Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch, Janet. Rwy'n edmygu, Janet, eich ymgais i glodfori datganiad Prif Weinidog y DU ar wyrddu'r byd. O na fyddai'n rhoi ei arian ar ei air. Gwyddom, yn y gyllideb ddiwethaf, na wnaeth y Canghellor hyd yn oed yn sôn am y gair 'hinsawdd'. Gwyddom eu bod wedi lleihau gallu pobl i fynd ar y rheilffyrdd, gan gynyddu gallu pobl i fynd ar awyrennau, a gwyddom ei fod ef ei hun wedi gadael Glasgow i fynd yn ôl i Lundain ar awyren. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'ch gweithredoedd, yn ogystal â'r hyn a ddywedwch ar goedd. Nid wyf yn credu bod Boris Johnson, yn anffodus, yn gwneud Prydain yn falch o gwbl ar hyn o bryd o ran yr hyn y mae'n ei gynnig i'r byd.
Mae'n rhaid imi ddweud hefyd fod gwrthod rhoi moratoriwm ar lo a gwrthod ymgysylltu â ni i newid cylch gwaith yr Awdurdod Glo, fel nad oes dyletswydd mwyach ganddo i hybu cloddio am lo yn y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed yng Nghymru, lle yr ydym wedi bod yn gofyn iddyn nhw wneud hynny ers amser maith, nid yw'n arwydd o'r math o gamau yr hoffem eu gweld mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid oeddwn eisiau taro nodyn o'r math yna o anghytgord.
Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yma yn ein cynllun sero-net yw y gallwn ni, gyda'n gilydd, ledled Cymru, ddwyn pethau at ei gilydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, rwy'n credu bod Janet wedi sôn am nifer o bethau yr hoffwn dynnu sylw atynt yn hynny o beth. Felly, o ran glo, mae'n amlwg bod gennym bolisi yma o ddim rhagor o gloddio am lo ledled Cymru. Soniodd am ynni o wastraff—'troi gwastraff yn ynni', fel yr arferai gael ei alw pan oeddwn i yn y diwydiant. Rydym yn llwyr wrthwynebu llosgyddion newydd ac ati; fodd bynnag, bydd angen llosgi rhywfaint o wastraff—soniodd am rai mathau o wastraff clinigol ac ati. Felly, mae'n bwysig sicrhau ein bod yn cael y math cywir o losgi a'n bod yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy lle mae angen llosgi gwastraff ar gyfer mathau penodol.
Fodd bynnag, fe wnaf godi yn awr y sylwadau a wnaeth Boris Johnson am ailgylchu, pryd yr oedd yn ymddangos ei fod yn wfftio'r syniad bod ailgylchu yn beth da. Yr hyn nad oedd yn gallu ei weld fel rhan o hynny, wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â gwahanu a chasglu deunydd ailgylchu yn unig; mae'n ymwneud â'r hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r deunydd ailgylchu. Holl bwynt ailgylchu yw eich bod yn ei droi yn ôl i'r cynnyrch a wnaed yn y lle cyntaf. Mae gennym ddigon o blastig eisoes yn y byd i'n cadw i fynd mewn cynhyrchion plastig mor bell i'r dyfodol ag y gall dynolryw ei ragweld. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod yn dda iawn wrth ailgylchu a chael yr ailbroseswyr yma yng Nghymru i'w ailgylchu i gynhyrchion y gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro, oherwydd yng Nghymru gwyddom fod pobl eisiau dod ar y daith honno gyda ni, pryd yr ydych yn ailddefnyddio, wrth gwrs, yn gyntaf, ac yna'n ailgylchu. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig sicrhau nad ydym yn bychanu ymdrechion unigol i wneud y peth iawn drwy wneud datganiadau annoeth, am rai o'r pethau y mae angen inni eu gwneud yn y byd.
