Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd gan y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, ein Prif Weinidog y DU, ei fys ar y pỳls pan ddywedodd, a dyfynnaf:
'Mae'r ddynoliaeth wedi gwastraffu amser o ran newid hinsawdd. Mae hi'n un funud i ganol nos ar y cloc...hwnnw ac mae angen i ni weithredu nawr.'
Nawr, mae'r neges honno hefyd yn berthnasol i'r Llywodraeth hon, yn enwedig yng ngoleuni rhai o bryderon a methiannau, mewn gwirionedd, cyllideb garbon sero-net Cymru 2021-25. Nawr, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad mewn cysylltiad â'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r budd a ddaw yn sgil hyn i dai cymdeithasol. Ond mae'n rhaid i mi ofyn i chi, Gweinidog: beth am y 900,000 o gartrefi perchen-feddianwyr yng Nghymru? Disgwylir i'ch dull cyflawni allweddol, y rhaglen Cartrefi Cynnes, rhwng 2011 a 2023 gyrraedd 79,000 o gartrefi yn unig. Felly, a fyddech yn adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Arbed a Nyth er mwyn helpu hyd yn oed mwy o gartrefi i fod yn fwy effeithlon fyth o ran ynni?
Nawr, rydych yn llygad eich lle'n tynnu sylw at yr angen i weithredu ar gynhyrchu ynni. Felly, i fod yn glir, mae Llywodraeth y DU wedi dwyn ymlaen ei hymrwymiad i gael gwared ar lo heb systemau rheoli carbon o gymysgedd ynni'r DU flwyddyn gyfan hyd at 2024. Felly, er fy mod yn croesawu'r moratoriwm parhaus ar unrhyw ddatblygiadau troi gwastraff yn ynni ar raddfa fawr yn y dyfodol, rwy'n gofyn, mewn gwirionedd, pam nad yw polisi 19 yn atal cynlluniau ar raddfa fach hefyd, ac eithrio gwastraff peryglus? Nod Polisi 22 yw cynyddu datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ein cyfeirio at 'Gymru'r Dyfodol'. Mae gan y ddogfen honno 10 ardal a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt, lle mae rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni gwynt ar raddfa fawr. Felly, pam na wnaethoch chi, fel Llywodraeth Cymru ac fel y Gweinidog, asesu ymlaen llaw rai meysydd ar gyfer ynni dŵr? Ac a wnewch chi egluro sut y bydd y prosiectau hyn yn cysylltu â'r grid, os cânt eu dilyn? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod am y problemau sydd gennym yma yng Nghymru gyda'r grid.
Pam ydych chi'n gwneud i Gymru aros tan ddiwedd 2022 cyn i chi nodi cynllun ar gyfer arloesi mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd? Ac mae'n deg dweud ei bod yn eithaf gwael, ddwy flynedd ers cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, nad ydych eto wedi gosod targed ym mholisi 24 i nodi meysydd adnoddau strategol posibl ar gyfer ynni adnewyddadwy morol erbyn 2023.
Pam y mae wedi cymryd pedair blynedd i greu meysydd adnoddau strategol? Ac a fyddwch yn ymrwymo i greu cynllun datblygu morol, a fyddai, fel y mae'r RSPB wedi galw amdano, ers cryn amser bellach, yn ddogfen statudol sy'n llywio datblygiadau i leoliadau penodol? Nawr, yn ôl polisi 27, eich nod yw sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru o brosiectau seilwaith a weithredir yn fasnachol yng Nghymru. Felly, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch ynni niwclear, sut felly mae eich cwmni datblygu eich hun, Cwmni Egino, a gyhoeddwyd dros flwyddyn yn ôl—gobeithio fy mod wedi ynganu hynny'n iawn—ac wedi dyrannu £2.5 miliwn, yn dal heb gynllun busnes ffurfiol hyd yn hyn?
Mae polisi 30 yn ailadrodd eich uchelgais hirdymor i alluogi tua 30 y cant o weithwyr Cymru i weithio o bell. Nawr, os yw hynny'n darged gwirioneddol i Gymru, pam y mae £100,000 o'r £500,000 sy'n cael ei fuddsoddi o hyd mewn chwe safle gweithio hyblyg erbyn 2025 yn mynd i leoliadau yn y Cymoedd yn unig?
Felly, wrth symud ymlaen, rwy'n cefnogi nod polisi 31 i gynyddu cyfran dull taith teithio llesol, ac er fy mod yn gweld bod nod i greu llwybr beicio i gymudwyr rhwng Caerdydd a Chasnewydd, pam na allwn ni fod yn dechrau cynlluniau yn y gogledd a'r canolbarth hefyd? Yn Aberconwy, gallem fod â llwybr teithio llesol yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed. Fodd bynnag, ar ôl dau ddegawd o waith, dim ond yng ngham 2 canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru yr ydym o hyd ar gyfer rhan fawr o hyn. Felly, pam nad ydych chi'n gweithio yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog i symleiddio'r hunllef sy'n cyrraedd y pwynt o weld cynlluniau teithio llesol sy'n barod i'w datblygu ond yn dal i ddisgwyl y cyllid?
Ac yn olaf, rydym yn croesawu nod polisi 32, fel y dywedais i, i gynyddu cyfran y modd o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, a wnewch chi egluro pam mai dim ond £50 miliwn a ddyrennir i fetro'r gogledd, tra bydd y de yn cael £1 biliwn? Gyda'n gilydd, mae angen i bob un ohonom weithio i weld pob sector ac ardal yng Nghymru yn symud yn gyflymach o ran newid hinsawdd, ond, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ateb y sylwadau a'r cwestiynau yna. Diolch.