Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am y diweddariad yr ydych wedi ei roi i ni ar COVID-19 heddiw? Nawr, rydych chi'n dweud yn eich datganiad, Gweinidog, fod nifer cynyddol o achosion o COVID yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau ysbyty ac Unedau Gofal Dwys, ac fe fyddwn i'n cytuno â chi fod hynny'n peri pryder. Gwnaeth y Llywodraeth ddileu 224 o welyau'r GIG yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ac felly fe fyddwn i'n awgrymu bod angen cynyddu nifer y gwelyau nid eu gostwng. Felly, os ydych chi'n cytuno â'r asesiad hwnnw, a wnewch chi roi gwybod i'r Siambr heddiw beth rydych chi'n ei wneud i wrthdroi'r gostyngiad hwn a chynyddu nifer y gwelyau?
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad hefyd mai brechlynnau sy'n parhau i fod yr amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws. Rwy'n cytuno yn fawr â chi yn hynny o beth, ac rwy'n credu ei fod yn newyddion i'w groesawu, onid yw e, bod y rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant mawr ledled y DU ac yn wir yma yng Nghymru. Rwy'n credu y dylem ni ddiolch, unwaith eto, i'n holl weithwyr allweddol sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno'r brechlyn hwn sy'n achub bywydau, neu frechlynnau, fe ddylwn i ei ddweud. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael trydydd pigiad erbyn hyn, ond mae angen rhywfaint o sicrwydd arnyn nhw ynglŷn â hynny. Mae'r canllawiau yng Nghymru yn dweud y bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan fyddwch chi'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu, ond mae tystiolaeth yn dangos o wahanol rannau o Gymru nad yw hynny'n wir ac nad yw byrddau iechyd—nid un yn unig, ond nifer o fyrddau iechyd—yn cysylltu â phobl sy'n gymwys eto. Nawr, os ydych chi yn Lloegr, fe allwch chi gael eich dogn atgyfnerthu o safle galw i mewn os yw hi wedi bod yn chwe mis o leiaf ers i chi gael eich ail ddogn a'ch bod chi dros 50 oed neu dros 16 oed ac â chyflwr iechyd sy'n eich rhoi chi mewn mwy o berygl oherwydd COVID-19. Felly, a gaf i ofyn, a fydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r un dull ac os felly, pryd fydd hynny? Yn sicr, fe fyddwn i'n awgrymu y dylai'r Llywodraeth fabwysiadu'r dull hwnnw hefyd yn ddiymdroi.
Nawr, mae tystiolaeth yn awgrymu hefyd bod mwy o bobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau. Rwy'n credu bod hynny'n peri pryder. Rwyf i o'r farn, os ydych chi'n cytuno â'r cyfyngiadau neu beidio, y dylech chi gydymffurfio â'r cyfyngiadau. Felly, nid hwnnw yw fy nghwestiwn i yn hyn o beth, ond rwy'n credu bod pryder yma. Roedd arolwg CoMix yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwisgo mygydau yng Nghymru wedi gostwng yn sydyn dros y mis diwethaf o'i gymharu â Lloegr a'r Alban. Felly, sut bydd cyfyngiadau fel gwisgo mygydau a gweithio o gartref yn cael eu gorfodi pe byddai'r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau? Felly, fe fyddai hi'n dda gennyf i gael gwybod rhywfaint am eich sgyrsiau chi yn y Cabinet ynghylch hyn. Yn amlwg, pan fyddwch chi'n ystyried ehangu'r cyfyngiadau, mae'n rhaid i chi gael trafodaeth am awydd y cyhoedd yng Nghymru i gydymffurfio â'r cyfyngiadau. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n rhoi rhagor o fanylion i ni ynglŷn â hynny hefyd.
Nawr, yn amlwg, os ydych chi'n gofyn i bobl ynysu, mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni hefyd. Yn eich datganiad chi heddiw roeddech chi'n cyfeirio at brofion PCR. A gaf i ofyn, Gweinidog, a oes yn rhaid i aelwyd barhau i gymryd profion PCR rheolaidd nes bod yr unigolyn heintiedig wedi gwella ac wedi cael prawf negyddol? Y rheswm yr wyf i'n gofyn y cwestiwn hwn yw ar gyfer deall y rhesymeg. Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi dweud bod hynny'n cael ei wneud yn yr Alban, ac felly rwy'n siŵr y gallech chi egluro'r rhesymeg. Ond, os bydd rhywun yn cael prawf cadarnhaol ac yna mae'n rhaid i'w aelwyd gael prawf PCR, os daw'r canlyniad hwnnw'n ei ôl mewn diwrnod neu ddau fe all yr unigolyn hwnnw fynd allan unwaith eto wedyn a gadael yr aelwyd, ac, yn amlwg, mae'r unigolyn hwnnw'n dal i fod yn heintus ar yr aelwyd. Felly, tybed a wnewch chi esbonio'r rhesymeg yn hyn o beth.
A wnewch chi roi gwybod i ni hefyd a yw hwn yn fater o gyfraith neu'n ddim ond canllaw i'w ddefnyddio? Rwy'n credu bod hynny'n dra phwysig. Mae pobl wedi gofyn y cwestiwn penodol hwn i mi. Ac yn hyn o beth hefyd, fe fyddai hi o fudd pe byddech chi'n hysbysu'r Siambr am yr holl ofynion ychwanegol a gyhoeddwyd ddydd Gwener. A wnewch chi egluro ai canllawiau yw'r rhain neu ofynion yn ôl y gyfraith? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, os wnewch chi roi gwybod am hynny.
Rwy'n credu bod angen mwy o eglurder ar y pàs COVID, Gweinidog, o gofio y bydd gofyn i ni bleidleisio ar estyn hwnnw'r wythnos nesaf. Nid wyf i am ailadrodd y dadleuon o'm safbwynt i; cafodd y rhain eu trafod eisoes. Ond i gael ein hystyried mewn cyflwr o fod wedi ein brechu'n llawn yma yn y DU, mae angen i ni gael dau bigiad. Yn Israel, mae angen prawf o ddau frechiad arnoch chi ynghyd ag un atgyfnerthu ar ôl chwe mis wedi cael eich ail ddogn neu nid ydych chi'n cael eich ystyried fel un wedi cael ei lawn frechu. A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i ddiweddaru'r system i gynnwys prawf o frechlyn atgyfnerthu yn y gyfundrefn pasys brechlynnau?
Bu rhai mewn cysylltiad â mi hefyd ynglŷn â defnyddio'r pàs COVID. Mae rhai wedi disgrifio'r broses fel rhywbeth dryslyd ac maen nhw'n teimlo bod angen canllawiau gam wrth gam. Rwy'n sylweddoli y bydd pobl o bob oed a gallu yn awyddus i gael pàs COVID. A gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i wella ymarferoldeb y gyfundrefn pasys COVID, yn enwedig felly i helpu'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed gael gafael ar basys COVID? Ac rwy'n dweud hynny o ran peth o'r wybodaeth sy'n ofynnol, fel manylion pasbort, manylion trwyddedau gyrru, ffôn symudol, oherwydd mae yna rai grwpiau o bobl nad oes ganddyn nhw unrhyw un o'r eitemau hynny, ac mae hi'n amlwg y ceir mater amlwg o wahaniaethu yn hynny o beth. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar i chi pe byddech chi'n amlinellu, efallai, yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw pobl nad oes ganddyn nhw unrhyw un o'r dogfennau arbennig hynny yn profi unrhyw wahaniaethu anfwriadol.