Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

– Senedd Cymru am 6:12 pm ar 2 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:12, 2 Tachwedd 2021

Felly, yr eitem nesaf fydd y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Dwi'n galw ar Julie James i wneud y cynnig yn ffurfiol. [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:13, 2 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Julie James, a ydych chi'n cynnig y cynnig yn ffurfiol? [Torri ar draws.] Gadewch i mi ofyn a oes unrhyw un yn cynnig y cynnig yn ffurfiol? Rwy'n gweld y Gweinidog yn cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM7816 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:13, 2 Tachwedd 2021

Y cynnig yw, felly, i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Unrhyw wrthwynebiad? Na, nid oes unrhyw wrthwynebiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.