Mae gennym rai pethau mawr i'w gwneud hefyd. Roedd hi'n iawn i dynnu sylw at ynni gwynt a'r problemau gyda'r grid. Unwaith eto, credaf y gallai Llywodraeth y DU elwa ar sgwrs briodol gyda ni a Llywodraeth yr Alban am y ffordd y mae'r grid cenedlaethol yn gweithredu ar hyn o bryd, oherwydd nid grid cenedlaethol yw e', mae'n grid sy'n cael ei redeg gan bedwar cynhyrchydd mawr ac nid yw wedi'i wneud yn y ffordd yr hoffem ni weld e'n digwydd sef ei ddiogelu at y dyfodol, mae'n cael ei wneud ar sail trefniadau cytundebol. Rydym wedi cael sgyrsiau defnyddiol iawn gyda chynhyrchwyr grid a gydag Ofgem hyd yn hyn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu cael y grid i sefyllfa dda lle gallwn ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, fel y gall cymunedau ledled Cymru, er enghraifft, gael y math o bwyntiau gwefru cerbyd trydan yr hoffem ni eu gweld ac, a dweud y gwir, yr ôl-drosglwyddo band eang yr hoffem ni ei weld hefyd, oherwydd mae'r grid yn addas i'r diben, a hefyd mae angen ei uwchraddio yn y gogledd a'r de. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
O ran y gwaith o weithio o gartref, mae gennym dargedau ar gyfer hynny wrth gwrs. Mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi pwysleisio droeon nad yw hyn yn golygu bod pawb yn gweithio gartref drwy'r amser, ond eich bod yn gweithio gartref pan allwch chi neu eich bod yn gweithio'n lleol, os nad yw eich cartref yn addas, mewn canolfannau bach lleol. Ond, wrth gwrs, yr hyn a fydd yn bwysig iawn i hynny yw band eang. Fel y dywed fy nghyd-Aelod Lee Waters, nid yw band eang wedi'i ddatganoli i Gymru ond rydym wedi camu i'r adwy a greodd Llywodraeth y DU pan fethodd â rhoi cwmpas y signal daearyddol fel rhan o'i darpariaeth ar gyfer band eang ledled Cymru, tra bod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy o ran hynny.
Felly, yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw cyfres o fesurau yn y cynllun hwn sy'n nodi lle yr ydym ni yn awr, sy'n nodi ein cynigion ar gyfer y dyfodol ac yn nodi'r hyn yr hoffem i'n cymunedau ei wneud. Mae ôl-osod er mwyn optimeiddio yn enghraifft dda iawn o hynny. Esgusodwch fi, rwy'n cael trafferth gyda'r peswch hwn, mae gen i ofn, Dirprwy Lywydd. Mae'r ôl-osod gorau yn enghraifft dda iawn o hynny. Felly, yn hytrach na chyhoeddi bod pawb i gael pympiau gwres ffynhonnell aer, gwyddom y bydd pob tŷ yn wahanol. Bydd rhai tai yn addas ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer, a bydd gennym gynlluniau er mwyn caniatáu i'r tai hynny drosglwyddo i hynny. Ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw cynnal rhaglen i nodi'r hyn sydd ei angen ar bob math o dŷ yng Nghymru i'w godi i'r sgôr tystysgrif perfformiad ynni uchaf posibl y gall ei chyflawni. Nid yw'n un ateb sy'n addas i bawb, nid yw'n ddatganiad rhad, ond gwaith caled ochr yn ochr â'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartneriaid y cyngor i nodi'r hyn sy'n gweithio ac yna datrys sut y gallwn ni wneud i bobl drosglwyddo i hynny. Ac wrth gwrs, bryd hynny, byddwn ni wedyn yn gallu rhoi cynlluniau grant ar waith sy'n caniatáu i'n landlordiaid sector preifat a'n tenantiaethau perchen-feddianwyr ddod ar hyd y daith honno gyda ni. Ond, yn hytrach na chyhoeddi cynllun grant yn unig na fydd yn gweithio, rydym yn ymlafnio'n galed gyda'n partneriaid i sicrhau, i Gymru, y bydd gennym gynllun sero-net sy'n gadarn mewn gwirionedd ac a fydd yn sicrhau'r manteision yr ydym eu heisiau.