Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel y mae'r Aelodau'n ymwybodol, cafodd cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru ei lansio'r wythnos diwethaf, 28 Hydref, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ran hanfodol iechyd a gofal cymdeithasol wrth gyfrannu at uchelgais gyfunol sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2030. Rydym ni'n gwybod bod angen gweithredu, nid yn unig oherwydd mai GIG Cymru yw'r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf, gan gyfrannu hyd at 40 y cant o allyriadau carbon y sector cyhoeddus, ond hefyd oherwydd bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran ymateb i effaith yr argyfwng hinsawdd ar ganlyniadau iechyd.
Mewn ymateb i'r her hon, ym mis Mawrth eleni, cafodd 'Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru' ei gyhoeddi; mandad clir ac uchelgeisiol ar gyfer gweithredu sy'n nodi ymrwymiadau allweddol ar gyfer cyflawni ledled ein hardaloedd allyriadau uchaf. Mae gan iechyd a gofal cymdeithasol ran arweiniol hanfodol ar y cyd o ran ysgogi a gwreiddio sero net ar draws popeth yr ydym ni'n ei wneud, ac wrth ddod â chymunedau Cymru gyda ni, oherwydd bod gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae. Rydym ni'n ymwybodol pa mor ddiflino y mae ein sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio drwy gydol pandemig COVID-19, a bod pwysau ychwanegol y gaeaf o'n blaenau. Fodd bynnag, nid yw'r argyfwng hinsawdd wedi diflannu ac ni fydd yn diflannu ac mae'n rhaid ymateb iddo gyda'r un brys y mae'r pandemig wedi ei ofyn o'n sector.
Mae'r her eisoes wedi ei chroesawu ar draws y sector iechyd, ac mae'r ymroddiad sydd wedi ei ddangos gan grwpiau o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a staff anghlinigol ledled Cymru sydd eisoes yn bwrw ymlaen â'r agenda hon ac yn datblygu eu grwpiau gwyrdd eu hunain i helpu eu lleoliadau gofal iechyd i weithredu'n fwy cynaliadwy wedi gwneud argraff arnaf i. Mae'r tîm yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, wedi cychwyn treialon cyfarpar diogelu personol y mae modd ei ailddefnyddio; maen nhw wedi newid i nwyon anaesthetig sy'n achosi llai o lygredd ac wedi plannu coed a blodau gwyllt, gan gydnabod bod lleihau allyriadau a chynyddu mannau gwyrdd, yn ogystal â helpu i atal clefydau, mae ganddyn nhw fanteision lles sylweddol hefyd. Mae newid y nwy meddygol yn yr ysbyty hwn yn unig, wedi arbed tua'r hyn sy'n cyfateb i yrru 27,500 milltir y mis. Nid yw gwaith o'r fath yn unigryw, mae cynnydd rhagorol yn cael ei gyflawni ar draws ein sector iechyd. Mae data Cymru gyfan yn dangos y bu gostyngiad o 67 y cant yn ôl troed carbon nwyon anaesthetig ledled Cymru ers mis Mehefin 2019, ac mae gan bwyllgor rhwydwaith anaestheteg amgylcheddol Cymru y nod o gyrraedd 80 y cant bellach.
Mae gweithgarwch arall ar y gweill hefyd i gryfhau dull Cymru o ymdrin â gofal iechyd cynaliadwy ac i gefnogi datgarboneiddio mewn gofal sylfaenol ehangach. Bydd ein polisi o ofal iechyd darbodus, gyda'r nod o roi'r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir i gleifion, yn lleihau teithio a chysylltu'n ddiangen â chleifion lluosog.
Mae ein model gofal cyfunol, sy'n seiliedig ar frysbennu clinigol, yn darparu apwyntiadau dros y ffôn neu drwy fideo yn ogystal ag wyneb yn wyneb lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Mae'r model cyfunol hwn yn fwy cyfleus i gleifion; mae'n helpu i atal y perygl o ledu clefydau ac yn lleihau teithiau diangen i gleifion. Mae hyn wedi ei alluogi gan fuddsoddiad mewn seilwaith a meddalwedd digidol, gan roi dewis i gleifion o ffyrdd mwy priodol a gwyrddach o gael gafael ar ofal a chyngor, ac mae eisoes wedi arwain at ostyngiad o dros 7 miliwn o filltiroedd teithio a dros 1.7 miliwn kg o allyriadau carbon. Mae hynny'n cyfateb i 289 o deithiau ledled y byd.