn atgyfnerthu pan gewch chi’r alwad. Mae'n achub bywydau. Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn symud yn gyflym, ac, yn yr un modd ag y dirywiodd yn gyflym, gallwn hefyd wyrdroi hyn a gwella ein sefyllfa yma yng Nghymru. Mae pawb yn gweithio’n galed i amddiffyn eu hunain a'r rhai sy’n annwyl iddyn nhw. Gadewch inni ddal ati i wneud hynny gyda’n gilydd. Diolch.