Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Rhan bwysig arall o'r ymdrech i helpu Cymru i gyrraedd sero net fydd lleihau a chael gwared ar allyriadau o drafnidiaeth sector cyhoeddus a'i fflyd. I'r perwyl hwnnw, mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu cyflwyno ar draws ystâd y gwasanaeth iechyd, ac fe fydd pwyntiau gwefru yn cael eu hystyried ym mhob project yn y dyfodol. Fe fydd adeiladau'r gwasanaeth iechyd yn cael eu diweddaru i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda chynlluniau trydan adnewyddadwy mawr ar waith ac ambiwlansys allyriadau isel neu drydan wedi'u caffael.
Mae cyrff y sector cyhoeddus wedi ymrwymo gyda'i gilydd i fod yn fwy effeithlon o ran sut mae adeiladau a lleoliadau sector cyhoeddus yn cael eu defnyddio. Mae'r gwasanaeth iechyd yn arwain y ffordd fan hyn. Mae gwaith arloesol yn digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle mae'r tir y maen nhw wedi'i sicrhau ac wedi prynu yn mynd i greu fferm solar o 4 MW. Mae gan y fferm solar 10,000 o baneli ar 14 hectar o dir. Mae'n darparu pŵer i Ysbyty Treforys trwy gysylltiad gwifren preifat. Ysbyty Treforys yw'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i wneud hyn, ac yn wir credir mai hwn yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu ei fferm solar ar raddfa lawn ei hun. Fe fydd yn torri'r galw am drydan o dua £0.5 miliwn y flwyddyn gan leihau'r allyriadau carbon yn sylweddol ac ar ei anterth fe allai hefyd gyflenwi'r galw am drydan ar gyfer yr ysbyty cyfan.
Er bod cynnydd yn cael ei wneud, dim ond y dechrau yw'r 'Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru'. Mae'r sector gofal cymdeithasol hefyd wedi cychwyn ar ei daith datgarboneiddio, gyda gwaith wedi hen ddechrau i ganfod ei ôl troed carbon ac i lunio cynllun datgarboneiddio ar gyfer y sector erbyn mis Mawrth 2022. Mae arferion da eisoes yn cael eu nodi ar draws gofal cymdeithasol. Mae llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn symud i alwadau cartref ar sail clystyrau i leihau'r allyriadau, ac mae ôl troed carbon yn elfen allweddol o'r broses gaffael.
Yn Wrecsam, mae dull ffabrig yn gyntaf wedi ei fabwysiadu i wella perfformiad amgylcheddol ac effeithlonrwydd ynni adeiladau gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol eraill, fel Casnewydd a sir y Fflint, wedi gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi trwy osod paneli trydan solar arnyn nhw. Mae’r sector gofal cymdeithasol wedi’i gynrychioli’n dda ac yn gweithio'n galed wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae wedi ymrwymo i’w ymdrechion cyfunol o fewn uchelgais y sector cyhoeddus i gyrraedd sero net erbyn 2030.
Mae'r pandemig wedi ein hatgoffa ni fod angen i'n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol. Rŷn ni hefyd wedi ymrwymo i baratoi Cymru ar gyfer tywydd poethach a gwlypach yn y dyfodol. Mae gwaith wedi'i gomisiynu i ddiweddaru cyngor a chanllawiau iechyd y cyhoedd ar risgiau newid hinsawdd, ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf o'r effaith ar iechyd y cyhoedd yn sgil gwres, oerfel a llifogydd eithafol, a chlefydau sy'n cael eu cludo gan fectorau. Yn ogystal, bydd prosesau ar gyfer rhoi cyngor iechyd y cyhoedd am amodau tywydd eithafol difrifol yn cael eu diweddaru i gynnwys gwasanaethau rhybudd newydd y Swyddfa Dywydd i roi'r wybodaeth orau posibl i'r cyhoedd. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.